Chwaraeon Sir Benfro
Chwaraeon Anabledd
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ar bob lefel. Rydym yn gweithio i hyrwyddo cyfle cyfartal i'r rheiny gydag anableddau corfforol, synhwyraidd a dysgu i gymryd rhan a mwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel o'u dewis nhw.
Mae yna gyfleoedd chwaraeon eang ar gael yn Sir Benfro ar gyfer unigolion ag anableddau. Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r cyfleoedd yng Nghanolfannau Chwaraeon Sir Benfro, yn ogystal â gwybodaeth am glybiau neilltuedig i’r anabl, a chlybiau cynhwysol nad ydynt i’r anabl, maent oll wedi derbyn gwobr clwb insport.
Cewch wybod mwy am chwaraeon pobl anabl yng Nghymru trwy ymweld ag Disability Sport Wales (yn agor mewn tab newydd)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch Jess West a 07795 305871 neu Jessica.West@pembrokeshire.gov.uk