Cerddwch Sir Benfro

Taith Gylchol Mynydd Tre-wman

Mae cerdded bob amser yn braf, felly pam na wnewch chi fentro arni, a blasu rhai o’r llwybrau sy gan eich cymdogaeth i’w gynnig. 

Mae’r daith ddymunol a diddorol hon sy’n cychwyn ac yn gorffen ar Fynydd Trewman yn un o nifer o deithiau cerdded gwlad a thref a baratowyd gan Gyngor Sir Penfro. 

Mwynhewch y daith ganolig ei hyd hon sy’n gymharol egnïol i’w cherdded o amgylch Mynydd Tre-wman ac sy’n cynnig rhai o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd yn Sir Benfro. Gwelir llawer o flodau a bywyd gwyllt yn ogystal â safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol ar hyd y daith.

Cerdded: Mae'r daith yn cychwyn wrth Fynydd Tre-wman, i'r gogledd o Hwlffordd, ar y ffordd B4330 i gyfeiriad Croes-goch.
Bws: 342 (Tyddewi-Hwlffordd)- gofynnwch am gael eich gollwng wrth Fynydd Tre-wman. Amserlenni Bysiau
Trên: Gorsaf agosaf yn Hwlffordd. Trennau Arriva Cymru
Map Ffordd: www.multimap.com. Chwiliwch am "Plumstone Mountain, Haverfordwest".
Parcio: Mae yna faes parcio bychan wrth Fynydd Tre-wman lle mae'r daith yn cychwyn ac yn gorffen.
Toiledau: Does yna ddim toiledau cyhoeddus ar hyd y daith hon.
Lluniaeth: Does yna ddim lluniaeth ar gael ar hyd y daith, felly, dewch â'ch eiddo eich hun!

Cychwyn/Gorffen: Maes parcio Mynydd Tre-wman.
Pellter: 3.75 milltiroedd, 3 awr
Tirwedd: Mae hon yn daith egnïol ar draws tirwedd sy'n medru bod yn fwdlyd ar adegau a cheir mannau serth - felly byddwch barod.
Sticlau: 3
Clwydi: 6
Grisiau: 0
Pontydd: 0
Golygfeydd: nifer
Maes Parcio: 1

  • Cychwynnwch y daith ym maes parcio Mynydd Tre-wman. Peidiwch ag anelu am lecyn creigiog y mynydd ond yn hytrach cerdded nôl ar hyd y feidr y daethoch ar ei hyd gan gymryd eich amser i werthfawrogi'r cyntaf o nifer o olygfeydd ysblennydd. Yn yr achos hwn gwelir Mynyddoedd y Preselau yn y pellter y tu hwnt i dir amaethyddol braf. Wrth y B4330, trowch i'r dde a cherddwch tuag at i lawr at Groes y Foneddiges.
  • Cymrwch ofal am fod hon yn ffordd lled brysur. Trowch i'r dde ar hyd ffordd geffylau. Bron yn union ar y dde, y tu hwnt i'r clawdd, fe welwch dwmpath coediog sy'n dynodi lleoliad caer Oes yr Haearn.
  • Ar ddiwedd y feidr hon, lle mae'n ymrannu, ewch yn syth yn eich blaen trwy glwyd ac yna wedi mynd heibio ail glwyd trowch i'r chwith ar hyd ffens er mwyn dilyn llwybr sy wedi'i gyfeirio'n dda ar draws ymyl deheuol comin Mynydd Tre-wman. Er bod hwn yn dir comin does dim hawliau tramwy agored a dylid cadw at y llwybrau sy wedi'u nodi.
  • Hanfod rheolaeth draddodiadol o dir comin fel hwn oedd llosgi blynyddol a'i bori gan ddefaid a gwartheg ond ar ôl rhoi'r gorau i'r llosgi datblygodd y tir comin yn gyforiog o eithin a grug yn ogystal â blodau gwyllt yn y mannau mwyaf agored. Dyma lle fydd tylluanod, boncathod a churyllod yn hela.
  • Wrth gerdded ar hyd yr ymyl deheuol gwelir nifer o lwybrau'n arwain tuag at Fynydd Tre-wman sydd i'w weld yn glir nawr ar y gorwel i gyfeiriad y gogledd, ond cadwch i'r chwith lle mae'r llwybr yn ymrannu gan anelu at y blanhigfa goed yn y pellter agos.
  • Gwelir golygfeydd bondibethma i gyfeiriad de'r sir.
  • Yn y pen draw byddwch yn cyrraedd trydedd glwyd a thu hwnt iddi bydd y llwybr yn llydanu ac yn troelli tuag at feidr. Trowch i'r chwith ar hyd y feidr hon sy'n eich arwain at Blanhigfa Sarnau. Pinwydd bolion a phyrwydd Sitka sydd i'w gweld yn y blanhigfa'n bennaf lle gwelir a chlywir adar megis yswigod hirgwt, drywod eurben a dringwyr bach gan amlaf yn ogystal â miloedd o ddrudwy'n clwydo. Anifeiliaid a welir ar hyd y daith hon wedyn fydd gwiberod, madfallod, cadnoid, moch daear ac, wrth gwrs, ceffylau.
  • Pan fyddwch yn gadael y blanhigfa trowch i'r dde ar hyd feidr, yna i'r dde eto heibio ffermdy a cherdded i fyny'r llwybr ar hyd llethr serth gan edrych ar draws tir agored ar eich chwith a'r coed coniffer ar y dde (6). Pan ddaw'r coed conifferaidd i ben, dringwch dros sticil ar y chwith, trowch i'r dde i gae ac yna, o fewn byr amser, i gyfeiriad y gogledd, dringwch dros sticil arall, ewch trwy glwyd a cherdded nôl ar hyd y tir comin i'r de o Fynydd Dudwell.
  • Cymrwch hoe fan hyn gan fwynhau'r golygfeydd ysblennydd unwaith eto - yn arbennig i'r gorllewin lle gwelir Castell y Garn yn y pellter yn edrych dros Bae Sain Ffred
  • Hwyrach y gwelwch gip ar ambell forlo yn y môr! I'r gogledd mae'r creigiau anferth o amgylch Tyddewi i'w gweld yn glir, ac efallai hyd yn oed Ynys Dewi y tu hwnt.
  • Pan fyddwch wedi eich digoni dilynwch y llwybr ar y gwaered i gyfeiriad y de-ddwyrain, heibio i bentwr digon rhyfedd o greigiau, ar draws y tir comin ac i gyfeiriad y blanhigfa unwaith eto. Ewch trwy glwyd ac ar hyd llwybr ceffylau sy'n eich arwain trwy goedlan lle fydd yr haul yn chwarae mig a chi (os byddwch yn lwcus!) tuag at y glwyd olaf ac fe fyddwch nôl ar y comin eto. Yn fuan wedyn bydd llwybr wedi'i gyfeirio'n eglur yn croesi'r llwybr ceffylau.
  • Pan fyddwch wedi cyrraedd y grib fe welwch garnedd amlwg ar y chwith (11) y byddwch am ei harchwilio efallai, neu trowch i'r dde a cherdded tuag at y brigiad creigiog ar ben Mynydd Tre-wman
  • Rydych nawr wedi cyrraedd pen y daith ac ewch o amgylch y creigiau a rhyfeddu at y golygfeydd trawiadol a welir am filltiroedd i bob cyfeiriad. Bydd ceisio adnabod yr holl dirnodau'n andros o hwyl gan gynnwys y rhai a wnaed gan ddyn sydd i'w gweld yn y pellteroedd.
  • Yn olaf ewch heibio'r creigiau nôl i gyfeiriad y maes parcio. Cyfle nawr i daro heibio un o'r trefi neu bentrefi cyfagos i fwynhau lluniaeth fyddwch yn ei lwyr haeddu mae'n siŵr.

 

 

ID: 250, adolygwyd 26/01/2023