Cerddwch Sir Benfro

Cylchdaith Gerdded Gwaith Haearn Stepaside

Mae cerdded bob amser yn braf, felly pam na wnewch chi fentro arni, a blasu rhai o'r llwybrau sy gan eich cymdogaeth i'w gynnig.  Mae'r llwybr gerdded hon, sy'n dechrau a dod i ben ym maes parcio Gwaith Haearn Stepaside, ymhlith nifer o lwybrau cerdded, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, a gafodd eu llunio gan Gyngor Sir Penfro. 

Mae'r daith gerdded fach hon yn cynnwys safleoedd diwydiant hanesyddol Gwaith Haearn Stepaside a Glofa'r Gelli.  Mae'n ymuno â Llwybr y Glowyr - sy'n cynnig taith hir neu daith fer - yn ogystal â'r Llwybr o Stepaside i Saundersfoot. Mae pob un o'r pedair taith gerdded yn cynnig cipolwg hynod o ddiddorol ar orffennol diwydiannol Sir Benfro yn ogystal â golygfeydd godidog o'r dirwedd leol. 

Ar ben hynny, mae rhannau hir o'r daith gerdded hon ar hyd y llwybr aml-ddefnydd newydd, llwybr agored i gerddwyr o bob oed a gallu. 

Un tro roedd diwydiant glo a haearn yn ffynnu yn Ne Sir Benfro ond erbyn hyn prin iawn yw'r arwyddion o hynny. Serch hynny, mae Gwaith Haearn Stepaside a Glofa'r Gelli gerllaw wedi eu hadfer yn wych er mwyn cynnig cipolwg ar y dreftadaeth gyfoethog hon i'r ymwelydd.

Mae'r daith gerdded fer hon yn mynd â chi o amgylch y ddau safle hyn yn ogystal â chynnig golygfeydd gwych o'r fro.

Mae'n cysylltu hefyd gyda dwy we-daith arall. O Waith Haearn Stepaside rydych yn gallu cerdded i lawr y llwybr aml-ddefnyddwyr newydd i lan y môr yn Wiseman's Bridge a gyda'r lan, ar hyd hen reilffordd segur, i borthladd Saundersfoot, lle'r oeddent yn allforio'r glo a'r haearn.

Ar ben hynny, mae'r daith gerdded hon yn ymuno, ar hyd beidroedd cefn gwlad hardd, â Llwybr y Glowyr (fersiynau hir a chwta) sy'n dechrau ym mhentref Cilgeti gerllaw. Mae nifer o rannau o'r teithiau cerdded hyn yn mynd ar y llwybr aml-ddefnyddwyr ac maent felly'n addas i bob oed a gallu - mae digonedd o amrywiaeth a dewis o lwybrau heb angen pob math o offer cerdded!

Cerdded: Mae'r daith gerdded yn dechrau a gorffen ar faes parcio di-dâl Gwaith Haearn Stepaside.
Bws: 350 Dinbych-y-pysgod - Llanrhath - Dinbych-y-pysgod (Dydd Sul yn yr Haf yn unig) a'r 351 Dinbych-y-pysgod - Pentywyn. Amserlenni Bysiau 
Trên: Cilgeti yw'r orsaf agosaf. Trenau Arriva Cymru 
Map Ffyrdd: www.multimap.com. Chwiliwch am "Stepaside, Sir Benfro".
Parcio: Mae maes parcio di-dâl gyda Gwaith Haearn Stepaside, lle mae'r daith gerdded yn dechrau a gorffen.
Toiledau: Mae toiledau cyhoeddus yng Nghilgeti.
Lluniaeth: Mae nifer o siopau a chaffis ym mhentref Cilgeti, a thŷ tafarn.

Dechrau/Gorffen: Maes parcio di-dâl Gwaith Haearn Stepaside.
Pellter: 1.1 milltir, 1 awr
Tir: Taith gerdded gwta yw hon ar darmac, llwybr aml-ddefnyddwyr, llwybrau graean a glaswellt - mae'r olaf braidd yn serth.
Camfeydd: 2
Ietiau: 1
Grisiau: 85
Pontydd: 2
Golygfeydd: Cryn nifer
Maes parcio: 1

  • Mae Gwaith Haearn Stepaside (1) ar eich ochr dde dim ond ychydig o waith cerdded tua'r de o'r maes parcio mawr di-dâl. Fe gewch fanylion hanes y safle ar ford wybodaeth.
  • Wedi edmygu'r archeoleg, ewch dros y bont gyferbyn â'r safle a throi i'r dde i fynd ar y llwybr aml-ddefnyddwyr (2). Mae'r llwybr hwn yn mynd yn ei flaen i Wiseman's Bridge a Saundersfoot.
  • Ond ar gyfer y daith gerdded hon, wedi cerdded ychydig, trowch i'r dde eto a cherdded heibio i le chwarae'r plant a thros bont lle gwelwch olygfeydd godidog ar draws dolydd afon i lawr y dyffryn.
  • Ewch ymlaen ar y llwybr gyda nodbyst gan godi'n serth lan yr allt. Lle mae'r llwybr yn ymrannu (4), ewch i'r chwith ac ymlaen lan y rhiw hyd nes byddwch yn mynd tros gamfa ac ar feidr gul.
  • Oddi yma mae golygfeydd ysgubol o'r wlad ac os yw'n braf (fel y mae fwy neu lai o hyd yn Sir Benfro!) mae'r môr i'w weld yn loyw draw tua'r de.
  • Os ydych chi am ymuno â Llwybr y Glowyr, trowch i'r dde i'r feidr yma (6), yna i'r dde eto ac ychydig ymlaen at feidr arall ac ar hyd honno i mewn i bentref Cilgeti - mae Llwybr y Glowyr yn dechrau a gorffen yn y Ganolfan Gymunedol yno.
  • Fodd bynnag, i fynd ymlaen ar y gylchdaith gerdded fach yma, ewch yn ôl y ffordd y daethoch i lawr y rhiw hyd nes byddwch lle mae'r llwybr yn ymrannu, gyda nodbost, lle gwnaethoch chi droi i'r chwith o'r blaen.
  • Trowch i'r chwith yma ac fe welwch yn syth ar y chwith adfeilion Glofa'r Gelli sydd wedi eu hadfer (7).  Mae bord wybodaeth yma hefyd.
  • Wedi archwilio'r adfeilion, ewch ymlaen ar y llwybr graeanog rhwydd trwy goetir pert (gan anwybyddu'r grisiau ar y dde) hyd nes byddwch ar lwyfan gyda ffens uwchben y Gwaith Haearn ei hun.
  • Mae rhagor o olygfeydd da yma hefyd yn ogystal â'r cyfle i astudio'r modd yr adeiladwyd yr adeiladau hyn (8).
  • Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn hyd nes gwelwch adeiladau o'ch blaen.  Trowch i'r dde cyn dod atynt a daw rhiw esmwyth â chi'n ôl i'r maes parcio a fydd i'w weld ychydig bach nes ymlaen.

 

 

ID: 242, adolygwyd 26/01/2023