Chwaraeon Sir Benfro

Ynglŷn â Chwaraeon Sir Benfro

Rydym yma i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd yn Sir Benfro.

Byddwn yn creu partneriaethau gydag ysgolion, clybiau cymuned, cyrff llywodraethol a chyfleusterau i hyrwyddo chwaraeon i grwpiau targed.

Trwy atgyfnerthu chwaraeon clwb, chwaraeon ysgol a'r gweithlu, ein canlyniadau fydd mwy o gyfranogiad a dilyniant mewn chwaraeon.

Ar gyfer ein Newyddion diweddaraf ...

 

Ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn

 

 

ID: 51, adolygwyd 03/07/2024

Cymorth i Glybiau Chwaraeon

Grantiau Chwaraeon Cymru

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig tri gyfle ariannu:

Cronfa Cymru Actif (yn agor mewn tab newydd)

Mae hwn yn grant o rhwng £300 a £50,000 i'ch helpu i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i'ch helpu i gadw pobl i gymryd rhan yn eich clwb neu weithgaredd i'r dyfodol. 

 

Cronfa Crowdfunder - Lle i Chwaraeon (yn agor mewn tab newydd)

Mae hwn yn gyfle i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer gwelliannau rydych chi am eu gwneud yn eich clwb neu weithgaredd nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chael pobl i chwarae neu gymryd rhan. 

 

Y Grant Arbed Ynni (yn agor mwen tab newydd)

Mae’r Grant Arbed Ynni yn grant peilot gan Chwaraeon Cymru, wedi’i anelu at glybiau cymunedol sydd eisiau gwneud gwelliannau arbed ynni. Bydd y gwelliannau hyn nid yn unig yn helpu i leihau biliau cyfleustodau clybiau ond hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

ID: 52, adolygwyd 18/05/2023

Gwasanaeth Peripatetig Addysg Gorfforol

Mae Chwaraeon Sir Benfro'n darparu athrawon addysg gorfforol a hyfforddwyr chwaraeon o safon i gyflwyno addysg gorfforol y cwricwlwm, sesiynau cyfoethogi a chlybiau ar ôl yr ysgol yn un o bob tair o ysgolion cynradd Sir Benfro.

Mae buddiannau'r gwasanaeth yn cynnwys gwelliannau yn llythrennedd corfforol disgyblion, dewis mawr o weithgareddau i ddisgyblion, cysylltiadau rhwng yr ysgolion a'u clybiau cymuned lleol a chyflwyno addysg gorfforol o safon gyson.

 Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Joanne Williams o 07799 714437 neu Joanne.Williams@pembrokeshire.gov.uk

ID: 53, adolygwyd 04/05/2023

Chwaraeon Anabledd

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ar bob lefel. Rydym yn gweithio i hyrwyddo cyfle cyfartal i'r rheiny gydag anableddau corfforol, synhwyraidd a dysgu i gymryd rhan a mwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel o'u dewis nhw.

Mae yna gyfleoedd chwaraeon eang ar gael yn Sir Benfro ar gyfer unigolion ag anableddau.Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r cyfleoedd yng Nghanolfannau Chwaraeon Sir Benfro, yn ogystal â gwybodaeth am glybiau neilltuedig i’r anabl, a chlybiau cynhwysol nad ydynt i’r anabl, maent oll wedi derbyn gwobr clwb insport.

 

Cewch wybod mwy am chwaraeon pobl anabl yng Nghymru trwy ymweld ag Chwaraeon Anabledd Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

Am ragor o wybodaeth neu am gopi o Gyfeirlyfr Chwaraeon Anabledd Sir Benfro cysylltwch Jess West a 07795 305871 neu Jessica.West@pembrokeshire.gov.uk

ID: 54, adolygwyd 16/09/2024

Pobl Ifanc Egnol

Mae Tîm Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Sir Benfro yn ymdrechu i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn gynhwysol i blant a phobl ifanc ledled y sir. Gan ganolbwyntio ar ardaloedd daearyddol wedi'u targedu, mae'r tîm yn cyflwyno rhaglenni gydag ysgolion a lleoliadau cymunedol, i helpu i hybu hyder, lles a ffyrdd o fyw egnïol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynnig rhaglenni Llysgenhadon Ifanc lle mae disgyblion yn cael eu hyfforddi i arwain a hyrwyddo gweithgaredd yn eu hysgolion a'u cymunedau.
  • Gweithio gyda staff ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, a rhieni i helpu plant i ddatblygu'r cymhelliant a'r sgiliau symud sylfaenol sydd eu hangen i fwynhau bod yn egnïol drwy gydol eu bywydau.
  • Cefnogi clybiau allgyrsiol a hyrwyddo cysylltiadau â chlybiau ysgolion
  • Cynnig darpariaeth gwyliau i blant a theuluoedd, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, dan anfantais neu heb wasanaethau digonol.
  • Cyflwyno sesiynau amlchwaraeon cymunedol wythnosol ar ôl ysgol am ddim yn ystod y tymor 

 

Sesiynau amlchwaraeon am ddim Chwaraeon Sir Benfro:

Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at blant 5 -11 oed ac yn cael eu cyflwyno'n wythnosol yn ystod y tymor gan staff Chwaraeon Sir Benfro a hyfforddwyr chwaraeon yn y canolfannau hamdden canlynol sydd wedi’u targedu yn yr ardal:

  • Hwlffordd (Pentref Chwaraeon Sir Benfro yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol A Reolir Hwlffordd.)
  • Aberdaugleddau
  • Penfro
  • Abergwaun

Mae'r sesiynau cynhwysol hyn yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau gan gynnwys gemau pêl, chwaraeon raced, saethyddiaeth, boccia, pêl osgoi a mwy. Gan gysylltu â chlybiau cymunedol lleol, rydym yn cynnig sesiynau blasu dros dro gyda chlybiau lleol, er enghraifft golff, tenis neu taekwondo. Rydym yn gwrando ar y bobl ifanc ac yn llunio ein cynnig i ddiwallu eu hanghenion.

Mae sesiynau bellach ar gael i'w harchebu'n hawdd drwy ap Hamdden Sir Benfro — gan ei gwneud hi'n syml i rieni a gwarcheidwaid gadw lle.

 

Sut i gadw lle

  1. Lawrlwythwch ap Hamdden Sir Benfro o’r App Store (yn agor mewn tab newydd) neu Google Play (yn agor mewn tab newydd).
  2. Cofrestrwch i greu cyfrif (os nad oes gennych chi un eisoes).
  3. Dewiswch ‘Cofrestru’ ar y dudalen mewngofnodi.
  4. Dewiswch eich canolfan hamdden leol.
  5. Rhowch eich manylion a dilynwch y camau i greu eich cyfrif.
  6. Ar ôl cofrestru, agorwch yr ap ac ewch i Gwneud archeb → Plant Iau/Gwyliau a Chwaraeon Sir Benfro → Chwaraeon Sir Benfro i sicrhau lle am ddim i'ch plentyn.
  7. Sicrhewch eich bod wedi mewngofnodi fel y mynychwr
  8. Ewch i weld y swyddog Gweithgareddau i Bobl Ifanc wrth gyrraedd i gofrestru a chwblhau’r gwaith papur.

 

Dewch draw, rhowch gynnig arni, a darganfyddwch hoff chwaraeon newydd — a hynny i gyd wrth gael hwyl gyda ffrindiau yn ystod y tymor!

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a:

Rominy Colville

Rominy.Colville@pembrokeshire.gov.uk

neu

Joanne Williams

Joanne.Williams@pembrokeshire.gov.uk

ffôn: 01437 776240

ID: 56, adolygwyd 24/10/2025

Valero a Chwaraeon Sir Benfro

Mae Purfa Penfro Valero'n falch o barhau'r nawdd hirsefydlog i Chwaraeon Sir Benfro. Mae'r burfa'n falch o gefnogi rhaglen chwaraeon sy'n hybu cyfranogi mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, sy'n gynhwysol ac sy'n helpu pobl ifanc wneud y gorau o'u galluoedd mewn chwaraeon ac fel arall.

 

ID: 59, adolygwyd 29/09/2022