Cerddwch Sir Benfro
Llwybr Y Glowyr (fersiwn hir)
Mae cerdded yn bleser pur, felly beth am ichi roi'ch troed orau ymlaenaf a rhoi cynnig ar y llwybrau cerdded sydd ar gael yn eich ardal leol. Mae'r daith ganolig ei hyd hon, sy'n dechrau ac yn gorffen ar faes parcio'r Ganolfan Gymunedol yng Nghilgeti, yn un o nifer o deithiau cerdded gwlad a thref y mae Cyngor Sir Penfro wedi eu llunio.
Mae'r daith gerdded hon yn dilyn Llwybr y Glowyr ar hyd y llwybr aml-ddefnyddwyr newydd o Gilgeti i gyfeiriad Capel Thomas ac yna ymlaen ar feidroedd a llwybrau glaswelltog trwy Goed Cilgeti. Mae'n cysylltu gyda'r fersiwn gwta a rhwyddach o Lwybr y Glowyr yn ogystal â Thaith Gerdded Gron Gwaith Haearn Stepaside. Mae pob un o'r tair taith gerdded yn cynnig cipolwg hynod o ddiddorol ar orffennol diwydiannol Sir Benfro yn ogystal â golygfeydd godidog o'r fro.
Mae Llwybr y Glowyr yn daith gerdded hanesyddol sy'n cysylltu nifer o safleoedd diwydiannol hanesyddol yn ne Sir Benfro. Hefyd, mae'n cynnig golygfeydd godidog o'r fro a chyfle i dreulio oriau hamddenol mewn ardal wledig ddigyffwrdd. Mae'r fersiwn hir hon yn mynd gyda'r llwybr amlddefnyddwyr newydd yn ogystal â llwybrau mwy egnïol. Mae'n ymuno hefyd â Thaith Gerdded Gron Gwaith Haearn Stepaside (fe gewch ragor o fanylion ar ran arall o wefan y gwe-deithiau).
Dechreuwch y daith ar faes parcio'r Ganolfan Gymunedol yng Nghilgeti a cherddwch ar hyd y palmant i gyfeiriad y gylchfan. Croeswch yr heol ac ymlaen tua'r gorllewin heibio i westy'r Begelly Arms hyd nes gwelwch fwlch ar y dde rhwng dau fyngalo - Camelia a Tara.
Cerdded: Mae'r daith gerdded yn dechrau ac yn gorffen ar faes parcio Canolfan Gymunedol Cilgeti.
Bws: 381 Dinbych-y-pysgod - Hwlffordd. Disgyn wrth swyddfa bost Cilgeti. Amserlenni Bysiau
Trên: Mae'r orsaf agosaf yng Nghilgeti. Trennau Arriva Cymru
Map Ffyrdd: Chwiliwch am "Cilgeti, Sir Benfro".
Parcio: Mae maes parcio di-dâl yng Nghanolfan Gymunedol Cilgeti lle mae'r daith gerdded yn dechrau ac yn gorffen.
Toiledau: Mae toiledau cyhoeddus ar faes parcio'r Ganolfan Gymunedol.
Lluniaeth: Mae nifer o siopau, caffis a thafarn ym mhentref Cilgeti.
Dechrau/Gorffen: Maes parcio'r Ganolfan Gymunedol, Cilgeti.
Pellter: 6 milltir (9.5 cilometr), ? awr
Tirwedd: Mae hon yn daith gerdded gwta a rhwydd tros balmentydd a'r llwybr aml-ddefnyddwyr.
Camfeydd: 22
Giatiau: 11
Stepiau: 0
Pontydd: 5
Maes Parcio: 1
Golygfeydd: Cryn nifer
- Mae'r llwybr rhwng y ddau fyngalo yn mynd â chi lan i Lwybr y Glowyr - mae'r rhan hon yn perthyn i'r llwybr amlddefnyddwyr sydd newydd ei greu.
- Mae'r wyneb yn iawn i bramiau, cadeiriau olwyn ac i unrhyw un gydag esgidiau cadarn. Does dim angen yr holl offer cerdded!
- Ewch gyda'r llwybr yma ar draws porfeydd hardd de Sir Benfro, trwy goedlannau o goed collddail, a thrwy bump o ietiau. Wrth y chweched iet byddwch yn dod at feidr ar ymyl pentref bach Capel Thomas.
- Dyma'r lle mae fersiwn fer Llwybr y Glowyr yn troi'n ôl i Gilgeti.
- Oherwydd eich bod ar fersiwn hir Llwybr y Glowyr, croeswch y feidr, dringo tros gamfa a dilyn y llwybr sy'n ymdroelli drwy ragor o goetir, heibio i adfeilion melin, ac ar draws porfa.
- Pan ddewch at feidr arall, troi i'r chwith ac yna'n syth i'r dde ac ar feidr fferm. Yng nglòs y fferm trowch i'r chwith, trwy ddwy iet ac ar draws nifer o berci at yr A478.
- Croeswch yr heol brysur hon gyda gofal mawr, ewch tua'r chwith a throi i'r dde ychydig nes ymlaen i fynd ar feidr wledig. Ewch ar y feidr hon cyn belled â phont reilffordd. Trowch i'r chwith yma ar feidr fferm arall. Cerddwch i lawr hon heibio i ddau dŷ ac yna trwy iet ac i lawr tyle glaswelltog bach a throi i'r dde ar lwybr lletach.
- Rydych chi'n ôl nawr ar Lwybr y Glowyr gyda golygfeydd gwych tua'r de tros Ddyffryn Ford's Lake ac yn mynd i gyfeiriad Coed Cilgeti
- Ychydig wedi croesi nant, peidiwch â dilyn y llwybr sydd i'w weld yn amlwg ond trowch i'r dde wrth nodbost a thros ddwy gamfa i mewn i barc sy'n mynd â chi i Faes Carafanau Penrath. Yr ochr bellaf i'r Maes Carafanau mae dwy iet.
- Ewch drwy'r un ar y chwith at feidr las ac ar draws nifer o berci. Y ffordd yma byddwch yn dod yn ôl i ran odidog o Goed Cilgeti gyda choed collddail.
- Cyn bo hir byddwch mewn planhigfa o gonwydd lle mae newid hyfryd yn yr awyrgylch. Pan ddaw'r conwydd i ben mae iet sy'n mynd â chi i barc olaf. Croeswch y parc a thros gamfa, troi i'r chwith i mewn i feidr a byddwch yn dod yn ôl i'r briffordd trwy bentref Cilgeti. Trowch i'r dde ar y briffordd yn ôl i gyfeiriad y Ganolfan Gymunedol.