Chwarae Sir Benfro

Beth fydd yn atal mabwysiadu agwedd gytbwys?

Fydd llawer o oedolion, yn enwedig y rheini sydd ag atgofion o blentyndod wedi eu treulio’r tu allan yn bennaf, ddim angen llawer o berswâd ynghylch buddiannau caniatáu i blant gymryd rhywfaint o risgiau. Ond ceir tystiolaeth eglur bod oedolion yn cyfyngu’n ormodol ar chwarae plant, oherwydd eu pryder ynghylch rhoi cyfle i blant gymryd risgiau.

Mae’r HSE yn cydnabod y broblem yma. Yn 2012, fe gyhoeddodd ddatganiad lefel uchel oedd yn anelu i ddileu camddealltwriaethau.  Nododd bod y rhesymau am lawer o’r dryswch yn cynnwys ‘ofn ymgyfreithiad neu erlyniad troseddol gan na chafodd y risg mwyaf dibwys ei ddileu.’ Ofn ymgyfreithiad yw’r ffactor allweddol, yn hytrach na’r union nifer o achosion cyfreithiol.  Mewn gwirionedd, fydd meysydd chwarae ddim yn arwain at lawer o hawliadau’n sgîl damweiniau, ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gynnydd sylweddol mewn niferoedd.

Ychwanegodd datganiad yr HSE: ‘Gall y gwaith papur sydd ei angen beri rhwystredigaeth a chamddealltwriaeth ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud i reoli risgiau sylweddol.’ Mae eraill wedi awgrymu bod codi bwganod gan y cyfryngau i feio’n rhannol hefyd. 

Waeth beth fo achosion ofn risg gormodol, ceir bellach farn gyffredin mai’r modd i ddelio â’r broblem yma yw hybu agwedd mwy cytbwys a meddylgar tuag at reoli risg. Mae Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae yn datgan mai’r hyn sydd angen yw i ‘ymateb yn bositif drwy ehangu’r amrywiaeth o amgylcheddau a chyfleoedd sydd ar gael ar gyfer chwarae plant, tra’n parhau i roi ystyriaeth briodol i’w lles corfforol a seicolegol.’

ID: 1258, adolygwyd 22/02/2023