Chwarae Sir Benfro
Beth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
Yn gyffredinol, caiff meysydd chwarae a darpariaeth chwarae eraill eu rheoli gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, a Deddfau Atebolrwydd Deiliaid 1957 a 1984. Mae’r Deddfau hyn yn gosod dyletswydd gofal ar ddarparwyr a deiliaid. Mae’r deddfwriaethau hyn, a rheoliadau cysylltiedig, yn cyfleu lefel tebyg o ofal, a amlinellir gan y cysyniad o ‘resymoldeb’.
Mae Deddf Atebolrwydd Deiliaid 1957 yn datgan hefyd bod ‘rhaid i ddeiliaid fod yn barod i blant fod yn llai gofalus nag oedolion.’ Fodd bynnag, dengys dyfarniadau o’r llysoedd nad yw’r llysoedd yn ystyried bod plant yn ddiofal, anghymwys neu fregus mewn unrhyw synnwyr absoliwt. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ddileu neu leihau risg, hyd yn oed ble fo plant dan sylw.
Mewn gwirionedd, mae disgwyl i ddarparwyr gynnal ‘asesiad risg addas a digonol’, ac i weithredu ar y canfyddiadau. Nid oes unrhyw ofyniad statudol i gydymffurfio â chanllawiau neu â safonau diwydiannol, er y dylid ystyried gwybodaeth berthnasol bob amser, fel un rhan o asesiad risg addas a digonol.