Ceisiadau Cynllunio
Mwynau a Gwastraff
Mae traddodiad yn Sir Benfro o chwarela a chloddio am fetelau a glo ers canrifoedd. Ers 1947 mae’n rhaid wrth ganiatâd cynllunio ar gyfer gwaith o’r fath a heddiw mae gennym nifer o safleoedd craig galed, tywod a graean yn gweithio yn y sir. Mae rhai o’r rhain yno ers cyn 1947 ond mae eraill yn ddiweddarach. Nid oes unrhyw gloddio am lo yn digwydd yn y sir o gwbl nawr ond mae olion hanesyddol mwyngloddio a hen chwarelau, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi ymdoddi yn y wlad o’u cwmpas neu wedi mynd yn nodweddion ohoni, ac sydd nawr yn cyfrannu i fioamrywiaeth Sir Benfro.
Yn hanesyddol, tirlenwi oedd y dull o gael gwared â gwastraff ac mae llawer o safleoedd wedi eu hadfer ac nid ydynt bellach yn amlwg o gwbl ar wyneb y tir. Yn sgil Gorchmynion Ewropeaidd nawr mae angen rheoli gwastraff yn lle cael gwared ac er bod rhai safleoedd ar waith yn Sir Benfro mae gwaith yn mynd rhagddo yn gyson i greu cyfleusterau a safleoedd newydd. Mae angen caniatâd cynllunio fel arfer ar gyfer unrhyw ddatblygiadau ar gyfer rheoli gwastraff yn cynnwys cael gwared.