Cerddwch Sir Benfro
Taith Gerdded Fortunes Frolic Hwlffordd
Mae'r daith ddymunol a thonnog cylchol hon, yn mynd â chi o ganol tref Hwlffordd ar hyd Fortune's Frolic, Ffynnon Higgons ac Eglwys Sant Ismael cyn dychwelyd i ganol y dref.
Cerdded: Os ydych chi'n byw yn Hwlffordd gallwch chi gerdded i fan dechrau'r daith gerdded hon. Ewch o gyfeiriad Sgwar Salutation a Neuadd y Sir.
Bws: Mae'r daith hon yn cychwyn yn agos iawn i orsaf fysiau Hwlffordd
Llwybrau Bysiau Sir Benfro: Llwybrau Bysiau Sir Benfro
Trên: Yr Orsaf Dren agosaf - Hwlffordd Trennau Arriva Cymru
Map Ffordd: Multimap (yn agor mewn tab newydd) - Chwiliwch am "Haverfordwest"
Parcio: Mae maes parcio yn ymyl Cambrian Place, heibio i adeilad y fyddin ar y dde i chi, ar heol Frolic.
Dechrau / Diwedd: Maes Parcio Neuadd y Sir
Pellter: 3.13 milltir - Rhwng 1 awr 45 munud a 2 awr (yn fras)
Camau Cerdded: Y llwybr hwn: 16,500 cam
Tirwedd: Yn amrywio rhwng tarmac, graean a gwair, gall fod yn fwdlyd ar ôl glaw, mae yna un man sy'n dringo'n serth ac un man yn disgyn yn serth. Mae mynediad rhwydd i'r daith hon o faes parcio Frolic, mae rhan gyntaf y daith yn wastad, sut bynnag nid yw'r arwynebedd ar hyn o bryd yn addas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn.
Camfeydd: 4
Gatiau: 4
Setiau o Staerau: 2
Maes Parcio: 1
Golygfeydd: Dros y Cleddau i gyfeiriad Hwlffordd.
- Mae yna ddau man cychwyn: a) Cychwynnwch eich taith y tu ôl i Neuadd y Sir a dilyn y llwybr ar hyd ochr yr afon a thrwy'r parc. Ar ddiwedd y llwybr cerddwch o dan y bont sy dros y ffordd, trowch i'r chwith a dilyn y trac i Heol Frolic. Wedi cyrraedd y ffordd trowch i'r dde, o dan bont y rheilffordd ac yna ar hyd y ffordd i faes parcio Fortunes Frolic. b) Ar y llaw arall, cychwynnwch y daith o faes parcio Neuadd y Sir Cyngor Sir Penfro, ar ôl ychydig gamau croeswch ffordd yr A476 yn ofalus o flaen Neuadd y Sir ac yn trowch i'r dde, ar hyd y gilffordd, heibio i adeilad y fyddin ar y dde. Daliwch ati hyd at ddiwedd y ffordd hon sy'n arwain i faes parcio Fortune Frolics.
- Nesaf at y maes parcio mae bwrdd gwybodaeth, trowch i'r chwith a dilyn y llwybr gwelltog a chadw ar y llwybr hwn gyda'r afon ar y dde i chi.
- Os ydych chi'n byw yn Heol Uzmaston fe allwch chi ymuno â'r llwybr cul, sydd wedi'i gyfeirbwyntio wrth bont y rheilffordd sy'n disgyn yn syth i Fortune's Frolic. Trowch i'r chwith ar y gwaelod a dilyn y ffordd gul welltog.
- Mae'r llwybr yn culhau ac yn arwain heibio i dy Ffynnon Higgons ar y chwith i chi. Cerddwch o flaen y ty a chadw ar hyd y llwybr, gan fynd heibio i Ffynnon Higgons ar y dde i chi, sydd heb fynd yn sych erioed yn ôl yr hanes.
- Ewch drwy'r gât mochyn a chadw ar hyd y llwybr cul gan sylwi ar y bywyd gwyllt ac ar hyd yr afon Cleddau, sy'n cynnwys Gwyddau Canada, Hwyaid Gwyllt, Glas y Dorlan ac Elyrch.
- Croeswch y sticil a mwynhau y golygfeydd o'r afon nôl i gyfeiriad Hwlffordd cyn i'r llwybr droi i'r mewndir i'r chwith a dechrau codi'n serth, gan fynd i fyny 23 o risiau.
- Ewch drwy'r gât ar ddiwedd y rhan serth hon o'r daith a dal i fynd ymlaen ar hyd y llwybr sy'n llawn gwreiddiau coed wrth iddo agor allan i gae.
- Croeswch y cae i gyfeiriad mynwent eglwys St Ismael, sydd i'w gweld yn amlwg ar ben y bryn. Mae gât i fewn i'r fynwent gyda dwy ris fechan. Cerddwch drwy'r fynwent a dros y sticil gerrig yn y pendraw sydd yn arwain at y brif ffordd ym mhentref bychan hyfryd Uzmaston.
- Dilynwch y ffordd darmacadam am ychydig hyd nes y dewch eto at gât y llwybr sydd ar y chwith i chi. Unwaith y byddwch chi drwy'r gât dilynwch y lôn fferm hyfryd fydd yn y diwedd yn agor allan lle mae sawl lôn fferm yn cwrdd. Ewch i'r dde yma ac fe welwch chi sticil o'ch blaen.
- Dringwch dros y sticil a dilynwch lwybr suddedig sydd wedi'i arwyddo'n dda ag sy'n disgyn yn raddol trwy gae i gyfeiriad sticil arall. Dringwch dros y sticil a dilynwch y llwybr cul disgynnol trwy goedwig gollddail.
- Mae'r llwybr hwn yn mynd yn fwy serth ac yn croesi ffrwd fechan lle'r ychwanegwyd trawstiau i wneud y cerdded yn haws.
- Ar waelod y llwybr coediog fe fyddwch yn ail ymuno â'r llwybr ger yr afon y buoch arno cynt. Trowch i'r dde yma a mynd yn ôl i gyfeiriad Ffynnon Higgons a Fortune's Frolic.