Cerddwch Sir Benfro

Am dro o amgylch Hubberston (Aberdaugleddau)

Mae’r gylchdaith hyfryd a diddorol hon sy’n dechrau a gorffen ar faes parcio’r Harbwr yn Aberdaugleddau yn cyfuno golygfeydd ysgubol o’r afon yn Aberdaugleddau gyda safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol, yn cynnwys Marina a Dociau Milffwrd ac Eglwys Dewi Sant yn Hubberston.

Cerdded: Ychydig o waith cerdded sydd o faes parcio o dan Bont Victoria, ar bwys archfarchnad Tesco, Aberdaugleddau i dref Aberddaugleddau.
Bws: 300 (Gwasanaeth tref Aberdaugleddau), 302 (Hwlffordd-Aberdaugleddau), 315/400 (Y Pâl Gwibio), and 350 (Cil-maen-Aberdaugleddau). Ar bob gwasanaeth, ewch oddi ar y bws ger Tesco, Milffwrd. Llwybrau Bysiau Sir Benfro
Trên: Mae'r orsaf agosaf yn Aberdaugleddau. Trennau Arriva Cymru
Road Map: Multimap (yn agor mewn tab newydd) - Chwiliwch am "Milford Haven"
Parcio: Mae maes parcio mawr di-dâl o dan Bont Victoria, ar bwys archfarchnad Tesco.
Lluniaeth / Toiledau: Mae'r rhain ar gael ar ddechrau a diwedd y daith gerdded ar y cei yn Aberdaugleddau. Maent ar gael hefyd oddeutu hanner ffordd ar hyd y daith gerdded ym Mae Gelliswick lle mae toiledau cyhoeddus a lle mae Clwb Hwylio Sir Benfro ar agor i'r cyhoedd.

Arolwg:
Dechrau / Diwedd: Maes parcio'r o dan Bont Victoria

Pellter: 3.4 milltir (5.5 km) 1awr 30munud i 2 awr
Tirwedd: Cymysgedd cyffredinol o gerdded ar heolydd bach tarmac a llwybrau glaswelltog, gro mân ac ar y traeth. Mae rhai rhannau yn gallu bod yn fwdog wedi tywydd anffafriol. Mae rhannau eraill yn serth ac yn gallu bod yn eithaf anodd. Dim ond y rhan rhwng y cychwyn a Phwynt Hakin sy'n darmac gwastad ac yn addas felly ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a beiciau, ond dim ond os yw giatiau'r dociau ar agor y gallwch chi fynd ar hwn.
Camfeydd: 0
Gatiau: 1
Stepiau: 76
Pontydd: 1
Maes Parcio: 1
Golygfeydd: 5

  • Dechreuwch y daith gerdded hyfryd hon, sy'n cyfuno golygfeydd trefol a gwledig, ar faes parcio'r o dan Bont Victoria, ar bwys archfarchnad Tesco, Aberdaugleddau. Yn union ar y cychwyn mae golygfeydd ysgubol o'r hen harbwr pysgota a'r marina cyfoes.
  • Dringwch y grisiau o dan Bont Hakin a chroesi'r heol brysur ar y groesfan cyn troi i'r chwith i mewn i Heol St Anne.
  • Cerddwch lan yr heol yma gyda'r dociau islaw ar y chwith yna'r cyntaf i'r chwith i mewn i Hill Street.
  • Cerddwch i lawr Hill Street a phan ddewch chi at y dafarn trowch i'r chwith trwy giatiau'r dociau ac i'r dde ar unwaith ar hyd hen heol yn y dociau sy'n mynd â chi i Bwynt Hakin lle cewch chi olygfeydd ysgubol lan a lawr yr aber yn Aberdaugleddau.
  • Os bydd giatiau'r dociau o dan glo, ewch yn ôl y ffordd y daethoch chi lan Heol y Rhiw, yna'r cyntaf i'r chwith i mewn i Rodfa Vivian neu Vivian Drive, yna i'r chwith i mewn i Gilgant Niwbia neu Nubian Crescent ac i'r chwith eto i mewn i Heol y Capel.
  • Ar waelod Heol y Capel rydych chi'n gallu troi i'r chwith i edmygu'r olygfa ym Mhwynt Hakin ac yna troi i'r dde ar lwybr cul caeedig.
  • Mae'r llwybr yma'n ymagor yn fuan yn llwybr hyfryd ar ben y clogwyn gyda rhagor o olygfeydd godidog o'r Aber a'r datblygiadau diwydiannol sydd yno - dyma le rhagorol i wylio'r llongau yn mynd a dod ar yr Aber.
  • Yn y pen draw mae'r llwybr yn mynd i lawr ac yn fforchio. Cymerwch y fforch i'r chwith i mewn i ran goediog gydag arwydd yn y pen draw i'r chwith ac i'r dde. Mae'r llwybr yn haws os trowch chi i'r dde ond mae'n llawer mwy diddorol os ewch i'r chwith
  • Trowch i'r chwith a byddwch yn mynd i lawr cyfres fer o staerau sy'n mynd â chi ar rodfa gul iawn uwchlaw'r traeth. Mae rhagor o staerau yn mynd â chi i lawr i'r traeth.
  • Cerddwch ychydig ar hyd y cerrig mân at hen fwa yn wal y clogwyn ar y dde. Ewch drwy'r bwa yma a cherdded lan llwybr cul i Lôn y Ffos neu Conduit Lane. Yn niwedd hon mae'n rhaid i chi droi i'r chwith i Heol Picton. Mae tai o wahanol fathau yn yr ardal yma gydag enghreifftiau rhagorol o bensaernïaeth ddomestig sy'n amrywio o oes Fictoria i ddatblygiadau rhwng y ddau ryfel.
  • Ewch ymlaen lan Heol Picton, heibio i Rodfa Westaway a Rhodfa'r Eithin neu Gorsewood Drive ar y chwith, hyd nes dewch chi at ysgol gynradd.
  • Ewch i lawr y lôn las gul gydag ochr yr ysgol.
  • Mae'n disgyn yn glou ac yn dod i ben gyda chyfres fer ond serth o staerau sy'n mynd â chi i'r heol sy'n mynd i Fae Gelliswick lle mae golygfeydd diddorol o'r afon unwaith eto.
  • Hynod ddiddorol hefyd yw Caer Hubberston y gallwch chi weld rhan yn unig ohoni ar y clogwyn ar y chwith. Mae'r gaer wych hon yn un o gyfres o amddiffynfeydd a godwyd ar hyd Aberdaugleddau yn ystod Oes Napoleon pan yr oedd ofn y byddai'r Ffrancwyr yn ymosod.
  • Cerddwch ar hyd Fae Gelliswick, heibio i Glwb Hwylio Sir Benfro, a throi i'r dde wrth arwydd sy'n eich cyfeirio tua'r tir a dyffryn coediog cul.
  • Nawr mae llwybr yn mynd â chi i mewn i'r dyffryn yma - mae'n dilyn glan nant fach bert yng nghanol coetir collddail hynafol. Yn llawer rhy fuan rydych yn croesi pont fach a dechrau cerdded lan y rhiw ar lwybr creigiog igam-ogam sy'n dod mas ar ymyl Maes Chwarae Plant Hubberston gyda ffens o'i amgylch.
  • Trowch i'r chwith a dilyn y ffens, ewch trwy'r giât, ar hyd lôn fach y tu ôl i dai, yna troi i'r dde i Riw St Lawrence, sef y briffordd yn ôl i Aberdaugleddau.
  • Wrth gerdded yr heol yma i mewn i Hubberston, mae Heol yr Eglwys ar y dde a byddai'n syniad da iawn i chi ddilyn gwyriad bach i lawr yr heol yma i weld Eglwys Dewi Sant (er mai dim ond ambell i ddydd Mercher y mae hi ar agor).
  • Ewch ymlaen i lawr Rhiw St Lawrence, gan gadw tua'r chwith yn Heol Waterloo, Hakin hyd nes dewch chi i Bont Hakin. Croeswch yr heol, i lawr y staerau a dyna chi'n ôl yn y maes parcio lle gwnaethoch chi ddechrau'r daith gerdded.
  • Os nad ydych wedi blino gormod, mae llawer o adeiladau diddorol i'w gweld yn yr harbwr a'r marina ac o amgylch, yn cynnwys amgueddfa sy'n adrodd hanes hynod o ddiddorol Aberdaugleddau.

 

 

ID: 254, adolygwyd 28/11/2023