Chwarae Sir Benfro

10 Syniad gyda Choginio

Tatws trwy’u crwyn

Dewiswch datws llai er mwyn gallu eu coginio mewn llai o amser. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u golchi ac yn lân. Gofynnwch i’r plant orchuddio’u tatws mewn ffoil, a’u paratoi i fynd ar y tân. 

Bara Cri

Caiff bara cri ei wneud gyda blawd a dŵr, efallai yr hoffech ychwanegu ychydig o siwgr, ond nid oes angen llawer. Dylai plant chwilio am frigau bach ar gyfer coginio’r bara cri, neu prynwch sgiwerau hir (pren) a gosod y bara ar y brigyn neu sgiwer. Coginiwch ar y colsion neu yn y tân; byddwch yn gwybod pan fyddant wedi’u coginio. 

Cacenni Cri

  • 225g blawd plaen
  • 85g siwgr man
  • ½ llwy de sbeis cymysg
  • ½ llwy de o bowdr pobi
  • 50g menyn, wedi’i dorri’n ddarnau bach
  • 50g saim, wedi’i dorri’n ddarnau bach, ac ychydig mwy ar gyfer ffrio
  • 50g cyrens
  • 1 wy, wedi’i guro
  • Diferyn o laeth

 Dull

  1. Rhowch y blawd, siwgr, sbeis cymysg, powdr pobi a phinsiad o halen mewn powlen. Ychwanegwch y menyn a’r saim a rhwbiwch y cyfan gyda’ch bysedd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bara. Cymysgwch y cyrens i’r cymysgedd. Ychwanegwch yr wy i’r gymysgedd a’i gymysgu nes ei fod yn does meddal. Os yw’n edrych yn sych, ychwanegwch ychydig o lefrith - dylai fod yn debyg i grwst brau. 
  2. Rholiwch y toes ar arwynebedd wedi’i ysgeintio â blawd, nes i fod trwch eich bys bach. Torrwch gylchoedd gan ddefnyddio torrwr 6cm, gan ail-rolio unrhyw weddillion
  3. Cynheswch y maen neu badell ffrio a rhoi ychydig o saim ynddo. Coginiwch ychydig o Gacenni Cri ar y tro, am oddeutu 3 munud pob ochr, nes eu bod yn troi’n lliw euraidd, ac wedi coginio’n llwyr.
  4. Blasus wedi’u gweini a menyn a jam, neu wedi’u gorchuddio â siwgr man. Bydd cacennau yn aros yn ffres mewn tin am wythnos. 

Pasta 

Byddai coginio pasta yn beth hyfryd i wneud tu allan, yn enwedig yn yr haf, a gallwch wneud pesto ffres gan ddefnyddio basil, cnau pîn a pharmesan - opsiwn iachus iawn.

Popgorn

India corn sy’n popio, olew, siwgr, surop a phadell drom, a llestri ar gyfer yr india corn. Defnyddiwch ffwrn wersylla a mwynhewch y popian! Ychwanegwch ychydig o olew i’r badell, cynheswch, yna ychwanegwch yr india corn a gwnewch yn siŵr bod y caead ar y badell neu bydd yn popian i bob man.

Sgiwerau Cebab (llysiau)

Sgiwerau, dŵr, llysiau, bwrdd torri, hambwrdd oeri, brwsh ar gyfer olew, a chyllell (gwnewch yn siŵr bod oedolyn yn gorchwylio), olew. Unwaith bydd y llysiau wedi’u paratoi, gofynnwch i’r plant i roi’r llysiau ar y sgiwerau, a’u gorchuddio ag olew. Rhowch ar y tân neu ar y barbeciw i goginio (gallwch ei wneud â ffrwythau hefyd)

Crempogau

Blawd, llaeth ac wyau. Gellir defnyddio Siwgr, Jam neu haenau eraill megis llysiau. Byddwch angen olew, platiau a phadell ffrio, a defnyddiwch ffwrn wersylla. Cynheswch olew yn y badell i wneud y crempogau.  

Malws melys

Sgiwerau, malws melys, tân ac i ffwrdd â chi

Brechdanau / tortilla wedi’u llenwi 

Eu paratoi

Brownis Oren 

Torrwch ben yr oren, a gwagiwch y canol, rhowch y cymysgedd cacen neu browni yn yr oren, a gosodwch y pen yn ei ôl. Gorchuddiwch mewn ffoil a rhowch yn y tân i goginio

ID: 1222, adolygwyd 22/02/2023