Cerddwch Sir Benfro
Taith Gylchol Parc Bywyd Gwyllt Cilgerran
Mae cerdded yn beth da, felly pam na wnewch chi fentro i'r awyr agored a phrofi rhai o'r teithiau sydd gan eich cymdogaeth i'w cynnig. Mae'r daith bleserus a diddorol hon sy'n dechrau a gorffen ym maes parcio Dolbadau yng Nghilgerran yn un o nifer o deithiau tref a gwlad sydd wedi'u cynhyrchu gan Gyngor Sir Penfro.
Mwynhewch y daith o hyd canolig cymharol hawdd hon o lan yr afon ym maes parcio Dolbadau, Cilgerran drwy goedwig brydferth i'r Ganolfan Bywyd Gwyllt ac yn ôl eto. Mae'r daith yn ôl yn mynd ar hyd hen drac rheilffordd - defnyddiwch y llwybr hwn ar gyfer y naill ffordd ar gyfer cerdded hawdd iawn a gwastad. Gellid cyfuno'r daith â thaith Canolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran am lwybr byrrach a haws.
Cerdded: Mae'r daith hon yn dechrau a gorffen ym maes parcio Dolbadau, Cilgerran.
Bws: 230 (Aberteifi - Caerfyrddin, yn achlysurol ar ddydd Mercher yn unig); 430 (Aberteifi - Arberth); 431 (Pentre Galar - Aberteifi).
Amserlenni Bysiau
Trên: Yr orsaf agosaf yw Clunderwen. Trenau Arriva Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Map Ffordd: Chwiliwch am "Cilgerran, Sir Benfro".
Parcio: Mae yna faes parcio ceir am ddim ar lan yr afon yn Nolbadau, Cilgerran, lle mae'r daith yn dechrau a gorffen.
Toiledau: Mae yna doiledau cyhoeddus ym maes parcio Dolbadau ac yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt.
Lluniaeth: Gweinir ym mhentref Cilgerran ac yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt.
Dechrau/Gorffen: Mae parcio Dolbadau ar lan yr afon yng Nghilgeran.
Pellter: 3.9 milltir, 2 awr
Tirwedd: Mae hon yn daith gymharol hawdd o hyd canolig - ymestyn allan ar hyd llwybrau coedwig a dychwelyd ar hyd llwybrau beicio wedi'u tarmacio ac isffyrdd.
Camfeydd: 1
Gatiau: 4
Grisiau: 7
Pontydd: 1
Golygfeydd: amryw
Maes Parcio: 1
- Mae'r daith hon yn dechrau wrth ochr y Teifi a maes parcio Dolbadau, Cilgerran lle ceir golygfeydd ysblennydd i fyny ac i lawr Ceunant Cilgerran (1). Mae gan yr adeilad yn y maes parcio gyfres o blaciau sy'n arddangos hanes naturiol a chymdeithasol yr ardal.
- Cerddwch i fyny'r lôn tuag at bentref Cilgerran, trowch i'r dde at y Stryd Fawr, i'r dde eto i mewn i Sgwâr y Castell a dilyn y lôn i fyny at yr eglwys. Efallai byddwch yn hoffi cymryd amser i archwilio'r castell a'r eglwys ar yr adeg hon.
- Cadwch i'r dde wrth gatiau'r eglwys a bron yn syth ar ôl hynny cymerwch lwybr troed cyfeirbwynt sydd hefyd ar y dde sy'n mynd â chi at bont sy'n croesi nant. Dilynwch y llwybr rhwng tai ac at lôn arall. Bron yn syth o'ch blaen chi mae yna lwybr cyfeirbwynt arall sy'n eich arwain at lôn drwy weirgloddiau gyda golygfeydd tirlun tonnog syfrdanol tuag Aberteifi ar eich chwith.
- Lle mae'r lôn yn rhannu, ewch drwy giât i mewn i hen goedwig gollddail hyfryd a pharhau ar y llwybr wrth iddo droelli drwy goed, heibio i frigiadau craig ar eich dde a thirgwair ar eich chwith. Cadwch ar y llwybr hwn, a throi i'r dde wrth fforch ar y llwybr caniataol sydd ag arwydd, a chadw i'r chwith wrth y fforch nesaf (mae'r fforch i'r dde wedi ei harwyddo â ‘chuddfan coed'), hyd nes i chi weld y ‘tŷ gwydr' cyfoes sef y Ganolfan Bywyd Gwyllt ar eich chwith.
- Peidiwch â mynd i'r canol eto ond cadwch ar y llwybr am bellter byr hyd nes i chi gyrraedd cyffordd-T.
- I'r dde mae llwybr Ceunant Cilgerran (testun taith ar wahân). Trowch i'r chwith a rhai metrau ymlaen ceir golygfan tuag at yr afon Teifi hardd.
- Cadwch fynd heibio i'r golygfan a throi i'r chwith ar hyd lôn sy'n eich arwain heibio i dŷ rhai o hen chwarelwyr i ‘dŷ gwydr' y Ganolfan Bywyd Gwyllt newydd. Yma cewch hyd i arddangosfa a lluniaeth ynghyd â golygfeydd godidog o'r lle picnic dyrchafedig i'r gogledd ar draws Corsydd Teifi i borthladd hynafol Aberteifi a thu hwnt.
- Mae'r Ganolfan Bywyd Gwyllt yng nghanol nifer o lwybrau byr wedi'u marcio'n dda sy'n cymryd i mewn amrywiaeth eang y cynefin rhyfeddol hwn sy'n gyfoeth o fywyd anifeiliaid ac adar ymhob adeg o'r flwyddyn. Casglwch fap o ddesg wybodaeth y ganolfan.
- Pan rydych yn barod, cadwch i'r dde ar hyd lôn oddi wrth y Ganolfan Bywyd Gwyllt tuag at y maes parcio ac ar hen linell rheilffordd sydd bellach yn llwybr beicio a ffordd fynediad i'r ganolfan. Bydd y lôn hon yn eich arwain yn y diwedd at ymyl orllewinol Cilgerran. Trowch i'r chwith a dilyn y brif ffordd hyd nes i chi weld y troad ar gyfer maes parcio Dolbadau ar eich chwith.
- Gall y rhai ohonoch sy'n ffafrio taith hawdd iawn gerdded i ac o'r Ganolfan Bywyd Gwyllt ar hyd yr hen linell reilffordd (7). Mae'n gymharol wastad ac yn addas ar gyfer aml-ddefnyddwyr. Ac efallai bydd y rhai ohonoch sy'n ffafrio taith fwy heriol yn hoffi cysylltu'r daith hon gyda'i chydymaith, taith Ceunant Cilgerran.