Chwarae Sir Benfro

Chwarae a risg

Pam fod risg yn bwysig mewn chwarae plant? 

Mae gan blant o bob oed a gallu ysfa naturiol i chwarae. Yn ogystal, mae chwarae’n dda i blant. Mae Polisi Chwarae (2002) Llywodraeth Cymru’n nodi fod gan blant ‘awydd greddfol i chwarae’ a bod chwarae’n ‘hanfodol i’r broses o ddysgu a thyfu’. Pan fydd plant yn chwarae, bydd eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn elwa hefyd. 

Pryd bynnag y bydd plant yn chwarae, maent yn teimlo cymhelliad greddfol i symud ymlaen o’r hyn sy’n arferol a chyfarwydd – ac o’r herwydd yn ddiflas – i’r hyn sy’n ddieithr, ansicr a deniadol. Mae’r Polisi Chwarae yn nodi hefyd: ‘mae gan blant awydd greddfol i chwilio am gyfleoedd i gymryd risgiau cynyddol.’ Pur anaml y gellir dileu risgiau’n llwyr heb danseilio profiadau’r plant ar yr un pryd. 

Bydd llawer o blant a phobl ifainc yn mynd ati’n weithredol i chwilio am brofiadau chwarae anturus, cyffrous. Efallai y bydd darparu cyfleoedd chwarae heriol mewn amgylcheddau wedi eu rheoli’n helpu i leihau damweiniau’n gyffredinol, oherwydd y gallant ddigwydd mewn lleoliadau sy’n ddiogel rhag traffig a pheryglon difrifol eraill. Mae gan blant anabl yr un angen, os nad mwy o angen, am gyfleoedd chwarae anturus, gan ei bod yn bosibl nad ydynt yn cael y rhyddid dewis y mae eu cyfoedion heb anabledd yn ei fwynhau.

’Dyw hi’n ddim syndod bod plant yn aml yn cael mân ddamweiniau wrth chwarae. Yn ogystal, ’dyw mân-anafiadau sy’n gwella’n gyflym mewn amgylcheddau chwarae ddim, o reidrwydd, yn broblem. I ddweud y gwir maent yn gwbl anochel, yn enwedig mewn darpariaeth anturus, heriol. Ond wedi dweud hynny, mae meysydd chwarae o bob math yn fannau cymharol ddiogel ac mae chwarae ar feysydd chwarae’n fwy diogel na chymryd rhan mewn llawer o chwaraeon neu weithgareddau hamdden eraill.

ID: 1255, adolygwyd 22/02/2023