Cerddwch Sir Benfro
Taith Gerdded Coedwig Canaston
Mae'n beth da i gerdded, ac felly beth am gamu allan a phrofi rhai o'r teithiau sydd gan eich cymdogaeth i'w cynnig. Mae'r daith bleserus a diddorol hon sy'n dechrau a gorffen wrth Bont Canaston yn un o nifer o deithiau tref a gwlad a grëwyd gan Gyngor Sir Penfro.
Mae'r daith hon o hyd canolig yn mynd o gwmpas Coedwig Canaston, gan gynnwys ymweliadau â Chapel hanesyddol Mounton a Melin Blackpool. Mae'r daith wedi ei diwygio ac er bod rhannau ohoni yn parhau'n serth nid yw'n rhy llafurus dim ond i chi gerdded gan bwyll.
Mae nifer o lwybrau yn croesi Coedwig Canaston, ac mae pob un ohonynt yn arwain at daith gerdded bleserus yn yr ardal goedwigaidd gymysg brydferth hon. Mae'r goedwig yn cael ei rhannu'n ddwy gan y prif lwybr, Ffordd y Marchog, hen daith bererindod rhwng Eglwys Gadeiriol Tyddewi i'r gogledd orllewin ac Amroth ar arfordir de orllewin Sir Benfro. Ffordd y Marchog ydyw calon y daith gerdded hon, sy'n cynnwys gwyriadau pleserus i gapel hynafol Mounton sydd ger pwynt mwyaf deheuol y goedwig a'r hen felin o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Blackpool, ar ochr orllewinol y goedwig.
Mae llawer o'r llwybrau wedi'u diwygio yn ddiweddar ac mae'r arwynebedd dan draed yn gyffredinol gadarn. Sut bynnag, mae'r llwybrau yn parhau'n fwdlyd mewn rhai mannau ac y mae yna fannau anodd iawn ond ni ddylen nhw brofi'n rhy drafferthus dim ond i rywun gymryd pwyll.
Cerdded: Mae'r daith hon yn cychwyn wrth y gilfach barcio i'r de o Bont Canaston
Bws: 322 - Caerfyrddin i Hwlffordd a 382 - Dinbych-y-pysgod i Hwlffordd. Amserlenni Bysiau
Trên: Mae'r orsaf agosaf yn Hwlffordd. Trenau Arriva Cymru
Map Ffordd: www.multimap.com. Chwiliwch am ‘Canaston Bridge, Sir Benfro'.
Parcio: Mae cilfach barcio yn union i'r de o Bont Canaston lle mae'r daith yn cychwyn.
Toiledau: Nid oes toiledau cyhoeddus ar hyd y daith hon.
Lluniaeth: Dim byd.
Dechrau/Gorffen: Cilfach barcio i'r de o Bont Canaston
Pellter: 4.8 milltir, 3 awr
Tirwedd: Mae'r daith hon o bellter canolig wedi'i diwygio ac mae yn cynnwys lonydd tarmac ynghyd â llwybrau caregog, glaswelltog a mwdlyd. Mae rhai mannau yn serth ond nid yn llafurus.
Sticil: 1
Gatiau: 2
Grisiau: 0
Pontydd: 1
Golygfeydd: sawl un
Maes Parcio: 1
- Mae'r daith yn cychwyn wrth y gilfach barcio i'r de o gyffordd heol Pont Canaston. Dilynwch yr isffordd sydd yn dwyn yr arwydd "Blackpool Mill". Ar ôl cerdded am ychydig ar hyd y lôn goediog hon fe welwch chi lwybr ceffyl wedi'i nodi ar y chwith i chi. Dyma Ffordd y Marchog.
- Cerddwch i fyny'r llwybr ceffyl serth hwn i'r top lle bydd yn cwrdd â'r brif ffordd. Byddwch yn ofalus wrth groesi yn y fan hon - mae'n heol brysur!
- Peidiwch â dilyn y prif lwybr o'ch blaen ond yn hytrach ewch rywfaint i'r dde a dilyn llwybr cerrig cul mwy diweddar. Mae hwn wedi'i nodi. Parhewch i ddilyn y llwybr hwn wrth iddo ymdonni a chodi'n raddol trwy blanhigfa gonwydd ac ar ôl mynd trwy bâr o gatiau, aiff i mewn i goetir collddail hŷn.
- Ewch yn syth ymlaen wrth gyffordd sydd wedi'i nodi ar y llwybr. Mae'n fwy caregog dan draed yn y fan hon ond yn fuan, ar y chwith i chi mae yna sticil yn y clawdd.
- Dringwch dros hon i'r cae ac o'ch blaen mae adfeilion Capel Mounton sy'n dyddio nôl i'r bymthegfed ganrif ond yn anffodus mae mewn cyflwr gwael ac felly byddwch yn ofalus wrth archwilio'r adfeilion.
- Ewch yn ôl drwy'r cae, dros y sticil ac i lawr tuag at y gyffordd llwybr yr aethoch chi heibio iddo'n gynharach. Trowch i'r dde yn y fan hon a dilyn y llwybr i fyny tuag at groesffordd lle mae'n cwrdd â Ffordd y Marchog unwaith eto. Trowch i'r dde i'r llwybr hwn a'i ddilyn wrth iddo gulhau a disgyn.
- Ar y chwith i chi, cyn y rhyd, mae yna lwybr arall wedi'i nodi sy'n codi i goetir mwy trwchus. Ewch ar hyd y llwybr hwn. Mae'n fforchio'n fuan mewn llannerch lle dylech chi fynd i'r chwith.
- Rydych chi nawr yn mynd ar hyd ymyl rhagfuriau cuddiedig hen gaer o'r Oes Haearn cyn dod i lannerch arall lle ceir golygfeydd hardd i'r gogledd tuag at y pentref ar y bryn Llangwathen a Mynyddoedd y Preseli yn y pellter.
- Parhewch ar y llwybr hwn hyd nes iddo gyrraedd Ffordd y Marchog unwaith eto. Trowch i'r dde a'i ddilyn i'r brif ffordd. Croeswch yn ofalus unwaith eto a cherdded yn ôl i lawr tuag at y lôn. Ar y gwaelod peidiwch â throi i'r dde yn ôl i Bont Canaston ond trowch i'r chwith ac yn fuan ar y dde i chi fe ddaw gwychder Melin Blackpool i'r golwg ar lan yr afon ochr yn ochr â phont fwa sengl sy'n croesi'r Afon Cleddau Dwyreiniol.
- Ar ôl archwilio'r felin a'r tir o gwmpas, ewch yn ôl i gyfeiriad Pont Canaston.