Cerddwch Sir Benfro
Cwm Gwaun
Mae cerdded yn dda, felly beth am fentro mas i gael profiad o rai o'r teithiau cerdded sydd gyda'ch tref chi i'w cynnig. Mae'r daith gerdded hyfryd a diddorol hon sy'n dechrau a gorffen ar Faes Parcio'r Harbwr, Cwm Abergwaun, yn un o nifer o deithiau cerdded yn y dref a chefn gwlad y mae Cyngor Sir Penfro wedi'u llunio.
Mwynhewch y daith gerdded fer hon gyda glan yr afon sy'n cyfuno golygfeydd godidog o ddyffryn yr afon a'r môr, pensaernïaeth werinol ddiddorol a choetir collddail brodorol a'r adar sy'n byw ynddo. Mae'r llwybr gyda glan yr afon yn wlyb a mwdlyd ym mhob tymor, felly byddwch yn ofalus.
Cerdded: Mae maes parcio'r Harbwr, yng Nghwm Gwaun, yn daith gerdded fach o ganol tref Abergwaun, i lawr Tower Hill.
Bws: 410 (Gwasanaeth Tref Abergwaun) - dod oddi ar y bws yn Harbwr Abergwaun 411 (Abergwaun-Tyddewi-Hwlffordd) - dod oddi ar y bws ar Sgwâr Abergwaun 412 (Aberteifi-Abergwaun-Hwlffordd) - dod oddi ar y bws yng Nghwm Gwaun Amserlenni Bysiau (yn agor mewn tab newydd)
Trên: Yn Wdig mae'r orsaf agosaf, ac mae'n cysylltu gyda'r gwasanaethau bws 410, 411 a 412 Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol: 08457 484 950
Trenau Arriva Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Map Ffordd: Chwilio am "Fishguard"
Parcio: Mae maes parcio mawr di-dâl ar Harbwr yng Nghwm Gwaun
Toiledau: Toiledau cyhoeddus ar ddechrau a diwedd y daith gerdded ar yr Harbwr
Lluniaeth: Ar gael yng nghanol tref Abergwaun, lan Tower Hill ar gyfer maes parcio Cwm Gwaun
Dechrau/Diwedd: Harbwr y Cwm, Abergwaun
Pellter: 2.2 milltir, 1 awr
Camau Cerdded:0
Tirwedd: Tarmac a llwybrau mwdlyd iawn
Camfeydd: 0
Giatiau: 0
Stepiau: 0
Pontydd: 0
Golygfeydd: 2
Maes Parcio: 1
- Dechreuwch y daith yn y maes parcio di-dâl ar yr harbwr yng Nghwm Abergwaun, lle mae golygfeydd bendigedig o'r môr (1).
- O amgylch yr harbwr i gyd mae enghreifftiau gwych o bensaernïaeth werinol, yn cynnwys hen felin wlân (2).
- Cerddwch tuag at bont Cwm Gwaun (3).
- Croeswch hon a throi i'r chwith i feidr ag arwyddion (4), gan groesi'r A487 brysur yn ofalus.
- Dilynwch y feidr yma gyda glan yr afon (5). Yn y pen draw mae'n culhau yn llwybr lleidiog - croeswch nant fach a byddwch yn dod i leiniau o goed collddail brodorol gyda dolydd afon godidog ar y lan gyferbyn (6).
- Cadwch ar y llwybr yma sy'n ymdroelli gyda glan yr afon (7), heibio i hen furddun, tros gwlfer llithrig a lan rhiw gyda wal gerrig ar y chwith.
- Mae'r llwybr yn troi oddi wrth yr afon ac mae golygfeydd ysgubol yn ôl i lawr y dyffryn i gyfeiriad Cwm Gwaun (8).
- Yn y pen draw mae'r llwybr yn mynd eto i gyfeiriad yr afon ac yna mae'n codi gyda'i glan ar deras min afon hynod o ddiddorol (9).
- Yn olaf, rydych yn disgyn tuag at yr afon eto, heibio i hen furddun arall a dod yn at yr afon. Does dim modd cerdded ymlaen ar hyd y llwybr yma ac mae llifogydd arno yn aml (10).
- Trowch yn eich ôl, gan fwynhau unwaith eto y taith gerdded hyfryd hon ar lan yr afon.