Ceisiadau Cynllunio

Sut fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar fy nghais?

Prif sail y penderfyniad yw’r Cynllun Datblygu, er y bydd ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill yn cael eu hystyried. Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw sylwadau perthnasol a dderbyniwn o ganlyniad i’r broses ymgynghorol.

Y cynllun datblygu cyfredol ar gyfer Sir Benfro yw’r , a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2013

Pwy fydd yn gwneud penderfyniad ar fy nghais?

Bydd eich cais naill ai’n cael ei benderfynu yn y Pwyllgor Cynllunio a Hawliau Tramwy, neu bydd yn cael ei drin dan bwerau dirprwyedig gan y Pennaeth Cynllunio. Bydd dros 90% o geisiadau a dderbyniwn yn cael eu penderfynu dan bwerau dirprwyedig. Yn gyffredinol iawn, caiff y cynigion llai, e.e. estyniadau tai, hysbysebion, newidiadau defnydd ac ati eu dirprwyo i swyddogion, tra bo’r Pwyllgor yn penderfynu’r ceisiadau mwy a mwy cymhleth.

Sut gaf i wybod beth yw’r penderfyniad?

Byddwch yn cael hysbysiad penderfyniad, fydd yn dweud wrthych a dderbyniwyd neu a wrthodwyd eich cais. Bydd yr hysbysiad hwn hefyd yn manylu unrhyw amodau ynghlwm wrth gymeradwyo caniatâd cynllunio a’r rhesymau dros yr amodau hyn, neu bydd yn rhoi gwybodaeth ynghylch pam y gwrthodwyd cais.

Ni ddylech ddechrau gweithio ar y safle nes byddwch wedi derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig ffurfiol o’ch cais. Bydd angen i chi weld manylion llawn eich penderfyniad – mae angen astudio a deall unrhyw amodau’n llawn cyn i chi ddechrau gweithio. Cofiwch sicrhau hefyd os mai adeiladwr neu gontractwr arall sydd i wneud eich datblygiad fod ganddo gopi o’r holl amodau. Bydd angen i chi gael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar wahân hefyd ar gyfer eich gwaith.

Gweld y rhestrau wythnosol o benderfyniadau.

ID: 2321, adolygwyd 20/04/2023