Cerddwch Sir Benfro

Taith Gylchol Bro Cleddau (Doc Penfro)

Mae cerdded yn hwyl, felly pam na wnewch chi fentro arni, a blasu rhai o'r teithiau sy gan eich tref i'w gynnig. Mae'r daith ddymunol a diddorol hon sy'n cychwyn ac yn cwpla ym Mro Cleddau, Waterloo, Doc Penfro yn un o nifer o deithiau gwlad a thref a baratowyd gan Gyngor Sir Penfro.

Mwynhewch y daith ganolig ei hyd hon, nad yw'n rhy egnïol, o amgylch cyrion Doc Penfro sy'n cynnig golygfeydd prydferth o'r glennydd yn ogystal â chip hudol ar hanes morwrol, milwrol a chymdeithasol y ‘dref newydd' hon o Oes Fictoria.

Mae hon yn daith hudol a phrydferth o amgylch cyrion Doc Penfro gan fynd ar hyd yr holl fannau diddorol ar lan yr afon yn y ‘dref newydd' hon o Oes Fictoria yn ogystal â chynnig blas o hanes morwrol, milwrol a chymdeithasol tref a grëwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o amgylch yr Iard Llongau Frenhinol. Er bod yr iard llongau wedi cau yn 1926, parodd Doc Penfro i chwarae rhan allweddol yn hanes milwrol y DU, ac fe welir tystiolaeth o hynny ar y daith hon.

Yn bensaernïol, ac o ran golygfeydd, mae gan Ddoc Penfro gymaint i'w gynnig i'r cerddwr â threfi a chyrchfannau gwyliau mwy ffasiynol Sir Benfro.

Cerdded: Taith gerdded fer yw Bro Cleddau, Waterloo o ganol tref Doc Penfro. 
Bws: Teithiau bws 333, 349, 356, 357, 358, 361, 362, 387, ac 388 i gyd yn gwasanaethu Doc Penfro. Dod oddi ar y bws yn Waterloo, Tesco neu Laws Street. Amserlenni Bysiau (yn agor mewn tab newydd)
Trên: Yr orsaf agosaf yw Doc Penfro, taith gerdded fer o Fro Cleddau. Trenau Arriva Cymru Ymholiadau National Rail: 08457 484 950 National Rail (yn agor mewn tab newydd) 
Road Map: Chwilio am "Pembroke Dock"
Parcio: Ceir maes parcio mawr, am ddim ym Mro Cleddau, Waterloo
Toiledau: Toiledau cyhoeddus yng nghanol tref Doc Penfro a thua hanner ffordd ar hyd y daith yn Hobbs Point.
Lluniaeth:  Ar gael yng nghanol tref Doc Penfro lle ceir amrywiaeth o gaffis, llefydd bwyta a thai tafarn. Yn agos at fan cychwyn y daith, yn Pemborke Ferry ceir dau le trwyddedig sy’n gweini bwyd – The Ferry Inn a The Cleddau Bridge Hotel.

Cychwyn/Cwpla: Bro Cleddau, Waterloo, Doc Penfro.
Pellter: 7.55 milltir, 3 awr 
Tirwedd: Hawdd i ganolig ar hyd y ffyrdd, llwybrau trefol, llwybrau gwledig a’r blaendraeth (ceir llwybr arall ar adeg llanw uchel). Gall fod yn wlyb, yn fwdlyd ac yn llithrig mewn mannau. Un darn anodd yng nghyffiniau Llanreath.

Sticil: 0
Clwyd: 1
Grisiau: 10
Pontydd: 0
Meysydd Parcio: 1
Golygfeydd: sawl

  • Cychwynnwch y daith ym Mro Cleddau, Waterloo, lle ceir golygfeydd trawiadol o'r aber. Cerddwch heibio'r Ganolfan Weithgareddau, trowch i'r chwith ac yna i'r dde i fyny'r rhiw i gyfeiriad y Ganolfan Technium. Dilynwch yr allanfa gyntaf ar y cylchdro cyntaf a'r ail allanfa ar y cylchdro nesaf (sydd ar y ffordd sy'n arwain at Bont Cleddau).
  • Mae'r ffordd yn fforchio wrth y gwesty sydd o'ch blaen - gwyrwch i'r dde am i lawr tuag at Fferi Penfro, pentrefan yn llythrennol yng nghysgod y bont. Hwn yw un o'r croesfannau hynaf ar Aber Cleddau.
  • Mae'r capel Wesleaidd, a godwyd yn 1880, yn enghraifft ddiddorol o bensaernïaeth werinol.
  • Ewch yn ôl am i fyny, ond nid yr holl ffordd chwaith, yn hytrach, yn y fan lle mae'r tai yn dirwyn i ben, gwyrwch i'r dde ar hyd llwybr cul sy'n eich arwain i Lanion - nawr yn ystâd dai modern ond ar un adeg yn lleoliad Barics Edwardaidd, a gwelir peth tystiolaeth o'r adeiladau o hyd - cerddwch ar hyd y ffordd hon, ac ar hyd llwybr cul rhwng y tai, ac ar ôl cyrraedd ffordd arall, trowch i'r dde am i lawr at Pier Road.
  • Trowch i'r dde fan hyn a cherdded at Hobbs Point, lle ceir golygfeydd hyfryd i fyny ac i lawr yr afon. Hobbs Point oedd y groesfan olaf ar draws yr afon cyn codi Pont Cleddau, sydd i'w gweld yn ei holl brydferthwch modern o'r fan hon.
  • Unwaith eto ewch yn ôl ar hyd Pier Road, heibio'r fan y daethoch i lawr o Lanion, ac ymlaen i gyfeiriad y cylchdro wrth ymyl Lidls.
  • Trowch i'r dde ar hyd Western Way - ac yna fe gewch olygfeydd gwych o'r hen Iard Llongau Frenhinol - ac ychydig wedi mynd heibio'r groesfan i gerddwyr ger Asda, trowch i'r dde ar hyd Front Street - y stryd hynaf yn Noc Penfro sy'n wynebu'r afon yn ymyl ac sy'n eich tywys at ymyl yr Iard Llongau Frenhinol ei hun, wedi'i diogelu yn y fan hon gan y cyntaf o ddau dŵr tanio.
  • Yma y lleolir amgueddfa'r dref. Yn wal yr iard llongau o'ch blaen fe welwch chwe phanel efydd gan y cerflunydd adnabyddus Perryn Butler sy'n cyfleu golygfeydd o hanes y dref.
  • Oddi fewn i furiau'r iard llongau gwelir sguboriau enfawr a godwyd i gadw'r badau hedfan Sunderland a gedwid yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 
  • Trowch i'r chwith a cherddwch ar hyd Commerical Row, stryd sy'n cynnwys nifer o siopau â'u tu blaen heb newid dim. Ar groesfan fechan, trowch i'r dde gan ddal i ddilyn y wal.
  • Ar eich chwith mae'r Neuadd Farchnad sy wedi'i hadfer yn ddiweddar, ac sy'n adeilad gwych.
  • Dal yn eich blaen yn syth i'r iard llongau ei hun, gan basio Theatr y Garsiwn ar y dde, un o adeiladau gorau’r dref sy wedi goroesi o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 
  • Ewch yn eich blaen ar hyd rhodfa â choed ar ei hyd, heibio nifer o adeiladau ysblennydd wedi eu hadeiladu gyda charreg leol hyd nes ichi weld prif fynedfa’r iard llongau ar eich chwith.
  • Ewch trwyddi a throi i’ch de ar hyd Fort Road.  Cerddwch heibio’r ysbyty ar eich chwith nes ichi gyrraedd tŵr tanio arall ar ymyl yr iard llongau.
  • Unwaith eto ceir golygfeydd ysblennydd o'r afon o'r fan hon.
  • Os yw'n adeg llanw isel, medrwch gerdded draw i Lanreath, pentrefan y mae ei draeth i'w weld gan metr i ffwrdd ar y chwith.
  • Fel arall, ewch yn ôl yr un ffordd ar hyd Fort Road trwy dir yr ysbyty ac o'r bryncyn yno medrwch weld, y tu mewn i furiau'r iard llongau, Tŵr Paterchurch - yr adeilad enigmatig hynaf sy wedi goroesi yn Noc Penfro.
  • Pan ddewch at glwydi'r iard llongau roeddech newydd ddod trwyddyn nhw, trowch i'r dde am i fyny ac wrth y gyffordd nesaf, lle mae Barrack Hill gyda'i res o goed o'ch blaen, trowch i'r dde eto ac yn fuan wedyn i'r chwith ar hyd llwybr glaswelltog sy'n eich arwain i fyny'r rhiw ac i faes parcio ar ymyl cwrs golff.
  • Ewch trwy glwyd wrth ochr y maes parcio a cherddwch i mewn i bentrefan Llanreath.  Mae’r ffordd yn arwain i’r chwith yn sydyn ac wrth y gyffordd nesaf, trowch i’r dde ac ewch i lawr rhiw serth iawn at Draeth Llanreath, man fferi arall lle’r oedd gweithwyr yr iard llongau’n defnyddio cychod i fynd a dod.
  • Yn y fan hyn wnewch chi gyrraedd ar ôl cerdded ar hyd y blaendraeth o’r tŵr tanio yn Fort Road.
  • Cerddwch yn ôl lan y rhiw ond gan gadw'n syth ymlaen pan ddewch at y gyffordd lle troesoch i'r dde ar eich ffordd i lawr. Mae'r ffordd hon yn eich arwain at y cwrs golff, gwyrwch i'r chwith tuag at y maes parcio, ac yna i'r dde ar draws y cwrs golff tuag at y Barics Amddiffynnol godidog - caer ryfeddol o Oes Fictoria a godwyd yn rhan o'r cynllun amddiffyn ar gyfer yr Iard Llongau Frenhinol y gwelir ei ffurf wedi'i osod allan ar waelod y rhiw.
  • Gellir gweld grid strydoedd Doc Penfro o'r fan hon hefyd yn ogystal â golygfeydd ysblennydd o'r tirlun mor bell i ffwrdd â’r Preseli yn y gogledd.
  • Os byddwch yn ffodus o ran amseru, hwyrach y gwelwch fferi Wyddelig yn bwrw angor yn yr iard llongau.
  • Ewch ymlaen heibio'r Barics Amddiffynnol ac i mewn i ystâd o dai. Trowch i'r chwith, ac yna i'r chwith eto ac i Treowen Road ac yna'n union i'r dde wrth Gapel Bethany ac i'r Stryd Fawr. Dilynwch y Stryd Fawr ar yr ochr chwith, heibio tafarn y Red Rose, ac ar draws ffordd sy'n eich arwain at lwybr seiclo.
  • Ar ôl pellter byr ar hyd y llwybr hwn, trowch i'r chwith ar hyd llwybr arall sy'n eich arwain am i lawr ac i'r Parc Coffa - parc ffurfiol diddorol. Ewch o'r parc o dan fwa'r cloc a cherddwch i lawr Argyle Street ac ar ei diwedd fe ddylech droi i'r dde ac yna'n fuan wedyn gwyro i'r chwith ar hyd llwybr cul sy'n dilyn y rheilffordd.
  • Ar ôl ychydig gannoedd o fetrau fe ddewch at groesfan rheilffordd ar y chwith - ewch ar draws gyda gofal a cherddwch i lawr tuag at y cylchdro ac at y brif ffordd. Croeswch y ffordd hon ac ewch yn syth yn eich blaen ar hyd ffordd sy'n arwyddo Hwlffordd. Ar ôl pellter byr ar hyd y ffordd hon, trowch i'r dde ar hyd Warrior Way. Dilynwch y ffordd hon yn ôl i Fro Cleddau.

 

 

 

ID: 248, adolygwyd 28/11/2023