Chwaraeon Sir Benfro
Pobl Ifanc Egnol
Mae Tîm Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Sir Benfro yn ymdrechu i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn gynhwysol i blant a phobl ifanc ledled y sir. Gan ganolbwyntio ar ardaloedd daearyddol wedi'u targedu, mae'r tîm yn cyflwyno rhaglenni gydag ysgolion a lleoliadau cymunedol, i helpu i hybu hyder, lles a ffyrdd o fyw egnïol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cynnig rhaglenni Llysgenhadon Ifanc lle mae disgyblion yn cael eu hyfforddi i arwain a hyrwyddo gweithgaredd yn eu hysgolion a'u cymunedau.
- Gweithio gyda staff ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, a rhieni i helpu plant i ddatblygu'r cymhelliant a'r sgiliau symud sylfaenol sydd eu hangen i fwynhau bod yn egnïol drwy gydol eu bywydau.
- Cefnogi clybiau allgyrsiol a hyrwyddo cysylltiadau â chlybiau ysgolion
- Cynnig darpariaeth gwyliau i blant a theuluoedd, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, dan anfantais neu heb wasanaethau digonol.
- Cyflwyno sesiynau amlchwaraeon cymunedol wythnosol ar ôl ysgol am ddim yn ystod y tymor
Sesiynau amlchwaraeon am ddim Chwaraeon Sir Benfro:
Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at blant 5 -11 oed ac yn cael eu cyflwyno'n wythnosol yn ystod y tymor gan staff Chwaraeon Sir Benfro a hyfforddwyr chwaraeon yn y canolfannau hamdden canlynol sydd wedi’u targedu yn yr ardal:
- Hwlffordd (Pentref Chwaraeon Sir Benfro yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol A Reolir Hwlffordd.)
- Aberdaugleddau
- Penfro
- Abergwaun
Mae'r sesiynau cynhwysol hyn yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau gan gynnwys gemau pêl, chwaraeon raced, saethyddiaeth, boccia, pêl osgoi a mwy. Gan gysylltu â chlybiau cymunedol lleol, rydym yn cynnig sesiynau blasu dros dro gyda chlybiau lleol, er enghraifft golff, tenis neu taekwondo. Rydym yn gwrando ar y bobl ifanc ac yn llunio ein cynnig i ddiwallu eu hanghenion.
Mae sesiynau bellach ar gael i'w harchebu'n hawdd drwy ap Hamdden Sir Benfro — gan ei gwneud hi'n syml i rieni a gwarcheidwaid gadw lle.
Sut i gadw lle
- Lawrlwythwch ap Hamdden Sir Benfro o’r App Store (yn agor mewn tab newydd) neu Google Play (yn agor mewn tab newydd).
- Cofrestrwch i greu cyfrif (os nad oes gennych chi un eisoes).
- Dewiswch ‘Cofrestru’ ar y dudalen mewngofnodi.
- Dewiswch eich canolfan hamdden leol.
- Rhowch eich manylion a dilynwch y camau i greu eich cyfrif.
- Ar ôl cofrestru, agorwch yr ap ac ewch i Gwneud archeb → Plant Iau/Gwyliau a Chwaraeon Sir Benfro → Chwaraeon Sir Benfro i sicrhau lle am ddim i'ch plentyn.
- Sicrhewch eich bod wedi mewngofnodi fel y mynychwr
- Ewch i weld y swyddog Gweithgareddau i Bobl Ifanc wrth gyrraedd i gofrestru a chwblhau’r gwaith papur.
Dewch draw, rhowch gynnig arni, a darganfyddwch hoff chwaraeon newydd — a hynny i gyd wrth gael hwyl gyda ffrindiau yn ystod y tymor!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a:
Rominy Colville
Rominy.Colville@pembrokeshire.gov.uk
neu
Joanne Williams
Joanne.Williams@pembrokeshire.gov.uk
ffôn: 01437 776240