Cerddwch Sir Benfro

Taith Gylchol Blackbridge (Aberdaugleddau)

Mae cerdded yn braf, felly, pam na wnewch chi gerdded yn dalog a phrofi rhai o'r teithiau sy gan eich tref i'w cynnig. Mae'r daith bleserus a diddorol hon yn cychwyn a chwpla yn y Marina newydd yn nociau Aberdaugleddau ac mae'n un o nifer o deithiau gwlad a thref sy wedi'u paratoi gan Gyngor Sir Penfro. 

Mwynhewch y daith gerdded hon sy'n gymhedrol ei hyd ac yn gymysgedd o olygfeydd rhyfeddol ar hyd dyffryn afon ac aber, pensaernïaeth leol ddiddorol ynghyd â choetir prydferth a'r byd adar cysylltiol. Mae'r llwybr glan yr afon bob amser yn wlyb a mwdlyd ymhob tymor, felly, cymrwch ofal.  

Mae'r daith gerdded hynod ddiddorol hon yn gymysgfa o olygfeydd trefol a gwledig. Mae'n cynnwys agweddau o amgylcheddau hanesyddol a modern hen borthladd pysgota Aberdaugleddau a cherdded gwledig syfrdanol ar hyd dyffryn coediog prydferth Castell Pil ac o amgylch aber Aberdaugleddau ei hun. Mae'r amgylchedd yn un sy'n bendifaddau'n gyfnewidiol. Ceir adrannau trefol a gwledig yn cynnwys cerfluniau rhyfeddol sy'n ymateb i'r newid hwn. 

Cychwynnwch y daith ym maes parcio Cei Nelson - sy'n ddatblygiad newydd ym Marina Milffwrd, ac sydd ei hun yn estyniad o hen borthladd pysgota Aberdaugleddau. Caniatewch amser ar ddechrau neu ar ddiwedd y daith i archwilio'r ardal hon sy'n cynnwys nid yn unig nifer o siopau ac atyniadau (megis Amgueddfa Aberdaugleddau) ond sy hefyd yn borthladd gwaith lle gwelir cychod pleser a llongau masnachol yn gymysg â'i gilydd. 

Cerdded: Maes parcio'r Marina, yn nociau Aberdaugleddau o fewn taith gerdded fer o ganol tref Aberdaugleddau.
Bws: 300/302 (Llwynhelyg - Hubberston) - dod oddi ar y bws yn Charles Street neu St Lawrence Hill, y ddau yn Aberdaugleddau. 315 Y Pâl Gwibio (Marloes - Hwlffordd) - dod oddi ar y bws wrth Tesco, Aberdaugleddau. 356 (Cil-maen - Aberdaugleddau) - dod oddi ar y bws yn Tesco, Aberdaugleddau. Amserlenni Bysiau
Trên: Gorsaf agosaf yn Aberdaugleddau, taith gerdded fer o'r Marina. Ymholiadau Rheilffordd Genedlaethol: Trenau Arriva Cymru
Map Ffordd: Chwiliwch am "Milford Haven".
Parcio: Mae yno faes parcio mawr, am ddim, wrth ymyl y Marina
Toiledau: Toiledau cyhoeddus ar gychwyn ac ar ddiwedd y daith ar y Marina ac yng nghanol tref Aberdaugleddau.
Lluniaeth: Ar gael ar hyd y Marina neu yng nghanol tref Aberdaugleddau. Amrywiaeth eang o gaffis, llefydd bwyta a thai tafarn yn y ddau leoliad.

Cychwyn/Cwpla: Y Marina, Dociau Aberdaugleddau
Pellter: 3.86 milltir, 2/3 awr
Tirwedd: Hawdd i gymhedrol ar hyd y ffyrdd, llwybrau trefol, llwybr ceffylau, llwybrau gwledig, feidrioedd tawel, a'r blaendraeth (mae yna ddewis arall ar adeg llanw uchel). Gall fod yn wlyb, lleidiog a llithrig mewn mannau.
Sticlau: 0
Clwydi: 4
Grisiau: 22
Pontydd: 1
Golygfeydd: nifer
Maes Parcio: 1

  • Cerddwch o Gei Nelson i gyfeiriad Barrallier House a'r Cei ac yna i'r dwyrain ar hyd y promenâd o flaen bloc o randai newydd.
  • Pan fyddwch yn cyrraedd slipffordd, cerddwch ar ei hyd i fyny i gyfeiriad Y Rhath, trowch i'r dde wedi Pier Road a cherddwch ar hyd y llwybr sy'n dirwyn trwy barc o dan Y Rhath ac i'r dde fe welwch olygfeydd ar hyd dyfrffordd Aberdaugleddau.
  • Ewch i'r dde oddi ar y llwybr hwn lle ymuna â llwybr seiclo (3), ewch i lawr y rhiw trwy glwyd ac ewch i'r dde i fyny bryn bychan o amgylch olion caregog hen fryngaer.
  • Yn fuan wedyn trowch i'r dde ar hyd llwybr trefol cul sy'n eich arwain at ffordd Beach Hill lle byddwch yn troi i'r dde i lawr i gyfeiriad yr aber.
  • Trowch i'r chwith ac ymlaen ar hyd y blaendraeth i gyfeiriad iard gychod fechan wrth droed Cellar Hill.
  • Ewch ymlaen ar hyd y blaendraeth nes y dewch at hen odyn galch a chymrwch y feidr sy wedi'i chyferbwyntio i fyny i gyfeiriad Coombs Road.
  • Mae'n werth cerdded ar hyd y darn hwn o flaendraeth oherwydd y golygfeydd hyfryd ar hyd yr afon. Ond ni ellir tramwyo ar ei hyd ar adeg llanw uchel a rhaid defnyddio llwybr arall ar hyd y tir mawr o ffordd Beach Hill (trowch i'r chwith ac i'r dde yn union yn hytrach nag i'r dde i lawr i'r aber) i'r odyn galch - dyma'r darn fyddwch yn ei ddilyn ar y ffordd nôl.
  • Trowch i'r dde i Coombs Road a cherddwch i lawr y rhiw i gyfeiriad Blackbridge, ond cymrwch ofal, am fod hon yn ffordd brysur heb balmant, nes eich bod wedi cyrraedd y bont.
  • Croeswch y bont a throwch i'r chwith ar hyd llwybr sy'n fforchio ar ei union (9). Mae'r llwybr uchaf, i gyfeiriad annedd, yn llwybr ceffylau.
  • Dilynwch y llwybr gwaelod ar hyd yr aber ei hun (10) - mae hwn yn hen lwybr a arferai arwain at wyth o fythynnod yn uwch i fyny'r afon ar Castle Pill. Dim ond un bwthyn sy ar Vineyard Cottage.
  • Wedi'r bwthyn hwn trowch i'r chwith ar draws rhyd ac i fyny feidr dawel sy'n troelli'n serth heibio gweddillion castell pridd sy wedi rhoi ei enw i'r pil.
  • Ychydig cyn Castle Pill Farm cymrwch y llwybr sy wedi'i gyferbwyntio ar y chwith sy'n disgyn nôl tuag at y pil trwy goedlan ddymunol (12). Gwnaed gwaith uwchraddio ar hyd y darn hwn yn ddiweddar a cheir yno gabanau pren diddorol, a cherfluniau pren yn adlewyrchu blodau a bywyd gwyllt yr ardal.
  • Ar waelod y rhiw croeswch y bont a throwch i'r chwith ar eich union a dilyn y nant sy'n llifo yno.
  • Cadwch ar y llwybr hwn, ac anwybyddwch y feidr ar y dde a fyddai'n eich arwain tuag at i fyny, am ei fod yn dilyn y nant ac yna'n codi i ganol tir coediog trwchus a mwy o olygfeydd ysblennydd o'r aber i'w gweld ar y chwith, ac yna disgyn tuag at glwyd sy'n eich arwain nôl at Black Bridge.
  • Trowch i'r dde ac ail-gerddwch ar hyd Coombs Road, trowch i'r chwith i'r feidr tuag at yr odyn galch ger yr arwydd 30mya. Peidiwch â dilyn y llwybr i lawr i'r blaendraeth ond gogwyddwch i'r dde wrth yr odyn galch ar hyd llwybr cul a deiliog sy'n eich arwain at Cellar Hill. Trowch i'r chwith fan hyn a bron yn union trowch i'r dde ger annedd ar hyd llwybr trefol cul a deiliog arall (15). Ni fedrwch ei golli oherwydd tu fas i'r tŷ fe welir casgliad da o hen arwyddion enamel yn hysbysebu busnesau Milffwrd ers llawer dydd!
  • ·Pan fydd y llwybr hwn yn disgyn i ffordd Beach Hill, trowch i'r dde a cherdded am i fyny tuag at Murray Road. Trowch i'r chwith fan hyn. Mae'r ffordd hon yn arwain at Y Rhath - ffordd sy'n llawn o adeiladau crand ar y dde ac yn edrych i lawr ar ddyfrffordd brysur Aberdaugleddau ar y chwith. Wrth i chi gerdded heibio'r safle seindorf cyntaf, oedwch i edrych ar rai o'r cofgolofnau - yn eu plith mae gosodydd ffrwydron yn gofeb i ‘Operation Overlord' (y goresgyniad Norwyaidd adeg yr Ail Ryfel Byd), a phlac efydd yn dangos map o'r ddyfrffordd, a cherflun syfrdanol yn cofio pysgotwyr Milffwrd.
  • Oddi tano fe welwch hefyd y gerddi wedi'u tirweddu lle'r oedd Lido Milffwrd.
  • O'r diwedd byddwch yn cyrraedd cyffordd Y Rhath a Hamilton Terrace a Slip Hill (tu fas i glwb y Lleng Prydeinig). Trowch i'r chwith i lawr Slip Hill (18), at y slipffordd ei hun, ac yna troi i'r dde ar hyd y promenâd nôl tuag at Gei Nelson lle cychwynnodd eich taith.
  • Cerddwch ar hyd lôn werdd odidog wnes eich bod yn cyrraedd darn grisiog ar eich chwith.  Ewch i lawr, trowch i’r chwith wrth ymyl coeden fawr a chamu i lawr rhagor o risiau.  Wedyn mae’r llwybr yn lefelu, yna’n codi ac yn mynd i’r dde.  Peidiwch â mynd ar hyd y lôn i’r chwith, wrth ymyl yr adeilad adfeiliedig. Yna’n sydyn mae tŷ yn dod i’r amlwg o’ch blaen!
  • Mae'n bryd cael lluniaeth rydych yn ei fawr haeddu wrth i chi eistedd yn edmygu'r cychod hwylio yn y cafn iot newydd!

     

 

 

 

ID: 239, adolygwyd 26/01/2023