Ceisiadau Cynllunio
Beth sy'n digwydd i'm cais cynllunio?
Derbyn a Chofrestru
Unwaith y byddwn ni wedi cael eich cais, byddwn yn anfon llythyr cydnabod atoch ar y diwrnod y byddwn yn derbyn eich cais. Yna byddwn yn gwirio'r cais er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol ac yn bodloni'r gofynion cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys yr holl gynlluniau a lluniadau angenrheidiol, tystysgrif perchenogaeth a’r tâl priodol. Os nad yw’r holl wybodaeth gennym, ni fyddwn yn gallu cofrestru’r cais a byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud hynny.
Unwaith y gwiriwyd eich cais, bydd llythyr cydnabod yn cael ei anfon atoch. Bydd hyn yn rhoi enw’r swyddog achos sy’n delio â’ch cais, ynghyd â chyfeir-rif eich cais. Bydd angen i chi ddyfynnu hwn wrth gysylltu dros y ffôn neu ysgrifennu atom.
Sylwch: dim ond y swyddog achos yn delio â’ch cais, fel yr enwyd ar eich llythyr cydnabod, fydd yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau manwl ynghylch eich cais. Ni fydd gan swyddogion eraill yn yr adran unrhyw wybodaeth am eich cynnig ac, felly, ni fyddant yn gallu trin unrhyw ymholiadau. Eto, os oes gennych asiant, byddwn yn delio’n uniongyrchol ag ef neu hi.
Ymgynghoriadau
Pan fydd cais am ganiatâd cynllunio’n cael ei dderbyn, bydd manylion y cais yn cael cyhoeddusrwydd. Mae hyn er mwyn i bobl sy’n byw ger safle unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn cael gwybod am y cynigion. Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl wneud sylwadau ar sut y meddyliant y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arnynt, neu amwynder a chymeriad cyffredinol yr ardal. Gall y cyhoeddusrwydd hwn fod ar ffurf llythyrau, hysbysiadau safle neu hysbysebion yn y wasg leol. Bydd gan ymgynghoreion 21 diwrnod i wneud sylwadau ar y cais, ac yna mae modd gwneud penderfyniad.
Bydd ymgynghoriadau hefyd gydag asiantaethau statudol, cwmnïau gwasanaethau, Cynghorau Tref a Chymuned ac adrannau eraill yr Awdurdod fel Priffyrdd a Diogelu’r Cyhoedd.
Caiff rhestr wythnosol o geisiadau a gyflwynwyd, yn rhoi manylion y cynnig, ei gynhyrchu ac mae ar gael i’r cyhoedd ei harchwilio yn Neuadd y Sir.
Ymweliad â’r Safle / Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y swyddog achos yn ymweld â’r safle ac yn gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol all fod ei hangen.
Ni allwn dderbyn newidiadau i geisiadau unwaith iddynt gael eu cyflwyno. Os ydych eisiau newid elfennau eich cais efallai y byddwn yn eich cynghori i dynnu’r cais yn ôl a’i ailgyflwyno.
Penderfyniad
Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori ar ben, a’r swyddog wedi gwneud unrhyw ymweliadau angenrheidiol a’r holl wybodaeth ofynnol ar gael, mae modd gwneud penderfyniad ar y cais.