Mae cerdded yn braf, felly, pam na wnewch chi gamu mas a phrofi rhai o'r teithiau cerdded a gynigir gan eich tref neu bentref. Mae'r daith ddymunol a diddorol hon, sy'n cychwyn a chwpla ym maes parcio Gwaith Dur Stepaside, yn un o nifer o deithiau cerdded tref a gwlad a baratowyd gan Gyngor Sir Penfro.
Mwynhewch y daith hon sy'n gymysgedd o gerdded arfordirol hardd ynghyd â thaith goetir gaeedig yn y mewndir mewn dyffryn tawel. Mae'r llwybr yn dilyn yr hen linell rheilffordd a godwyd yn 1835 i gysylltu Harbwr Saundersfoot gyda Gwaith Dur Stepaside.
Mae'r daith yn wastad a chymharol fyr ac felly'n addas ar gyfer cerddwyr o bob oed a gallu.
Cloddiwyd am lo yn Nyffryn Dedwydd ers y bedwaredd ganrif ar ddeg ac erbyn blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd dros ddwsin o lofeydd o amgylch Stepaside; codwyd y gwaith dur gerllaw yn 1848. Codwyd rheilffordd i gysylltu'r gweithgareddau diwydiannol hyn â Harbwr Saundersfoot yn 1835 a dilyna'r daith wastad, fer hon, lwybr y rheilffordd.
Cerdded: Gellir cyrraedd Gwaith Dur Stepaside o fewn taith cerdded fer o bentref Stepaside.
Bws: 350 (Dinbych-y-pysgod - Llanrhath - Dinbych-y-pysgod) a 351 (Dinbych-y-pysgod-Pentywyn). Dod oddi ar y bws yn Pleasant Valley. Amserlenni Bysiau
Trên: Yr orsaf agosaf yng Nghilgeti. Trenau Arriva Cymru
Map Ffordd: Gwefan Multimap www.multimap.com chwiliwch am "Kilgetty".
Parcio: Ceir maes parcio cyhoeddus mawr am ddim ger Gwaith Dur Stepaside.
Lluniaeth / Toiledau: Mae'r rhain ar gael yn Wisemans Bridge a Saundersfoot. Wisemans Bridge yw hanner ffordd y daith.
Dechrau / Diwedd: Gwaith Dur Stepaside
Pellter: 1.9 milltir (3.6 cilomedr) - 2 awr (tua)
Tirwedd: Ffyrdd gwastad, tarmac neu debyg, llwybrau a feidrioedd. Addas ar gyfer pob oed a gallu.
Camfeydd: 0
Gatiau: 2
Stepiau: 0
Pontydd: 0
Maes Parcio: 1
Golygfeydd: 3