Chwarae Sir Benfro

Beth allwch chi ei wneud

Os yw eich mudiad chi ynghlwm â darparu cyfleoedd chwarae, dylech fabwysiadu agwedd risg-budd. Fel cydnabyddiaeth o hyn, mae’r defnydd o asesu risg-budd mewn polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn un o’r criteria a amlinellir yn y Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. 

Os ydych ond megis dechrau ar y broses, efallai y byddai o gymorth ichi greu cyfle i archwilio materion risg a chwarae plant. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn dwyn ynghyd ystod mor eang â phosibl o bleidiau perthnasol, yn cynnwys gweithwyr proffesiynol, rheolwyr, pobl sydd yn ymwneud â rheoli risg, aelodau etholedig / pwyllgorau rheoli / cyrff llywodraethol, rhieni ac efallai’r plant eu hunain. Mewn awdurdodau lleol a sefydliadau eraill mwy o faint, bydd deialog rhwng rheolwr gwasanaethau, rheolwyr risg a swyddogion arweiniol, yn hanfodol. 

Bydd adolygiad trylwyr o bolisïau a gweithdrefnau asesu risg sy’n bodoli eisoes yn dangos ble y mae angen adolygu ac ail- ystyried y rhain. Gallai fod yn ddefnyddiol i gynnal peilot o weithdrefnau newydd, a / neu eu rhedeg ar y cyd â gweithdrefnau sy’n bodoli eisoes am gyfnod, er mwyn helpu i reoli’r broses o newid.

ID: 1260, adolygwyd 22/02/2023