Chwarae Sir Benfro

Pam fod angen agwedd gytbwys?

Mae rheoli risgiau mewn amgylcheddau chwarae’n dasg gymhleth. Mae’n wahanol iawn i reoli risg mewn cyd-destunau eraill fel ffatrïoedd neu weithleoedd. Mewn mannau fel hyn, pur anaml y bydd gan beryglon – pethau all, o bosibl, achosi niwed – unrhyw fuddiannau cynhenid. O’r herwydd, mae rheoli risg yn canolbwyntio’n llwyr ar yr angen i gyflwyno camau rheoli fydd yn lleihau’r risg o niwed i lefel dderbyniol. Ond mewn cyd-destun chwarae, bydd wynebu rhywfaint o risgiau’n fudd ynddo’i hun. 

Dewch inni ystyried pont sigledig er enghraifft, y math y byddech yn ei gweld ar faes chwarae plant. Mewn ffatri neu weithle, fyddai’r un rheswm da dros adeiladu pont sy’n siglo. Pe bae pont o’r fath yn bodoli, mae’n debyg y byddai asesiad risg yn tynnu sylw at y ffaith bod angen ei hatgyweirio. Ond mewn cyd-destun chwarae, mae gan bont sigledig fuddiannau cynhenid, er y gallai arwain at fwy o ddamweiniau na phont gadarn. Mae pont sigledig yn cynnig her i blant: ydyn nhw’n ddigon sad ar eu traed – ac yn ddigon dewr – i’w chroesi? 

Felly mewn amgylcheddau chwarae, mae’n allweddol i ganiatáu ar gyfer lefel o risg. Mae Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (2012) Llywodraeth Cymru’n datgan: ‘mae angen i blant deimlo’n rhydd i fentro a phrofi her o’u gwirfodd a dim ond os y gadawn i rywfaint o ansicrwydd barhau y byddant yn gallu gwneud hyn.’  

Mae’r angen yma i gynnwys rhywfaint o risg mewn amgylcheddau chwarae’n bwysicach fyth o ganlyniad i newidiadau ehangach ym mywydau bob dydd plant. Yn y degawdau diwethaf gwelwyd gostyngiad yn yr amser y bydd plant yn ei dreulio’n chwarae ac yn teithio o gwmpas yn annibynnol y tu allan. Mae’r rhesymau am y dirywiad yma’n gymhleth ac yn destun dadlau. Ond mae llawer o bobl yn cytuno y bydd plant, o ganlyniad, yn cael llai o gyfle i wynebu a dysgu sut i reoli risg drostynt eu hunain. Bydd rhoi cyfleoedd wedi eu rheoli i blant gymryd risg yn fodd o wneud yn iawn iddynt am golli rhyddid yn fwy cyffredinol.  Meddai Judith Hackitt, Cadeirydd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): ‘mae chwarae’r tu allan yn dysgu pobl ifainc sut i ymdopi â risg a heb hyn byddant yn ei chael yn anodd ymdopi â bywyd gwaith.’

Ceir dadl gynyddol ynghylch gwerth caniatáu i blant ddelio â risg, ac ynghylch peryglon gor-amddiffyn. Fodd bynnag, ddylai hyn ddim gwneud inni ystyried y dylem adael plant i’w tynged. Rydym yn parhau i fod â dyletswydd gofal i gadw plant yn rhesymol ddiogel, a chaiff y ddyletswydd hon ei adlewyrchu yn y fframwaith cyfreithiol.

Felly, wrth wraidd rheoli risg mewn chwarae ceir angen i daro cydbwysedd rhwng cyfleoedd ar gyfer chwarae rhydd, ac ystyriaeth i les – neu o’i fynegi mewn modd arall, rhwng risg a diogelwch. Mae Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae (2006) Llywodraeth Cymru yn egluro bod hyn yn galw am ‘farn gytbwys o’r risg.’

Bydd angen agwedd gytbwys, waeth os ydym yn trafod ardaloedd chwarae cyhoeddus, tiroedd ysgol neu feithrinfeydd, meysydd chwarae antur, parciau a mannau cyhoeddus neu ardd gefn – mewn gwirionedd, unrhyw amgylchedd ble y gellid yn rhesymol ddisgwyl i blant chwarae.

ID: 1257, adolygwyd 22/02/2023