Cerddwch Sir Benfro
Taith gerdded fer ar bwys yr afon yn Hwlffordd
Mae'n dda cael cerdded, felly beth am fynd allan i gael blas ar rai o'r teithiau cerdded sydd gan eich tref i'w cynnig? Mae'r daith gerdded hon yn un ddiddorol a dymunol, ac yn un o nifer o deithiau cerdded yn y dref sydd wedi'u trefnu ar eich cyfer gan Gyngor Sir Penfro.
Mwynhewch y daith gerdded hon sy'n gymharol hawdd ac yn llawn golygfeydd rhagorol o'r afon a'r coetir collddail, a'r cwbl o fewn pellter cerdded byr o ganol tref Hwlffordd.
- Cerdded: Mae'r ganolfan groeso yng nghanol y dref.
- Bws: Mae Hwlffordd yn cael ei wasanaethu gan nifer o wasanaethau bysiau sy'n cysylltu'r dref â gweddill Sir Benfro a thu hwnt Amserlenni Bysiau (yn agor mewn tab newydd)
- Trên: Mae'r orsaf drên agosaf yn Hwlffordd ac o fewn pellter cerdded byr o ganol y dref. Trenau Arriva Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Map ffordd: Multimap (yn agor mewn tab newydd) Chwiliwch am Hwlffordd (Haverfordwest).
- Parcio: Mae maes parcio aml-lawr ger y ganolfan groeso.
- Toiledau: Mae toiledau cyhoeddus ar gael ar gychwyn y daith ac ar ei diwedd ger y ganolfan groeso a gorsaf fysiau Hwlffordd.
- Lluniaeth: Mae gan Hwlffordd amrediad eang o gaffis, bwytai a thafarndai.
Cychwyn/Gorffen: Canolfan Groeso Hwlffordd
- Pellter:0.7 milltir, tri chwarter awr glan ddwyreiniol/ 0.7 milltir, tri chwarter awr glan orllewinol
- Tirwedd: Yn amrywio rhwng Tarmac a phorfa. Gall un rhan fod yn fwdlyd yn dilyn glaw felly mae angen esgidiau priodol.
- Camfeydd – 0
- Gatiau – 4
- Grisiau – 1
- Pontydd – 1
- Maes parcio – 1
- Golygfeydd – 2
Mae'r daith gerdded Glan Cleddau yn ymestyn ar hyd dwy ochr i'r afon trwy ganol y dref, ac i gefn gwlad i'r gogledd ac i'r de o'r dref. Wrth fynd am dro bach, byddwch yn dod o hyd i fannau gwyrdd helaeth gyda rhywbeth i bawb ei fwynhau. Darperir peth gwybodaeth am hanes, diwylliant, bywyd gwyllt ac adfywiad mannau sydd ar hyd y daith gerdded hefyd.
- Mae'r daith gerdded hon ar ochr ogleddol Glan Cleddau. Dechreuwch y daith gerdded hyfryd ger glan yr afon wrth ochr Canolfan Groeso Hwlffordd a cherddwch i'r hen bont fydd o'ch blaen.
Dilynwch ôl troed brenin - Y cofnod ysgrifenedig cynharaf o bont yn Hwlffordd yw 1378.Adeiladwyd yr hen bont ym 1726 i gymryd lle pont gynharach a ddifrodwyd gan ddŵr llifogydd. Yn ôl y sôn, roedd Harri Tudur wedi croesi'r bont hon wrth ymdeithio i Frwydr Bosworth ym 1485. Canlyniad ei fuddugoliaeth oedd cael ei goroni'n Frenin Harri VII.
Ar y pwynt hwn, edrychwch yn ôl a dylech weld y castell Normanaidd urddasol yn teyrnasu dros y dref.
- O'r bont gan deithio i fyny'r afon (gogledd) i Ddôl y Bont.
- Yn dilyn y daith gerdded wrth ymyl yr afon ar hyd y maes parcio a thrwy'r tanlwybr, mae'r llwybr yn cyrraedd maes chwarae Dôl y Bont.
- Parhewch i gerdded i fyny'r afon a thrwy'r cae pêl-droed nes i chi gyrraedd croesfan fach i gae o'r enw Y Ghyll.
Ladi wen y ghyll - Stori 'Ladi Wen y Ghyll' (ynganu yn 'guile') yw'r unig beth sydd ar ôl o gartref hynafol Tŷ Prendergast, a adawyd gan y teulu pwerus Stepney yn ystod y 1700au. Rhwng mis Hydref a mis Chwefror, pan mae'r niwl i'w weld yn codi ar draws y cae ac yn gostwng yn ôl i'r afon eto, mae pobl leol wedi adrodd straeon o weld ffurf niwlog yn arnofio ar hyd darn o dir a elwir y 'Ghyll' (sydd o bosibl yn golygu llwybr defaid yn y Gymraeg) cyn diflannu i'r niwl. Yn ôl yr hanes, mae'n aros i'w gŵr ddychwelyd, sef cyn-berchennog y maenordy a aeth i amddiffyn Siarl I yn ystod y rhyfel cartref, ac ni ddaeth fyth yn ei ôl.
- Parhewch i fyny'r afon nes cyrraedd y bont sy'n croesi afon Cleddau. O'r fan hon, gellir gweld golygfa hanesyddol o Eglwys Dewi Sant ynghyd â chipolwg ar y castell a'r dref
Pont sy'n croesi afon Cleddau - Gosodwyd pont droed newydd yn 2020 gyda chyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Hwlffordd, Ymddiriedolaeth Dôl y Bont a Chyngor Sir Penfro fel rhan o brosiect ehangach i'n galluogi i fwynhau'r afon sydd ar garreg ein drws.
Mae'r prosiect yn cynnwys rheoli'r Jac y Neidiwr ymledol. Pan maent yn aeddfed, mae'r codennau o hadau yn ffrwydro i'r awyr. Maent yn tyfu'n fawr ac yn cysgodi a threchu planhigion eraill. Cyflwynwyd y planhigyn gan arddwr o oes Fictoria ym 1839, ond mae bellach yn anghyfreithlon caniatáu iddo ymledu i'r gwyllt. Gwyddom nad oes modd diwreiddio'r planhigyn ond rydym yn arbrofi gyda ffyrdd gwahanol o reoli'r broblem. Un o'r syniadau sy'n gweithio'n dda yw gosod padogau pori - mae ceffylau'n gwneud gwaith da o sathru ar y planhigyn.
Nofio Gwyllt - Rydym yn agos i safle hen gored yr afon a adeiladwyd i wasanaethu'r felin. Cyn i'r ganolfan hamdden gael ei hadeiladu yn y dref, dyma lle roedd pobl leol yn cwrdd â'u ffrindiau ac yn dysgu sut i nofio. Yn Amgueddfa Tref Hwlffordd, mae modd gweld y cwpan a roddwyd fel gwobr ar gyfer cystadleuaeth nofio Ysgol Ramadeg Bechgyn Hwlffordd.'Headwaters', 'Big Pool' a 'The Darling' yw'r enwau a gofnodwyd ar gyfer yr ardal.
- Wrth adael y bont, rydych yn mynd i mewn i dir yr Hen Felin ar y lan orllewinol i lawr yr afon
- Mae'r llwybr yn ymledu unwaith eto gydag arwyneb o gerrig wedi'u malu ac mae modd i gerddwyr fwynhau hyfrydwch y daith ddymunol hon mewn coetir collddail gydag afon Cleddau ar y chwith ac olion cwrs dŵr neu ffos yr Hen Felin ar y dde.
Roedd y ffos (sef y cwrs dŵr a gloddiwyd â llaw ac sydd wedi'i leinio â cherrig) yn cludo dŵr o'r afon i droi'r olwyn ddŵr pren a oedd yn gyrru'r felin.
- Mae'r llwybr yn parhau trwy'r coetir lle mae digonedd o fflora a ffawna i'w gweld. Ychydig iawn o olion yr Hen Felin sydd wedi goroesi ond ceir adfail pont/twnnel diddorol wrth ymyl cwrs dŵr segur yr Hen Felin.
Rhoi'r dref ar y map - Dyma'r man lle bu melin anferth yn sefyll a lle roedd cannoedd o bobl yn cael eu cyflogi. Mae'r cofnodion cynharaf o'r felin a'i gweithgarwch yn dyddio o 1764, a dros y blynyddoedd roedd yn fwrlwm o brysurdeb diwydiannol yn melino grawn, gwlân, papur a snisin. Tybir ei bod wedi'i sefydlu fel melin bapur o ddeutu'r flwyddyn 1830 gan un o’r prif wneuthurwyr papur, Benjamin Harvey, a wnaeth Hwlffordd yn enwog am greu papur ac fe ddaeth yn gyfoethog iawn yn y broses. Mae'n anodd dychmygu heddiw, ond byddai'r felin wedi bod yn anferth. Roedd yn fwy nag Eglwys Prendergast yn ôl y son. Ceir cofnod mewn erthygl o 1832 yn son am dân yn y felin, lle disgrifir yr adeilad yn un 'helaeth'. Olion yn unig sydd ar ôl o'r felin bellach ond byddai'r rhai ohonoch sydd â llygaid craff yn dod o hyd i bont/twnnel lle saif y felin, twll glo, ffos, waliau bwythyn gweithiwr a hyd yn oed olion rheilffordd gul.
- Parhewch ar hyd y llwybr Tarmac nes i chi gyrraedd y ffordd sy'n mynd i lawr yr afon (i'r de) a defnyddiwch y groesfan i gerddwyr wrth y briffordd i groesi i Sgwâr yr Alarch
Elyrch sgwâr yr alarch - Mae'r elyrch gosgeiddig wedi bod yn olygfa gyfarwydd yn Hwlffordd ers tro byd, fel y dangosir yn enw 'Sgwâr yr Alarch' a hen westy'r Swan a oedd yn dyddio o 1536 yn ôl y sôn, ond cafodd ei ddymchwel ym 1970. Heddiw, mae'r elyrch yn parhau i ddod â llawenydd i'r amgylchedd trefol. Cadwch lygad am eu nythod yn ystod mis Ebrill wrth ymylon y cyrs sy'n agos at ymyl y dŵr.
- Rydych bellach yn ôl wrth yr Hen Bont a bydd modd i chi weld y lleoliad lle wnaethoch chi gychwyn y daith.