Cerddwch Sir Benfro

Taith Gerdded Cae Ras Hwlffordd

Dyma ichi daith gerdded gylchol braf a diddorol o amgylch yr hen gae ras yn Hwlffordd - un o blith nifer o deithiau cerdded o amgylch trefi y mae Cyngor Sir Penfro wedi'u llunio.

Cewch gerdded wrth eich pwysau o amgylch yr hen gae ras hwn ar dir sy'n codi a disgyn yn raddol, a dychmygu sut y byddai'r ceffylau'n carlamu yno yn yr oes a fu. Cerdded yn eich milltir sgwâr - bendigedig yn wir.

Cerdded: Os ydych chi'n byw yn Hwlffordd gallwch chi gerdded i fan dechrau'r daith gerdded hon. Ewch i lawr Dale Road er mwyn mynd at Glwb Criced Hwlffordd.
Bws: 301 (Taith Gylchdro Tref Hwlffordd) Ewch oddi ar y bws yn Dale Road a cherdded i lawr Dale Road, bant o'r dre, er mwyn cyrraedd y clwb criced.
311 (Hwlffordd - Aberllydan) Ewch oddi ar y bws yn Belle View a cherdded i lawr Dale Road, bant o'r dre, er mwyn cyrraedd y clwb criced. Amserlenni Bysiau
Trên: Yr orsaf agosaf - Hwlffordd Trenau Arriva Cymru
Ffôn: 08457 48 49 50
Parcio: Mae maes parcio bach gyferbyn â Chlwb Criced Hwlffordd

Dechrau / Diwedd: Clwb Criced Hwlffordd, Dale Road
Pellter: 3 milltir (Taith Gerdded Hirach) 1 1/2 awr
Camau Cerdded: Y llwybr hwn: 6,000 cam
Terrain: Porfa, tarmac, amryw deithiau cerdded; gall rhai fod yn llaca i gyd ar ôl glaw. Ar hanner Gogleddol y cae ras mae llwybr tarmac mewnol sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau.
Camfeydd: 2
Gatiau: 4
Setiau o Staerau: 1
Maes Parcio: 2
Golygfeydd: Cae Ras, Hwlffordd

  • Mae gyda'r daith gerdded braf a diddorol hon rywbeth i'w gynnig i gerddwyr o bob math. Taith mas o'r dref yw hon, ar hyd Dale Road yn ardal gorllewin Hwlffordd ac mae'n dechrau yn y maes parcio gyferbyn â Chlwb Criced Hwlffordd.
  • I ddechrau'r daith gerdded croeswch y ffordd rhif B4327 - Dale Road - a gyda'r Clwb Criced ar eich llaw chwith, ewch i mewn i'r Cae Ras ei hun. Mae arwyddion clir yn dangos hynny.
  • Dechreuwch gerdded ar draws gwaun sy'n esgyn yn raddol, rhwng cloddiau anferth llawn dwf - yr unig beth sy'n weddill o'r hen Gae Ras. Gallwch ddychmygu cyffro'r oes a fu pan fyddai'r ceffylau'n carlamu o amgylch y cae hwn, gyda phŵer o fynychwyr rasys yn eu hannog yn eu blaenau!
  • Ar ben uchaf y llethr hwn, mae'r cae yn gwyro i'r chwith yn raddol a hyfryd. Yna mae hyn yn arwain at olygfa fendigedig o'r darn syth Gogleddol - sy'n hir a llydan; wrth ei ben draw byddwch chi'n nesu at y B4327 unwaith eto. Croeswch y ffordd hon unwaith yn rhagor, gan bwyll.
  • Ar ôl croesi'r ffordd ewch i mewn trwy gât i ran Ddeheuol y Cae Ras.
  • Mae'n fwy anodd gweld y cae ras ei hun nawr, a dim ond cloddiau llawn dwf a welwch ar eich ochr dde. Ar yr ochr chwith cafwyd gwared â'r cloddiau er mwyn dodi nifer o feysydd pêl-droed yno. Ychydig draw ar hyd y llwybr byddwch yn mynd i mewn i goedlan ddeilgoll.
  • Cerddwch yn eich blaen trwy'r goedlan hon nes bydd y llwybr yn mynd yn lletach eto. Yn y fan hon, mae gyda chi ddewis - dilyn y daith gerdded hon neu ddilyn llwybr llygad at y man dechrau:
  • Er mwyn dal ati i fynd ar y daith hirach trowch i'r dde trwy gât fochyn wen mewn bwlch yn y clawdd
  • Eer mwyn dilyn y llwybr llygad daliwch ati i fynd o amgylch y cae ras ac yna'n ôl at y clwb criced
  • Er mwyn dal ati i fynd ar y daith hirach trowch i'r dde trwy gât fochyn wen mewn bwlch yn y clawdd, sy'n dod â chi at ffordd darmac gul.
  • Croeswch y ffordd a mynd trwy gât fochyn wen arall, sydd wedi'i nodi'n glir. Yna byddwch ar feidr werdd gul a chysgodol sy'n dechrau mynd i lawr yn raddol i mewn i'r cwm.
  • Dilynwch y feidr hon am gryn bellter.
  • Wrth i'r llwybr wastatau, byddwch yn gweld coeden yn tyfu yn y llwybr.
  • Yn y fan hon trowch i'r chwith, dros gloddfanc fychan sydd wedi erydu. Yna ewch i lawr pedair staer. Yna daliwch ati i gerdded ar hyd llwybr bychan llawn awyrgylch wrth ochr ffrwd fechan â gwely dwfn iddi.
  • Cerddwch ar hyd y llwybr troellog hwn sy'n codi ac estyn yn raddol, a dylai'r ffrwd fod ar eich ochr dde bob amser.
  • Yn y diwedd fe ddewch at gamfa, sy'n eich arwain at gornel cae.
  • Yn union ar eich llaw dde fe welwch gamfa arall.
  • Dringwch dros y gamfa hon er mwyn mynd yn ôl ar y llwybr wrth ochr y ffrwd.
  • Yn rhy fuan o lawer byddwch yn cyrraedd pen draw'r llwybr hudol hwn lle mae e'n cwrdd â ffordd darmac gul. Trowch i'r chwith a dilyn y ffordd hon sy'n esgyn yn eithaf serth.
  • Ychydig bellter ar ôl copa'r bryn mae'r ffordd yn mynd i mewn i goetir a byddwch yn dod at gyffordd T ag arwyddbost arni. Yno, rhaid ichi droi i'r chwith a dilyn y ffordd newydd hon lan y rhiw unwaith yn rhagor.
  • Bron yn union ar eich ochr dde fe welwch gât. Trwy hon fe gewch olygfeydd anarferol o Hwlffordd. Mae Ffynnon Sanctaidd Sant Caradog gerllaw hefyd. Ffynhonnau sanctaidd yw un o nodweddion tirwedd Sir Benfro, amgylchedd sy'n gyforiog o naws ysbrydol y Celtiaid.
  • Ar gopa'r bryn mae cyffordd T arall ac fe welwch y gât fochyn wen y daethoch drwyddi yn gynharach. Bydd hon yn eich arwain yn ôl at y Cae Ras.
  • Ewch drwy'r gât a throi i'r dde ar eich union a dilyn y cae wrth iddo wyro i'r Dde. Yna cerddwch lan y darn syth olaf, gyda'r clawdd ar eich ochr dde.
  • Ar ddiwedd y daith gerdded hon byddwch chi'n ôl yn y maes parcio lle gwnaethoch chi ddechrau eich taith gerdded, yr ydych chi'n mynd ati trwy gât.
  • Taith gerdded fyrrach o lawer, sy'n berffaith ar gyfer pobl ag anabledd neu deuluoedd â phramiau - gallwch ddilyn hon o amgylch rhan ogleddol y Cae Ras.
  • O fewn y perimedr gwelltog gwreiddiol, y tu mewn i un o'r cloddfanciau mawr, mae llwybr tarmac gwastad â seddau arno. Mae dechrau a diwedd y daith gerdded hon i'w gweld yn y ffotograffau.

 

 

ID: 252, adolygwyd 26/01/2023