Cerddwch Sir Benfro
Taith Gerdded Tremarchog
Mae cerdded yn dda. Mas â chi felly i droedio rhai o'r teithiau cerdded sydd gyda'ch cymdogaeth chi i'w cynnig. Mae'r daith gerdded hyfryd a diddorol hon sy'n dechrau ac yn gorffen ar faes parcio'r eglwys yn Nhremarchog, yn un o nifer o deithiau cerdded mewn trefi ac yng nghefn gwlad y mae Cyngor Sir Penfro wedi eu llunio.
Mwynhewch y daith gerdded fer a chymharol hawdd hon o faes parcio'r eglwys ym mhentref hardd Tremarchog i waun Rhos y Clegyrn ac yn ôl.
Y Daith: Mae'r daith gerdded yn dechrau ar faes parcio'r eglwys ym mhentref Tremarchog yng Ngogledd Sir Benfro.
Bws: Gwibiwr Strwmbl - Tyddewi i Abergwaun.
Trên: Gwdig yw'r orsaf agosaf. Trenau Arriva Cymru
Map Ffyrdd: www.multimap.com chwiliwch am "St Nicholas, Sir Benfro".
Parcio: Mae maes parcio mawr am ddim gydag Eglwys Sant Niclas, lle mae'r daith gerdded yn dechrau a dod i ben.
Toiledau: Does dim toiledau cyhoeddus yn agos. Mae'r toiledau cyhoeddus agosaf gryn nifer o filltiroedd o'r fan, yn Abergwaun.
Lluniaeth: Does dim lluniaeth i'w chael gerllaw. Dewch â phecyn bwyd.
Dechrau / Gorffen: Maes parcio Eglwys Sant Niclas.
Pellter: 2.1 o filltiroedd (3.4 cilomedr), 1½ awr
Natur y tir: Mae hon yn daith gerdded ganolig ei hyd ac egnïol ar hyd meidrau gwledig tawel a llwybrau o ro mân, daear a glaswellt. Mae rhannau ohoni yn serth iawn.
Camfeydd: 0
Giatiau: 1
Grisiau: 0
Pontydd: 0
Maes Parcio: 1
Golygfeydd: cryn nifer
Mae'r daith gerdded fer a rhwydd hon yn dechrau ar faes parcio'r hen ysgol, y tu ôl i'r eglwys odidog (1), ym mhentref hardd Tremarchog yng Ngogledd Sir Benfro ac mae hi'n crwydro'n hamddenol ar hyd llwybrau ceffyl, meidrau gwledig a llwybrau ffermydd cyn belled â gwaun Rhos y Clegryn, lle tybir y bu ffatri fwyeill Neolithig, a lle gwelwch gryn nifer o henebion cynhanesyddol. Mae ambell i le mwdlyd a chors ar hyd y daith felly gofalwch bod yr esgidiau iawn gyda chi!
- Dechreuwch y daith yn y maes parcio ar bwys yr hen ysgol y tu ôl i'r eglwys. Cerddwch at y feidr, trowch i'r chwith ac ar y gyffordd, yn ymyl hen bwmp petrol (2), ewch yn syth ymlaen at lwybr ceffyl bendigedig drwy'r coed.
- Oddi ar y llwybr hwn, mae golygfeydd gwych o ogledd a gogledd ddwyrain Sir Benfro a bryniau hiraethus y Preseli (3).
- Ar ddiwedd y llwybr ceffyl rydych yn dod at groesffordd, gyda nifer o feini hirion bychain yn y gwrych. Croeswch ar eich union at lwybr fferm drwy goed sy'n codi'n eithaf serth.
- Lle mae'r llwybr tarmac yn gwyro tua'r dde, ewch yn syth ymlaen at feidr laswelltog (4), heibio i fwthyn bach ar eich ochr chwith, trwy giât, ac ar waun Rhos y Clegryn.
- Mae'r llwybr yma yn gallu bod yn eithaf corsiog a llawer o dyfiant drosto ond dilynwch y llwybr gydag ochr ffens weiren bigog hyd nes gwelwch y waun yn ymagor ac o'ch blaen mae maen hir gwych, 2.7 metr o uchder (5).
- Gerllaw mae nifer o gloddiau mawr ar ffurf cylch - ewch at y giât ym mhen draw'r waun i weld y mwyaf o'r cloddiau hyn (6). Y disgrifiad a geir o'r safle gan Richard Fenton, yn ei lyfr A Historic Tour Through Pembrokeshire (1811) yw ei fod yn ‘gylch derwyddol' mawr lle cafwyd morthwyl-fwyell mawr wrth gloddio. Cafwyd olion tebygol cerrig eraill wrth gloddio yn ystod y 1960au, gan gynnwys cylchoedd efallai, ac oherwydd ystyr Rhos y Clegryn, sef Rhos y Cerrig, gallwn fod yn weddol sicr bod hwn yn safle pwysig yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae'r ffaith bod cryn nifer o henebion eraill gerllaw, yn cynnwys tomennydd claddu a chromlech, yn cadarnhau hyn yn ôl pob tebyg.
- Pan fyddwch yn barod, ewch yn ôl y ffordd y daethoch chi ond pan fyddwch yn mynd oddi ar y llwybr glaswelltog a dod at y feidr darmac efallai y byddech yn hoffi troi i'r chwith oddi ar eich llwybr a lan at Garn Llys (7) lle mae rhagor o olygfeydd gwych a safleoedd hynafol. Fel arall, ewch yn ôl i gyfeiriad Tremarchog.
- Pan ddewch at ddiwedd y llwybr ceffyl ar bwys yr hen bwmp petrol, trowch i'r dde a cherddwch drwy'r pentref gan edmygu rhai o'r hen adeiladau sydd yno. Ychydig cyn dod at fwthyn yr Hen Efail, trowch i'r chwith tuag at yr eglwys. Bu llawer iawn o ailwampio ac adnewyddu ar yr eglwys yn ystod y 19eg ganrif ond mae tystiolaeth i awgrymu y bu eglwys neu gell meudwy ar y safle hwn o leiaf o'r 5ed neu'r 6ed ganrif OC ymlaen. Mae'r tair carreg ag arysgrifau arnynt yn tystio i ddyddiad sefydlu o'r fath.
- Mae'r nodwedd hynod yn y groesfa ddeheuol, sef y ‘cilfwa' yn nodweddiadol o lawer o eglwysi cynnar yn Sir Benfro. Mae'r dystiolaeth hon, gyda'r henebion cynhanesyddol gerllaw, yn awgrymu y bu Tremarchog yn fan o bwys crefyddol ac ysbrydol ers amser maith iawn. Ac nid yw deall pam yn anodd.
- Mae golwg y fro o amgylch y lle hwn yn odidog!!
- Y tu ôl i'r eglwys, ar bwys yr hen ysgol, mae'r maes parcio lle gwnaethoch chi ddechrau eich taith gerdded.