Cewynnau Go Iawn

Does dim byd tebyg i’r peth go iawn, fy maban i

Byddwch yn newid cewyn eich baban tua 2,000 o weithiau'r flwyddyn rhwng cael ei eni a dechrau defnyddio poti (tua 2½ blwydd oed). Mae hynna tua 5,000 o gewynnau tafladwy sy'n hafal i 156 o fagiau du, sy'n pwyso tua'r un faint â char teulu!

Gwneud newid go iawn!

Mae mwy a mwy o rieni yn newid i gewynnau go iawn wrth iddynt sylweddoli eu bod nhw'n hawdd eu defnyddio ac yn gost effeithiol. 

Mae'r dyddiau pan fu rhaid golchi â dŵr berw a mwydo wedi hen fynd - gallwch olchi cewynnau go iawn ar 60°C mewn peiriant golchi arferol yn y cartref. O ran llwythi golchi, mae defnyddio cewynnau go iawn ond yn cyfateb i ddau lwyth golchi'r wythnos. 

Gyda leineri golchadwy neu fioddiraddadwy a phopwyr neu felcro i'w cau, mae cewynnau go iawn yn hawdd i'w defnyddio! Felly, heb unrhyw binnau mewn golwg, mae llai o annibendod a llai o ffwdan. 

Gallai defnyddio cewynnau go iawn arbed £500 i chi ar gyfer eich plentyn cyntaf, a hyd yn oed mwy ar gyfer unrhyw blant yn y dyfodol gan y gellir eu hailddefnyddio'n hawdd.

Manteision go iawn i fabanod!

Mae cewynnau go iawn yn cadw cluniau babanod ar wahân ar yr ongl gywir. Dylai babanod mewn cewynnau go iawn hyfforddi i fynd i'r tŷ bach llawer yn gynt oherwydd y cydgysylltiad rhwng bod yn wlyb a gwacau eu pledren.

Dewisiadau go iawn!

Mae nifer o gewynnau a phlygion go iawn gwahanol ar gael, felly mae'n hawdd dewis yr un gorau ar gyfer eich baban. 

Ffeithiau go iawn:

  • Mae Cyngor Sir Penfro'n cael gwared ag oddeutu 3.4 miliwn o gewynnau bob blwyddyn!
  • Gall gymryd cannoedd o flynyddoedd i gewynnau tafladwy fioddiraddio mewn safle tirlenwi!
  • Petai teulu ag un babi yn newid i gewynnau go iawn, byddai eu hysbwriel yn cael ei haneru!

Am fwy o wybodaeth, cymorth a chyngor ar ddefnyddio cewynnau go iawn, e-bost real.nappies@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 420, adolygwyd 22/08/2022