Chwarae Sir Benfro
10 gweithgaredd i wneud heb offer
Tag
Nod y gêm yw osgoi bod yn ‘it’. Mae un plentyn yn dechrau’r gêm fel ‘it’, gan geisio pasio’r ‘it’ at blentyn arall drwy eu cyffwrdd a gweiddi ‘Tag’, gan greu gêm cwrso. Efallai bydd plant yn creu ‘gorsaf ddiogel’ ble cânt orffwys am ennyd!
Chwarae Cuddio
Mae un plentyn yn ‘it’ ac yn cyfri i ugain (gellir amrywio!) gyda llygaid ynghau. Mae’r plant eraill yn ceisio darganfod lle cuddio da cyn i’r amser fod ar ben. Mae’r plentyn sy’n cyfri yna’n ceisio chwilio am y plant sy’n cuddio - y cyntaf i gael ei ddarganfod sy’n ‘it’ yn y gêm nesa, ac yr un olaf i gael ei ddarganfod yw’r enillydd.
Mudchwarae
Mae un plentyn yn dewis pwnc (e.e. llyfrau) ac yn ceisio meimio teitl y llyfr heb siarad. Mae’n rhaid i’r plant eraill geisio dyfalu teitl y llyfr heb holi unrhyw gwestiynau, dim ond defnyddio symudiadau’r plentyn fel awgrymiadau. Categorïau poblogaidd eraill o ddewis byddai ffilm, teledu neu gerddoriaeth. Y cyntaf i ddyfalu’r ateb cywir sy’n ennill.
Dyfalwch pwy ydw i’/20 cwestiwn
Mae pob plentyn yn dewis bod yn rhywun / rhywbeth, megis anifail. Mae’r plant eraill yn gofyn cwestiynau caeedig (y gallwch ond eu hateb gydag ie neu na) i geisio dyfalu’r anifail, gan ofyn dim mwy na 20 cwestiwn.
Splat
Mae’r plant yn sefyll mewn cylch, gan wynebu’r canol, ac un plentyn yn y canol. Mae’r plentyn yn y canol y gweiddi a phwyntio ‘SPLAT!’ ar rywun yn y cylch, ac mae’n rhaid i’r plentyn yna fynd ar ei gwrcwd, wedi cael ei ‘splatio’. Mae’r plant naill ochr i’r plentyn sydd wedi’i ‘splatio’ yn gorfod troi i wynebu’i gilydd a rhoi’u dwylo i fyny a gweiddi ‘Splat!’ yn ôl. Y plentyn olaf i weiddi ‘Splat!’ sydd allan o’r gêm.
‘Styc yn y mwd’
Fersiwn o tag. Pan fydd y person yn gweiddi ‘Tag’ yn dilyn cyffwrdd plentyn arall, ni fydd y plentyn hwnnw yn cael symud o’r unfan, nes bydd rhywun yn ei ‘tagio’ a chaiff symud eto. Nod y gêm yw rhewi pob un chwaraewr.
‘Dywed Simon’
Mae un person yn cael ei ddewis i fod yn ‘Simon’ ac mae’r plant eraill yn dueddol o sefyll mewn llinell syth. Mae Simon yna’n gofyn i’r gweddill gwblhau symudiadau, e.e. ‘cyffwrdd eich traed’. Dylai’r symudiadau ond gael eu cwblhau os bydd y geiriau ‘Dywed Simon’ yn cael eu dweud cyn y symudiad, fel arall dylent aros yn llonydd. Bwriad y gêm yw bod y person olaf i fod ar ei draed.
Hwyaden, Hwyaden, Gŵydd
Mae’r plant yn eistedd mewn cylch yn wynebu ei gilydd, gyda’r person sy’n chwarae ‘it’ i ddewis pobl fel ‘hwyaden’ neu ‘gŵydd’. Unwaith bydd rhywun yn cael ei ddewis i fod yn ‘ŵydd’, mae’r rhaid i’r person yna geisio rasio’r person arall o gwmpas y cylch ac eistedd yn ei le. Os yw’r ŵydd yn ennill, mae’r plentyn arall yn y canol am y gêm nesaf.
Actio stori
Darllen stori boblogaidd yn uchel (gall fod ar gof) i’r plant ac mae’n rhaid iddynt actio’r symudiadau megis cropian, rhedeg, hopian a.y.b. Gall y straeon gynnwys y rheiny o’r pecynnau ‘Busy Feet’.
Olion traed Nain
Mae angen i un plentyn fod yn ‘it’ ac i’r plant eraill sefyll tu ôl mewn llinell (tua 15 troedfedd i ffwrdd). Mae’r plant yn gorfod cripian cyn gynted â phosib tuag at y plentyn sy’n ‘it’, sy’n troi’n gyflym i geisio dal unrhyw blentyn sy’n symud. Pe bai’n dal unrhyw blentyn yn symud, maent allan o’r gêm. Y plentyn olaf heb gael ei ddal yw’r enillydd. Tebyg i: Faint o’r gloch yw hi, Mr Blaidd?