Chwarae Sir Benfro
Beth yn union yw agwedd gytbwys?
Mae agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae’n cynnwys dod â meddwl am risgiau yn ogystal â buddiannau ynghyd mewn un broses sengl. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd datblygiad asesu risg- budd fel y modd gorau o gefnogi proses o’r fath. Amlinellwyd asesu risg-budd mewn chwarae am y tro cyntaf yng nghyhoeddiad Play England yn 2008 sef Managing Risk in Play Provision: Implementation Guide. Mae hwn yn diffinio asesu risg-budd fel agwedd sy’n ‘amlinellu, mewn datganiad unigol, yr ystyriaethau risg a budd sydd wedi cyfrannu at y penderfyniad i ddarparu, addasu neu gael gwared â nodwedd neu gyfleuster penodol.’ Caiff y canllaw hwn ei gefnogi gan yr HSE, sy’n ei ddisgrifio fel ‘agwedd synhwyrol tuag at reoli risg.’
Yr hyn sy’n gwneud asesu risg-budd yn wahanol i asesu risg confensiynol yw ei fod yn cynnwys ystyriaeth ofalus o fuddiannau gweithgaredd, cyfleuster, strwythur neu brofiad. Gan fod hyn yn digwydd ochr yn ochr ag ystyried y risgiau, mae’n caniatáu i fuddiannau cynhenid rhai risgiau gael eu hystyried yn gywir. Mae hefyd yn egluro nad yw rheolaeth risg da wastad yn golygu y dylid lleihau neu reoli risgiau.
Ynghyd â meddwl yn benodol am fuddiannau, mae’r agwedd a amlinellir yn Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu yn cynnwys nodweddion allweddol eraill:
- Mae’n cynghori y dylai gweithdrefnau fod yn seiliedig ar ddealltwriaethau a gwerthoedd eglur ynghylch plant a’u chwarae, ac mae’n argymell y dylai darparwyr gytuno ar a mabwysiadu polisi chwarae sy’n amlinellu’r rhain. Mae Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru’n enghraifft o hyn.
- Mae’n egluro’n gwbl blaen bod llunio barn am y cydbwysedd rhwng risgiau a buddiannau, yn y pen draw, yn fater i’r darparwr, ac nid i arbenigwyr technegol, archwilwyr allanol, cynghorwyr cyfreithiol neu yswirwyr (er y gall eu sylwadau fod yn berthnasol).
- Mae’n cyflwyno agwedd ddisgrifiadol, yn hytrach nag unrhyw fath o sgorio rhifol, am y rheswm bod prosesau sgorio o’r fath yn aml yn anodd i’w defnyddio mewn modd cyson, ac y gallant or-gymhlethu’r dasg.
- Mae’n egluro’r modd y mae canllawiau a safonau (gan gynnwys safonau Ewropeaidd ar gyfer offer chwarae) yn ffitio i mewn i’r dasg rheoli risg gyflawn, gan bwysleisio’r mater nad yw cydymffurfio â’r safonau’n ofyniad cyfreithiol (er y byddant yn cael eu hystyried mewn achosion cyfreithiol).