Chwarae Sir Benfro
10 syniad gyda phapur crêp
- Pom poms codi hwyl papur crêp – Torri stripiau a chlymu yn y canol.
- Ffenestri Gwydr Lliw – Ymylon papur trwchus du, paneli lliw papur crêp
- Chwarae Tasg Anobeithiol – Clymwch bapur crêp mewn darnau hir ar draws yr ystafell a herio’r plant i fynd dros ac o dan y darnau er mwyn cyrraedd pen arall yr ystafell.
- Sglefren fôr - Gwnewch fand o gardbord a glynu stribedi hir o bapur crêp iddo, fel sglefren fôr
- Collage papur crêp - Crensiwch neu gosodwch bapur crêp ar lun, a’i ludo.
- Blodau papur crêp - Crensiwch bapur crêp i bêl, a rholio darnau hir ar gyfer y goes.
- Piñata papur crêp – Addurnwch focs cardbord gyda phapur crêp
- Llusernau papur crêp - Plygwch bapur A4 yn ei hanner a thorrwch linellau neu siapau ar hyd yr ochr blyg. Agorwch y papur a glynwch bapur crêp dros y mannau sydd wedi’u torri. Glynwch ddau ochr hiraf y papur a’i gilydd, gyda’r papur crêp ar yr ochr mewn. Gwasgwch yn ysgafn i weld y papur crêp trwy’r tyllau yn y papur.
- Papur crêp diferol - Peintiwch ddŵr dros dudalen o bapur. Gludwch ddarnau wedi’u rhwygo o bapur crêp dros y darn papur gwlyb. Unwaith y bydd y dudalen wedi’i gorchuddio peintiwch haen arall o ddŵr ar ei ben. Gadewch i sychu ac yna tynnwch ddarnau sych o’r papur crêp i ddatgelu patrwm lliw oddi tano.
- Hosan wynt papur crêp - Plygwch bapur lliw A4 i siâp silindr a’i glymu’n sownd. Addurnwch ac ychwanegwch stribedi hir o bapur crêp oddeutu gwaelod y silindr.
ID: 1230, adolygwyd 22/02/2023