Cerddwch Sir Benfro

Ceunant Trefgarn

Mae'n beth da i gerdded, ac felly beth am gamu allan a phrofi rhai o'r teithiau sydd gan eich cymdogaeth i'w cynnig. Mae'r daith bleserus a diddorol hon sy'n dechrau a gorffen ym maes parcio capel Salem, yn ymyl Spittal Cross, yn un o nifer o deithiau tref a gwlad a grëwyd gan Gyngor Sir Penfro. 

Mwynhewch y daith braidd yn llafurus hon sy'n dechrau a gorffen ym maes parcio Capel Salem ac sy'n cynnwys amrywiaeth o olygfeydd ar y ffordd - o dirluniau tonnog ac agored Sir Benfro i goetiroedd caeedig prydferth, yn rhai collddail a chonwydd yng Ngheunant Trefgarn. 

Mae'r daith dwy awr a hanner hon ar hyd ochr ddwyreiniol Ceunant Trefgarn yn cynnwys tir ffermio agored gyda golygfeydd gwych ynghyd ag enghreifftiau o goedwigoedd hudol, yn rhai collddail a chonwydd. Mae yma amrywiaeth o fflora a ffawna i'w weld drwy'r flwyddyn. Mae'r llwybr yn mynd heibio i'r lleoliad lle bwriadwyd creu cyswllt rheilffordd Brunel â'r Iwerddon ond a adawyd yn 1851 oherwydd y newyn tatws. 

Yn ymyl Spittal Cross, ychydig ymhellach na'r twnnel rheilffordd ardderchog, mae yna faes parcio bychan yn agos i Gapel Salem lle mae'r daith yn dechrau. 

Cerdded: Mae'r daith yn dechrau ac yn gorffen ym maes parcio rhad Capel Salem, yn ymyl Spittal Cross.
Bws: 412 (Hwlffordd-Abergwaun-Aberteifi).Dod oddi ar y bws yn Nhrefgarn a cherdded i'r man cychwyn Bysiau ac Amserlenni (yn agor mewn tab newydd)
Trên: Mae'r orsaf agosaf yn Clarbeston Road. Ymholiadau National Rail: 08457 484 950 National Rail (yn agor mewn tab newydd) 
Map Ffordd: www.multimap.com Chwiliwch am "Wolfscastle, Sir Benfro".
Parcio: Mae yna faes parcio bychan rhad wrth Gapel Salem, yn ymyl Spittal Cross.
Toiledau: Dim.
Lluniaeth: Dim.

Dechrau/Gorffen: Maes Parcio Capel Salem, yn ymyl Spittal Cross.
Pellter: 3.8 milltiroedd (6.15 cilomedrau), 2 ½ awr
Tirwedd: Cerdded egniol ar hyd lonydd a llwybrau. Mae'r llwybrau yn laswelltog, aregog ac yn gallu bod yn fwdlyd a llithrig ar adegau. Rhai mannau serth iawn. Byddwch yn barod!.
Sticil: 3
Giatiau: 4
Grisiau: 18
Pontydd: 2
Maes Parcio: 1
Golygfeydd: sawl un

  • Trowch i'r chwith i lwybr ceffyl coediog ewch i'r chwith lle mae'n fforchio a dilynwch y lôn heibio'r stablau wrth iddo godi'n serth.
  • Yn agos i'r copa mae yna lwybr â giât wedi'i nodi ar y chwith i chi.
  • Mae hwn yn arwain at goetir collddail hyfryd ac yn ddiweddarach i blanhigfa gonwydd.
  • Byddwch yn ofalus gan fod y llwybr yn gul ac y mae yna lethr serth ar y chwith i chi i'r afon islaw. Mae yna olion gwrthglawdd o'r Oes Haearn wedi'u cuddio yn y coed i'r dde ohonoch.
  • Ym mhen hir a hwyr, bydd y llwybr yn disgyn yn serth iawn tuag at yr afon lle dylech chi fynd ar hyd y llwybr sydd wedi'i nodi ar y dde er mwyn dringo unwaith yn rhagor.
  • Dringwch dros ben sticil ar y copa a dilynwch y llwybr glaswelltog sy'n eich arwain at giât i mewn i'r cae.
  • Mae hwn yn ei dro yn eich arwain i fuarth Fferm Trefgarn. Gan adael y fferm dilynwch y lôn sy'n mynd i'r de ac oddi yno mae yna olygfeydd godidog i'r gorllewin ar draws Ceunant Trefgarn tuag at Greigiau Trefgarn a Chastell Maiden.
  • Mae'r lôn hon yn disgyn yn serth at fachdro, ac ar draws pont felin cyn dringo tuag at groesffordd. Trowch i'r dde yn y fan hon ac wrth y groesffordd nesaf trowch i'r dde i lwybr sydd wedi'i arwyddo fel ‘Wood Park'.  Mae hwn yn eich arwain i lawr y tu ôl i fwthyn bychan ac ar hyd llwybr cul sydd ym mhen hir a hwyr yn arwain at lôn fechan arall. Trowch i'r chwith yn y fan hon a dilynwch y lôn yn ôl i faes parcio Capel Salem.
  • Mae'n werth dringo at y capel - adeilad Georgaidd wedi'i gadw'n dda ac a adeiladwyd nôl yn 1827 a'i adnewyddu yn 1874 a 1909.

 

 

ID: 237, adolygwyd 28/11/2023