Cerddwch Sir Benfro
Taith Gylchol Ceunant Cilgerran
Mae’n dda cerdded ac, felly, beth am gamu allan a phrofi rhai o’r troeon sydd gan eich cymdogaeth i gynnig. Mae’r daith gerdded ddiddorol ac egnïol iawn hon, sy’n cychwyn ac yn dod i ben ym maes parcio Dolbadau yng Nghilgerran, yn un o nifer o droeon yn y wlad a’r dref a gynhyrchwyd gan Gyngor Sir Penfro.
Mwynhewch y daith gerdded eithaf egnïol hon o hyd cymedrol o lan yr afon ym maes parcio Dolbadau, Cilgerran trwy goetir prydferth i’r Ganolfan Bywyd Gwyllt ac yn ôl drachefn ar hyd glannau afon Teifi cyn symud i goetir uwch. Mae mannau diddorol yn cynnwys Ceunant Teifi, Canolfan Bywyd Gwyllt, ynghyd â Chastell ac Eglwys Cilgerran. Mae modd cyfuno’r daith gerdded gyda thaith gerdded Canolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran am lwybr byrrach, rhwyddach.
Cerdded: Mae'r daith hon yn dechrau a gorffen ym maes parcio Dolbadau, Cilgeran.
Bws: 230 (Aberteifi - Caerfyrddin, yn achlysurol ar ddydd Mercher yn unig); 430 (Aberteifi - Arberth); 431 (Pentre Galar - Aberteifi). Amserlenni Bysiau
Trên: Yr orsaf agosaf yw Clunderwen. Trenau Arriva Cymru
Map Ffordd: Chwiliwch am "Cilgerran, Sir Benfro".
Parcio: Mae yna faes parcio ceir am ddim ar lan yr afon yn Nolbadau, Cilgerran, lle mae'r daith yn dechrau a gorffen.
Toiledau: Mae yna doiledau cyhoeddus ym maes parcio Dolbadau ac yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt.
Lluniaeth: Gweinir ym mhentref Cilgerran ac yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt.
Dechrau/Gorffen: Maes parcio Dolbadau ar lan yr afon yng Nghilgerran.
Pellter: 4.2 milltir, 3 awr
Tirwedd: Mae hon yn daith feichus o hyd canolig - ymestyn allan ar hyd llwybrau coedwig mwyn i'r Ganolfan Bywyd Gwyllt a dychwelyd ar hyd llwybrau i fyny ac i lawr Ceunant serth Cilgerran.
Camfeydd: 3
Gatiau: 6
Grisiau: 288
Pontydd: 5
Golygfeydd: amryw
Maes Parcio: 1
- Mae'r daith hon yn dechrau wrth ochr y Teifi a maes parcio Dolbadau, Cilgerran lle ceir golygfeydd ysblennydd i fyny ac i lawr Ceunant Cilgerran. Mae gan yr adeilad yn y maes parcio gyfres o blaciau sy'n arddangos hanes naturiol a chymdeithasol yr ardal.
- Cerddwch i fyny'r lôn tuag at bentref Cilgerran, trowch i'r dde at y Stryd Fawr, i'r dde eto i mewn i Sgwâr y Castell a dilyn y lôn i fyny at yr eglwys.
- Mae tŵr yr eglwys yn deillio o'r drydedd ganrif ar ddeg er bod prif ran yr eglwys yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Saif carreg hynod ym mynwent yr eglwys. Arni mae arysgrifen Lladin ynghyd ag olion o Ogam - y ffurf gynharaf o ysgrifen a adnabyddir ar yr ynysoedd hyn.
- Cadwch i'r dde wrth gatiau'r eglwys a bron yn syth ar ôl hynny cymerwch lwybr troed cyfeirbwynt sydd hefyd ar y dde sy'n mynd â chi at bont sy'n croesi nant. Dilynwch y llwybr rhwng tai ac at lôn arall.
- Bron yn syth o'ch blaen chi mae yna lwybr cyfeirbwynt arall sy'n eich arwain at lôn drwy weirgloddiau gyda golygfeydd tirlun tonnog syfrdanol tuag Aberteifi ar eich chwith.
- Lle mae'r lôn yn rhannu, ewch drwy giât i mewn i hen goedwig gollddail hyfryd a pharhau ar y llwybr wrth iddo droelli drwy goed, heibio i frigiadau craig ar eich dde a thirgwair ar eich chwith. Cadwch ar y llwybr hwn, a throi i'r dde wrth fforch ar y llwybr caniataol sydd ag arwydd, a chadw i'r chwith wrth y fforch nesaf (mae'r fforch i'r dde wedi ei harwyddo â ‘chuddfan goed'), hyd nes i chi weld y ‘tŷ gwydr' cyfoes sef y Ganolfan Bywyd Gwyllt ar eich chwith.
- Os oes gennych amser, cymerwch ddargyfeiriad i'r ‘tŷ gwydr'. Mae'r Ganolfan Bywyd Gwyllt yng nghanol nifer o lwybrau byr wedi eu marcio'n dda sy'n cymryd i mewn amrywiaeth eang y cynefin rhyfeddol hwn sy'n gyfoeth o fywyd anifeiliaid ac adar ymhob adeg o'r flwyddyn. Casglwch fap o ddesg wybodaeth y ganolfan. Yma cewch hyd i arddangosfa a lluniaeth ynghyd â golygfeydd godidog o'r lle picnic dyrchafedig i'r gogledd ar draws Corsydd Teifi i borthladd hynafol Aberteifi a thu hwnt.
- Yn ôl ar y llwybr, cadwch i'r gogledd hyd nes i chi gyrraedd cyffordd-T. Trowch i'r dde ac rydych ar lwybr ceunant hyfryd sy'n dechrau drwy ddilyn glannau'r Teifi a mynd heibio i rai hen weithfeydd chwarel.
- Mae'r llwybr yn gul iawn ond mae'n cynnig golygfeydd afon ardderchog. Hefyd gall cyflwr y llwybr fod yn beryglus fan hyn, ac mae yna lwybr newydd wedi ei adeiladu sy'n codi drwy goedwig i ddilyn ymyl y ceunant am beth pellter o lan yr afon.
- Mae'r adran donnog hon yn serth a chreigiog iawn ac sy'n golygu dringo rhai cannoedd o risiau bach gyda chwympau serth i'r chwith. Mae'n llwyr werth chweil ond mae’n addas yn unig ar gyfer y cerddwyr hynny sydd wir o ddifrif.
- Mae'r llwybr yn ymddangos wrth ymyl hen fferm Forest. Cadwch i'r chwith ac yn ôl i mewn i'r goedwig. Mae'r goedwig dail llydan yn arwain y ffordd at lwybr llydanach drwy blanhigfa llarwydd. Cadwch i'r dde ar ôl croesi pont droed a dringo camfa ar y dde sy'n mynd â chi i mewn i gae. Dilynwch yr ochr chwith i ddarganfod camfa arall yn y gornel bellaf. Trowch i'r dde at lôn, ac yna i'r chwith rhwng rhai tai i lawr at bont dros y nant.
- Rydych bellach yn dringo'r llwybr heibio'r eglwys yr aethoch ar ei hyd rai oriau ynghynt a gallwch ddychwelyd i'r man cychwyn ym maes parcio Dolbadau drwy fynd yn ôl eich llwybr. Fodd bynnag, os oes gennych amser, arhoswch i edrych ar adfeilion Castell Cilgerran, sydd wedi'i leoli ar allfrigiad creigiog uwchben rhan fwyaf serth y ceunant. Hefyd, pan fyddwch yn ôl yn y maes parcio, efallai byddech yn hoffi cerdded pellter byr i lawr y nant, heibio i blaciau gwybodaeth, hyd nes eich bod o dan y castell. Ceir yma fwy o olygfeydd gorau'r ardal. Dilynwch daith gerdded Parc Bywyd Gwyllt Cilgerran am fersiwn haws ond un sydd yr un mor bleserus â hon.