Cerddwch Sir Benfro
Taith Gylchol o Amgylch Maes Awyr Tredeml
Mae cerdded bob amser yn braf, felly pam na wnewch chi fentro arni, a blasu rhai o'r llwybrau sy gan eich cymdogaeth i'w gynnig. Mae'r daith gerdded ddymunol a diddorol hon oddi fewn i ffiniau hen faes awyr Tredeml yn un o nifer o deithiau cerdded gwlad a thref a baratowyd gan Gyngor Sir Penfro.
Roedd maes awyr Tredeml yn un o nifer o feysydd awyr a sefydlwyd yn Sir Benfro yn rhan o'r amddiffynfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd am fod angen diogelu porthladd Aberdaugleddau. Er nad oes yna'r un adeilad wedi goroesi gellir gweld y rhedffyrdd o hyd sy'n rhoi rhyw syniad o faint y maes awyr. Erbyn heddiw defaid sy'n pori ar y tir.
Lleolir y daith hon yng nghanol tirwedd sy'n nodweddiadol o Sir Benfro ac sy'n rhan o lwybr aml-ddefnydd Cyngor Sir Penfro. Mae'n weddol wastad gyda'r rhan fwyaf o'r wyneb naill ai'n gerrig mân neu darmac gyda pheth glaswellt. Mae felly'n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu, yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd gyda beiciau bychain a chadeiriau gwthio efallai yn ogystal â phobl hŷn sy'n hoff o gerdded llwybrau cymharol hawdd nad ydyn nhw'n fawr o dreth ar eu cyrff.
Cerdded: Mae'r daith yn cychwyn ac yn gorffen ger y ganolfan storio ar groesffordd Capel Thomas Chapel i'r de-orllewin o Dredeml.
Bws: Amserlenni Bysiau
Trên: Mae'r orsaf agosaf yn Arberth. Trenau Arriva Cymru
Map Ffordd:Chwiliwch am "Templeton, Sir Benfro".
Parcio: Mae yna faes parcio bychan y tu fas i ffin y ganolfan storio lle mae'r daith yn cychwyn ac yn gorffen.
Toiledau: Mae yna doiledau cyhoeddus yn y maes parcio yn Nhredeml.
Lluniaeth: Mae yna siop fechan, caffi a thŷ tafarn yn Nhredeml.
Cychwyn/Gorffen: Croesffordd Capel Thomas.
Pellter: 2.6 milltiroedd , 1 awr
Tirwedd: Mae hon yn daith gymharol fer a hawdd ar draws llwybrau cerrig, tarmac a glaswellt. Am ei bod yn rhan o lwybr aml-ddefnydd mae'n bosib i bobl o bob oed a gallu dramwyo ar ei hyd.
Sticlau: 0
Clwydi: 3
Grisiau: 0
Pontydd: 0
Golygfeydd: nifer
Maes Parcio: 1
- Mae'r daith yn cychwyn ar groesffordd Capel Thomas wrth y ganolfan storio sydd i'r de-orllewin o bentref Tredeml. Ewch trwy glwyd at lwybr cerrig wedi'i gyfeirio sy'n dirwyn tua'r gogledd ar draws y maes awyr. Ar ôl croesi prif redffordd a dwy lai mae'r llwybr yn mynd trwy goedlan fechan.
- Wedyn ewch trwy glwyd sy'n arwain at feidr - sy'n rhan o lwybr hirach. Anwybyddwch hwn a throwch i'r chwith.
- Rydych nawr yn mynd ar hyd llwybr arall sy wedi'i gyfeirio sy'n eich arwain nôl ar draws y maes awyr i gyfeiriad y de-orllewin. Daw'r llwybr cerrig i ben chwap ond mae'r llwybr wedi'i gyfeirio'n dda ar draws tir glaswelltog lled gadarn a thrwy llwyni eithin ac ar draws tair rhedfa fawr.
- Ar derfyn y llwybr hwn fe welwch glwyd sy'n eich arwain at feidr (4). Trowch i'r chwith fan hyn a medrwch gerdded nôl tuag at groesffordd Capel Thomas.
- Neu medrwch droi i'r chwith cyn y glwyd ac anelu i gyfeiriad dau dŵr telegyfathrebu mawr yn y pellter agos oddi fewn i ffiniau'r maes awyr (5) - nid yw hwn wedi'i gyfeirio ond yn hytrach yn llwybr goddefol a agorwyd trwy garedigrwydd y Weinyddiaeth Amddiffyn.
- Ewch trwy glwyd i'r chwith o'r tyrau telegyfathrebu a daw'r llwybr a chi nôl i'r man cychwyn yn agos at y ganolfan storio ar groesffordd Capel Thomas.