Cerddwch Sir Benfro

Y Daith Gerdded o Arberth i Blackpool Mill

Mae cerdded yn bleser pur felly beth am ichi roi cynnig ar rai o'r llwybrau cerdded sydd i'w cael yn eich ardal leol.  Mae'r llwybrau cerdded yma sy'n dechrau a dod i ben ym maes parcio Gwaun y Dref yn Arberth, ymhlith nifer o deithiau cerdded, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, a luniwyd gan Gyngor Sir Penfro. 

Man cychwyn y daith gerdded pellter canolig ond gweddol rwydd, yw tref farchnad hanesyddol Arberth.  Oddi yno gallwch chi gerdded trwy harddwch tirwedd iseldir Sir Benfro a Choed Canaston at Blackpool Mill, ar lannau Afon Cleddau, cyn mynd yn ôl i Arberth.  Mae bron bob cam o'r daith yn defnyddio llwybrau sydd newydd gael eu gwella er mwyn i bawb eu mwynhau, a lonydd tawel yng nghefn gwlad.  Mae'r daith gerdded yn ymgysylltu â nifer o we-deithiau eraill a luniwyd gan Gyngor Sir Penfro.  

Mae'r llwybr cerdded hon yn dechrau ac yn dod i ben ym maes parcio Gwaun y Dref yn nhref farchnad hanesyddol Arberth.  Cofiwch ganiatáu amser i fynd i archwilio'r dref brydferth hon, ei phensaernïaeth, ei siopau bwtîc a'i nifer fawr o fwytai a thafarnau bendigedig (er y dylech o bosibl ddisychedu eich hun ar ôl y daith gerdded!).  Yn y dref hefyd, y sonnir amdani yn y Mabinogion, llyfr sy'n adrodd hen chwedlau Cymru, mae Castell Normanaidd ac oriel gelfyddyd ysblennydd sydd wedi'i lleoli yn Neuadd y Frenhines ar y Stryd Fawr. Mae gwe-deithiau eraill yn dechrau a diweddu yma hefyd - gallwch lunio fersiynau hirach neu fyrrach o'r teithiau hyn er mwyn iddynt fod yn addas ar gyfer eich galluoedd a'r amser sydd gyda chi ar gael. 

Cerdded: Man cychwyn a diwedd y daith yw'r maes parcio talu ac arddangos yng Ngwaun y Dref, Arberth.
Bws: 381: Dinbych-y-pysgod - Hwlffordd - Dinbych-y-pysgod 391; Glandy Cross - Arberth. 322: Caerfyrddin - Hwlffordd. 430: Aberteifi - Arberth. Mae'r bysiau 322 a 381 yn mynd i Bont Canaston sydd ond cam neu ddau o Blackpool Mill, ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn dymuno cerdded yn ôl i Arberth. Amserlenni Bysiau 
Trên: Mae'r orsaf agosaf i'w chael yn Arberth. Trenau Arriva Cymru 
Map Ffyrdd: Chwiliwch am "Narberth, Sir Benfro".
Parcio: Mae maes parcio talu ac arddangos yng Ngwaun y Dref, Arberth, lle mae'r daith gerdded yn dechrau a dod i ben.
Toiledau: Mae toiledau cyhoeddus yn Arberth.
Lluniaeth: Yn Arberth mae nifer dda o siopau, caffis, bwytai, a thafarnau.

Dechrau/Gorffen: Maes parcio talu ac arddangos Gwaun y Dref Arberth.
Pellter: 3.73 milltir, 3 ½ awr
Tirwedd: Taith gerdded rwydd, pellter canolig, ar hyd llwybrau amlddefnyddwyr, lonydd gwledig tawel ac un neu ddau o lwybrau glaswelltog.
Camfeydd: 3
Clwydi: 0
Staerau: 0
Pontydd: 0
Golygfeydd: nifer dda
Maes Parcio: 1

  • O faes parcio Gwaun y Dref dylech ddilyn y llwybr i amlddefnyddwyr sy'n mynd i lawr i'r coetir sydd i'r de-orllewin o'r dref.
  • Ewch ar hyd y llwybr hwn i lawr y rhiw (oddi yno fe gewch chi olygfeydd bendigedig o'r dirwedd isel) hyd nes dewch chi at bont ar draws nant fechan. Yn union wedyn, wrth groesffordd sydd wedi'i chyfeirbwyntio, trowch i'r dde a dilyn y llwybr hyd nes bydd e'n dod at lon gul, wledig. Trowch i'r dde eto a cherdded i gyfeiriad Coed Canaston y gallwch ei weld gerllaw.
  • Pan fyddwch chi wedi cyrraedd cyrion y coetir fe welwch arwydd llwybr ceffylau ar eich ochr chwith - peidiwch â'i ddilyn da chi - ac ewch yn eich blaen am bellter byr hyd nes dewch chi at lwybr troed cyfeirbwynt ar eich llaw chwith. Yn y fan yma ewch dros y gamfa, croesi cae bychan, a mynd dros ail gamfa. Rydych chi bellach wedi cyrraedd cwr gogleddol Coed Canaston - sef coetir eang, hudolus sy'n llawn coed deilgoll a chonwydd.
  • Ewch ar hyd y llwybr glaswelltog hwn sy'n ymddolennu tua'r de wrth ochr nant fechan. Yn y fan lle mae'r llwybr yn dod at blanhigfa coed ifanc fe welwch chi groesffordd fechan, wedi'i chyfeirbwyntio. Ewch ar hyd y troad i'r chwith a cherdded am bellter byr hyd nes byddwch chi'n dod at lwybr llawer mwy llydan - hwn yw'r llwybr newydd i amlddefnyddwyr sy'n mynd trwy'r coetir o'r dwyrain i'r gorllewin ac sydd hefyd yn dilyn rhan o lwybr teithio hynafol Llwybr y Marchogion. Hwn oedd llwybr y pererinion a oedd ar un adeg yn ymgysylltu de'r sir â Chadeirlan Tyddewi yng ngogledd-orllewin y sir. Trowch i'r dde a dilynwch y llwybr pantiog hwn sy'n mynd trwy glystyrau godidog o goed deilgoll a chonwydd, hyd nes dewch chi at briffordd. Dylech groesi'r ffordd hon gan bwyll a mynd yn eich blaen trwy'r coed ac i lawr i gyfeiriad Afon Cleddau.
  • Wrth ichi ddilyn y prif lwybr hwn, byddwch yn gweld llawer o fân lwybrau sy'n ei groesi - mae'r rhain i gyd yn rhan o rwydwaith sy' ymestyn dros Goed Canaston drwyddo draw ac maent yn werth eu harchwilio os oes amser gennych. Mae'r rhan hon o'r daith yng Nghoed Canaston hefyd yn ymgysylltu â gwe-deithiau eraill sy'n cynnwys un at Gapel Mounton ac, ymhellach na hynny, at gyfres o deithiau cerdded sydd wedi eu lleoli o amgylch pentref canoloesol Tredeml. Pe byddech yn dymuno gwneud hynny gallech ddilyn y llwybrau hyn er mwyn ichi deithio ymhellach i'r de i'r safleoedd treftadaeth hanesyddol yn Stepaside. 
  • Yn ôl â ni at y brif daith gerdded. Wrth ichi ddod yn nes at Afon Cleddau byddwch yn mynd allan o'r goedwig ac yn mynd ar hyd lôn wledig. Trowch i'r chwith ac ar ôl cerdded am bellter byr iawn, trowch i'r dde ar hyd rhodfa - o'ch blaen mae adeilad bendigedig Blackpool Mill a adeiladwyd yn 1813. 
  • Wrth ei ochr mae adeilad sydd yr un mor drawiadol ag ef - sef y bont un fwa dros Afon Cleddau Dwyreiniol (5). Croeswch y bont hon ac fe fyddwch chi ar rwydwaith arall o lwybrau yng Nghoed Slebets, i'r gogledd o'r afon.
  • Ar ochr arall y Felin mae clwyd sy'n cysylltu â chyfres o deithiau cerdded dymunol sy'n arwain at Goed Minwear ar hyd glannau deheuol yr afon, sydd ar gwr y pentref gwyliau modern o'r enw Carreg Las.
  • Am y tro efallai ei bod hi'n bryd ichi gymryd hoe fach a manteisio ar y cyfle i edmygu'r bensaernïaeth syfrdanol a'r golygfeydd o'r afon. Ar ben hynny cewch joio teisen neu ddwy a disgled o de yng nghaffi'r Felin cyn mynd yn eich ôl i Arberth.

 

 

ID: 247, adolygwyd 26/01/2023