Chwarae Sir Benfro

10 syniad gyda theiars a chylchynau

Golchi teiars

I gychwyn, gan fod y teiars newydd ddod oddi ar y car, cawsant eu golchi’n dda gyda dŵr a sebon. Roedd hyn yn ei hun wedi cynnig cyfle i chwarae, gyda’r tri bachgen yn medru bod yn rhan. Ychydig yn fudr, ond gwlychu a wnaethant fwyaf. 

Dringo ar y teiars

Mae plant wrth eu boddau yn dringo, felly un o’r pethau cyntaf a wnaethant oedd dringo ar y teiars. Arnyn nhw, yn y teiars, allan eto – lot o ddringo!

Cuddio yn y teiars

Darganfu'r plant fod teiars yn gwneud lle cuddio da. Dechreuodd y plant drwy guddio mewn dau deiar ac eistedd i lawr oddi mewn iddynt, ond yn fuan, dechreuodd y plant adeiladu tŵr o deiars, a llwyddo i guddio tu mewn iddynt, gydag ychydig o gymorth. Gallwch oruchwylio’r chwarae hwn, gan y byddai cwympo mewn tŵr o deiars yn eithaf poenus, ond gwnewch gyda’ch plant yr hyn yr ydych yn gyfforddus yn ei wneud.

Cwrs Rhwystrau Teiars

Mae’r teiars yn berffaith ar gyfer cwrs rhwystrau. Gosodwyd y teiars o amgylch y lle ac roedd rhaid i’r plant gydbwyso arnynt, a neidio o un i’r llall. Os byddwn yn gwneud hyn eto, byddwn yn amseru’r plant a gwneud lapiau - byddai hyn yn eu helpu i gysgu’n well!

Adeiladwaith Teiars

Mae’r teiars yn ychwanegiad gwych ar gyfer y casgliad rhydd rydym yn ceisio’i gasglu’n araf bach. Dyma sut y mae’r plant yn arfer chwarae, fel rhan o adeiladwaith chwarae dychmygol.  Mae’r teiars digon mawr iddynt allu gwneud rhywbeth i eistedd ynddo, sefyll arno a.y.b. ond digon bach i symud o gwmpas gydag ychydig o ymdrech.

Siglen Teiar

Defnyddio teiar a rhaff i greu siglen – mae plant wrth eu boddau yn chwarae ar siglen. Maent hefyd wrth eu boddau yn creu siglen teiar.  

Hwpa-Teiar 

Mae teiar wedi’i osod ar y llawr a rhaid i bob chwaraewr ddefnyddio’r cylchyn hwla drwy ei rolio tuag at y teiar. Y nod yw i’r cylchyn hwla lanio’n berffaith dros y teiar am bwynt.

Ras Cylchynau Hwla

Cyfle i’r plant rasio cylchynau hwla trwy eu taflu cyn gynted ag y gallant. Y cylchyn hwla gyntaf i groesi’r llinell derfyn sy’n ennill!

Trenau Cylchynau Hwla

Y plant i ddefnyddio’r cylchynau hwla, gan eu gosod dros ei gilydd i greu cyswllt, fel trên.

Cylchynau Hwla

Gêm glasurol o Gylchynau Hwla, ble mae’r plant yn defnyddio cylchynau Hwla i chwarae. Gallant gystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy sy’n gallu hwla-hwpio am yr amser hiraf

ID: 1227, adolygwyd 22/02/2023