Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


62 cyrsiau a gafwyd

Anghenion Dysgu Ychwanegol

I’r rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu a rhifedd a helpu dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial.

Arlwywyr mewn Rheoli Alergenau Bwyd

Mae’r cymhwyster hwn yn cwmpasu: y gwahanol swyddogaethau wrth sicrhau bod elfennau bwyd ac alergenau’n cael eu rheoli’n effeithiol; alergenau ac anoddefiadau cyffredin; trefnau cysylltiedig â chyfleu hysbysrwydd cynhwysion yn gywir, o gyflenwr i ddefnyddiwr; ystyriaethau hylendid o ran rheoli alergenau a chynhwysion; a threfnau cysylltiedig â rheoli halogi a chroes-halogi elfennau alergenig.

Canu - Dewch o hyd i’ch llais i mwynhewch ganu

Annog unigolion i ddod o hyd i’w lleisiau o fewn grŵp canu hwyliog. Dysgu caneuon poblogaidd o bob math.

Canu: iefel ragarweiniol

Dewch o hyd i’ch llais i mwynhewch ganu Bwriad y dosbarth hwn yw annog unigolion i ‘ddarganfod’ eu llais o fewn grŵp canu hwyliog. Dysgwch ganeuon poblogaidd o bob arddull a genre gan ddefnyddio taflenni geiriau - nid oes angen y gallu i ddarllen cerddoriaeth.

Canu: lefel cynnydd

Heriwch eich hun i ganu mewn harmoni o nodiant cerddorol mewn awyrgylch hwyliog a hamddenol. Ymunwch â chantorion eraill i ddysgu canu mewn harmoni o gerddoriaeth - sgôr wedi'i nodiannu.

Celf - bywluniad

Dechrau pob sesiwn gyda chyfres o sefyll mewn ystum am gyfnod byr, gyda sefyll am gyfnod hwy i ddilyn, sy'n caniatáu astudiaeth ddwys.

Celf - cyfryngau cymysg

Cyflawni'r wybodaeth a'r sgiliau o weithio â chyfryngau cymysg i greu darn o gelf.

Celf - Lluniadu a phaentio

I ddatblygu’r potensial sydd gan bawb i luniadu’n dda drwy arsylwi. I ddysgu dulliau lluniadu sy’n ddefnyddiol ar gyfer paentio â phaent olew a dulliau eraill sy’n berthnasol i baentio mewn dyfrlliw. I ddysgu technegau olew, acrylig, gouache a dyfrlliw a chynhyrchu paentiadau gorffenedig yn y cyfryngau hyn.

Celf i bawb

Nod y cwrs hwn yw gwella eich sgiliau lluniadu, paentio ac arsylwi mewn amgylchedd hamddenol gyda chymaint o hyfforddiant un i un ag y bo modd. Wrth ddysgu elfennau, caiff myfyrwyr eu hannog i fynegi eu hunain fel unigolion.

Chynnal planhigion helyg

Cynlluniwch gerflun i ddal eich planhigion

Cymorth Cyntaf Brys i Blant

QA Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys i Blant yn rhad. Ymysg y testunau dan sylw mae CPR; tagu; trawidadau; mân anafiadau; gwaedu.

Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith

Yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio neu'r rhai sy'n paratoi i weithio. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb i ddarparu cymorth cyntaf sylfaenol mewn gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol. Nod y cwrs hwn yw galluogi'r dysgwr i ddeall rôl a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf, a hefyd i asesu a gweinyddu cymorth cyntaf cychwynnol mewn sefyllfa o argyfwng. Mae dyfarniad Lefel 3 ar gael ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus Mae'n ofynnol i ddysgwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn.

Dechreuwyr gitâr - parhad

I’r rhai sydd wedi cwblhau’r cwrs dechreuwyr, bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar y sgiliau a enillwyd eisoes.

Defnyddio eich llechen - cyflwyniad

Bydd y cwrs hwn yn trin a thrafod sut i gychwyn arni â’r llechen, sut i lawrlwytho a defnyddio apiau, llyfrau, gemau, pori’r we, gwirio ac ysgrifennu negeseuon e-bost. Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu sut i warchod preifatrwydd a nodweddion diogelu eraill.

Dewch i brintio

Dewch i archwilio'r technegau amrywiol gan gynnwys printio bloc, printio leino a mono printio. Rhowch gynnig ar greu eich dyluniadau eich hun trwy wneud marciau a chael hwyl! Croeso i ddechreuwyr ond yn agored i rai â sgiliau mwy datblygedig i rannu eu hysbrydoliaeth greadigol!

Dewch i wnïo

Dysgwch sut i wneud gwnïo yn hwyl, peidiwch â bod ofn eich peiriant gwnïo a theimlwch fanteision atgyweirio'ch hoff ddillad. Oeddech chi'n gwybod bod atgyweirio'ch dillad â llaw yn gallu bod yn therapiwtig iawn? Byddwn yn edrych ar dechnegau atgyweirio anweledig a gweladwy (Sashiko)

Dysgu a gwella paentio portreadau olew

Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy'n dymuno dysgu am beintio portreadau olew. Ymhlith y pynciau a gwmpesir mae: deunyddiau, paratoi'r papur, tynnu'r pen dynol, masau tonyddol, tanbeintio monocromatig, haenu, parthau lliw'r wyneb, palet cyfyngedig, cynnes ac oer, nodweddion unigol.

Dysgu a gwella peintio tirluniau olew

Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy'n dymuno dysgu am beintio tirluniau olew. Ymhlith y pynciau a gwmpesir mae: deunyddiau, paratoi'r papur, masau, gwerthoedd, golau a chysgod, persbectif atmosfferig, theori lliw, cyfansoddiad.

Eidaleg - Blwyddyn 1

Nod y cwrs hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o strwythur yr iaith ac i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd mewn gwlad lle siaredir Eidaleg. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheiny â dim ond gwybodaeth brin neu ddim o gwbl o’r iaith.

Eidaleg - Blwyddyn 2

Nod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r iaith Eidaleg a’u galluogi i ymdopi’n hyderus ag ystod o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y gorffennol a’r dyfodol. Dylai myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs ar lefel rhagarweiniol neu fod â rhywfaint o brofiad o astudio/siarad yr iaith

Eidaleg - Blwyddyn 6+

Amcan y cwrs hwn yw parhau i ddatblygu sgiliau iaith a gwella’ch rhugledd a’ch dealltwriaeth mewn awyrgylch agored a chyfeillgar. Dylai myfyrwyr fod wedi astudio’r iaith am o leiaf 5-6 mlynedd.

Elfennau Photoshop - cyflwyniad

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i ddefnyddio Elfennau Photoshop ac yn addas ar gyfer y rheiny sydd heb weithio cyn hyn â delweddau.

ES - Theori prawf gyrru

Cwrs yn cefnogi dysgwyr I basio'r prawf gyrru

ESOL - Amrywiol lefelau

Cwrs ESOL lefelau cymysg sy’n darparu’r cyfle i fyfyrwyr gwblhau uned 1 credyd ar lefel briodol yn ystod y cwrs. Bydd dysgwyr yn talu ffioedd arferol cyrsiau ESOL heblaw am fyfyrwyr lefel Dechreuwyr a gaiff ffi ostyngol o £0.00. I ymuno â dosbarth mae angen i ni siarad â chi’n gyntaf. Ffoniwch RADFFÔN 0808 100 3302.

ESOL - Gloywi (Mynediad 3/Lefel 1)

Gwellwch eich sgiliau iaith Saesneg, adeiladwch ar eich gramadeg chi a siarad yn hyderus. Mae ffioedd arholiadau’n ychwanegol at ffioedd cyrsiau (1 uned i bob dosbarth). I ymuno â dosbarth mae angen i ni siarad â chi’n gyntaf. Ffoniwch RADFFÔN 0808 100 3302.

ESOL - Lefel Mynediad (Mynediad 2/3)

Mae gennych chi ychydig Saesneg ac awydd i ddysgu rhagor. Mae ffioedd arholiadau’n ychwanegol at ffioedd cyrsiau (1 uned i bob dosbarth). I ymuno â dosbarth mae angen i ni siarad â chi’n gyntaf. Ffoniwch RADFFÔN 0808 100 3302.

ESOL i ddechreuwr - Cyn Mynediad/Mynediad 1

Cwrs cyffredinol ESOL i siaradwyr Saesneg sy’n ddechreuwyr. Achredu ar gael. I ymuno â dosbarth mae angen i ni siarad â chi’n gyntaf. Ffoniwch RADFFÔN 0808 100 3302.

Ffotograffiaeth - datblygu sgiliau pellach

Yn berffaith ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau'r cwrs 'Ffotograffiaeth – ffocws ar ddechreuwyr' neu ar gyfer pobl sydd eisoes yn gyfarwydd ag elfennau sylfaenol ffotograffiaeth, goleuo, cyfansoddi a dewislenni camerâu. Y cwrs hwn yw'r cam nesaf i ddatblygu sgiliau ffotograffiaeth pellach. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar dynnu lluniau gwell a dysgu mwy am gyfansoddi. Mae'n rhaid i ddysgwyr fod â’u camera digidol eu hunain a chardiau cof cydnaws.

Ffrangeg - Blwyddyn 1

Nod y cwrs hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o strwythur yr iaith ac i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheiny â dim ond gwybodaeth brin neu ddim o gwbl o’r iaith

Ffrangeg - Blwyddyn 2

Nod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r iaith Ffrangeg a’u galluogi i ymdopi’n hyderus ag ystod o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y gorffennol a’r dyfodol. Dylai myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs ar lefel rhagarweiniol neu fod â rhywfaint o brofiad o astudio/siarad yr iaith

Ffrangeg - Blwyddyn 5+

Nod y cwrs hwn yw datblygu mwy ar sgiliau ieithyddol drwy astudio gramadeg uwch, testunau cyfoes a recordiadau ac agweddau o ddiwylliant modern. Cewch ddod yn fwy rhugl a gwella’ch dealltwriaeth mewn awyrgylch agored a chyfeillgar. Dylai myfyrwyr fod wedi astudio’r iaith am o leiaf 3-4 blynedd.

Gwaith basged helyg

Mae cyrsiau basgedwaith helyg yn rhoi cyflwyniad i dechnegau sylfaenol creu basgedi. Ar ôl i fyfyrwyr wneud basged gron, gallant weithio eu ffordd hyd at greu basgedi â seiliau a gwehyddiadau mwy cymhleth. Fel arfer, bydd dwy fasged yn cael eu gwneud yn ystod cwrs pedair neu bum wythnos. Gall myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau pellach symud ymlaen i fasgedi siopa a basgedi coed cyn mentro i fasgedi hirgrwn a gwaith sgwâr. Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr a phobl sydd am wella eu sgiliau ac maent yn boblogaidd iawn, p'un a ydych chi eisiau mynychu un gyfres neu sawl un. Darperir yr holl bren helyg, gyda llawer ohono wedi'i dyfu yn lleol yn Sir Benfro. Mae angen i fyfyrwyr ddod â rhai offer sylfaenol: pâr da o sisyrnau tocio, potel chwistrellu dŵr, cyllell dda (rhoddir cyngor yn y sesiwn gyntaf), nodwydd sachau neu debyg, a phwysau neu garreg (mae hen haearn yn addas iawn, neu garreg o'r traeth sy'n pwyso 1-2kg). Codir tâl am y deunyddiau yn ôl faint o helyg a ddefnyddir – fel arfer, rhwng £6 a £10 y fasged.

Gweithdy celf blodau

Gweithdy unigol er mwyn dysgu trefnu blodau â thema benodol h.y. priodasau; mynd am dro ar y traeth â blodau; Nadolig; Pasg; Gwanwyn; Haf, ayb... Costau deunydd yn ychwanegol

Gweithdy dyfrlliw Graham Hadlow

Gweithdy a gynhelir gan arlunydd lleol, Graham Hadlow. Mae gan bob gweithdy thema neu faes arbenigedd gwahanol h.y. Awyr las a chymylau; adlewyrchiadau; golygfeydd eira; coed yn y gaeaf; machludoedd; bythynnod a pherspectif; traethau a morynnau, ayb...

Gwniadwaith

Anelir y cwrs hwn at wneud gwnïo yn bleser a dangosir sut i dorri patrymau, gwneud dillad ac ymgymryd â newidiadau.

Gwydr lliw

Cynllunio a gwneud gwydr lliw. Mae costau’r deunydd yn ychwanegol.

Hanes - Gwrthryfel

Mae’r cwrs deg wythnos hwn yn archwilio rhai o’r gwrthryfeloedd mwyaf dramatig yn hanes Cymru a Phrydain, megis Gwrthryfel y Werin ym 1381, Pererindod Gras yr unfed ganrif ar bymtheg, terfysgoedd Merthyr a Chasnewydd ym 1831 a 1839, terfysgoedd Beca a mwy. Beth ysgogodd y digwyddiadau hyn, pwy oedd yn rhan o'r gwrthryfela ac a wnaethant lwyddo i gyrraedd eu nod?

Hanes - Yr Hapsbwrgiaid

Cwrs deg wythnos sy'n archwilio twf yr Hapsbwrgiaid, eu dylanwad cynyddol ar y byd canoloesol, eu goruchafiaeth yng nghanolbarth Ewrop a'r hyn a ysgogodd eu cwymp yn y pen draw. Yn ogystal â rhoi sylw i'w ymerodraeth nerthol, bydd y cwrs hefyd yn edrych ar hanesion personol rhai o'r unigolion fu'n gwisgo Coron Ymerodrol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig

Hanes Diwylliannol

Archwilio hanes fel cymysgedd o ffaith a ffuglen.

Hanes y Cymry

Mae'r cwrs hwn yn son am hanes y Cymry - sydd yn henach ac yn ehangach na thiriogaeth Cymru ei hunan. Mae'r cwrs yn cael ei ddysgu yn Saesneg ond mae'r tiwtor un Gymro Cymraeg.

ICDL

Cafodd Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) ei llunio i ymdrin a chysyniadau allweddol cyfrifiadura, ei gymwysiadau ymarferol a’r defnydd a wneir ohonynt yn y gweithle a chymdeithas. Mae’n addas ar gyfer pawb sydd eisoes yn meddu ar sgiliau TG sylfaenol. Caiff ei rannu’n fodiwlau, y mae’n rhaid pasio pob un ohonynt cyn y caiff ICDL ei dyfarnu. Mae gwahanol gymwysterau ar gael - bydd hynny’n dibynnu ar y modiwlau a astudir.

Ioga

Daw ioga o'r gair Sansgrif sy'n golygu uno ac mae felly'n awgrymu cytgord perffaith y corff, y meddwl a'r ysbryd. Mae'n addas i bawb o bob safon o ioga ac mae'n bwriadu cael gwybodaeth o ioga a chymwyster a dod a llawer o fuddiannau.

Ioga - Ioga cadair

Cyflwyniad wrth eich pwysau i Ioga, ar eich eistedd. Ffordd dda o ddadflino ond ystwytho a symud mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol. Mae’r cwrs hwn yn addas i bob ffitrwydd. Rhyddhau straen a buddiannau tebyg i Ioga mewn amgylchedd cymdeithasol - trwy eistedd ar gadair!

Ioga ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddwyn i ystyriaeth y gwahanol wynegon sy’n datblygu fel yr awn yn hŷn. Dysgwch rai ymarferion sy’n delio’n benodol â rhai mannau trafferthus fel poen yn y cefn isaf, technegau ymlacio, sut mae ymestyn yn ddiogel er mwyn parhau’n ystwyth. Dysgwch sut mae anadlu mewn ffordd a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio’r meddwl a rhoi llonyddwch mewnol i chwi.

Ioga i Ddechreuwyr

Daw ioga o'r gair Sansgrit sy'n golygu uno ac mae felly'n awgrymu cytgord perffaith y corff, y meddwl a'r ysbryd. Mae'r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr ac mae'n bwriadu cael gwybodaeth o ioga a chymwyster a dod â llawer o fuddiannau h.y. mwy o egni, gwell iechyd, gwell cydgysylltu cyhyrol, iachuso a nerth, gwell treulio, mwy o ystwythder, mwy o hyder a chynorthwyo ymlacio ar yr un pryd ag adfer cydbwysedd cyflawn y corff.

Ioga Ysgafn

Ar gyflymder ysgafn ac yn y traddodiad Indiaidd, byddwn yn dysgu sut i ymlacio a defnyddio asanas ioga ac ymarferion anadlu iogig (pranayma).

Iwcwlili

Dysgu tonau iwcwlili syml.

Llythrennedd

Dosbarthiadau i unrhyw un dros 16 mlwydd oed sydd eisiau gwella eu Saesneg. Efallai eich bod eisiau helpu eich plant â’u gwaith ysgol; paratoi tuag at gwrs coleg; magu hyder neu fanteisio ar gymhwyster i gael swydd neu ddyrchafiad yn eich gwaith. Mae achrediad ar gael: Agored Cymru neu City and Guilds SHC (Sgiliau Hanfodol Cymru) o lefel cyn-mynediad i Lefel 1 neu Lefel 2.

Llythrennedd digidol - Rhagor o sgiliau

Galluogi dysgwyr i weithio a chyfathrebu ar-lein mewn modd diogel a chyfrifol gydag ymwybyddiaeth o’u hôl-troed digidol personol. Rhyngweithio’n ddiogel ar-lein, dysgu sut i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a defnyddio diogelwch cyffredinol i ddiogelu eich dyfeisiau digidol a’ch gwybodaeth.

Paentio brwsh Tseiniaidd

Dysgwch y technegau paentio elfennol sy’n angenrheidiol i baentio adar, blodau a thirluniau.

Pilates

Mae Pilates yn gwella ystum, yn cryfhau'r corff ac yn gwella ystwythder. Mae hwn yn fath tyner o ymarfer sy'n gweithio ar graidd canolog y corff.

Pilates - Ymestyn ac ystwytho

Hoffech chi deimlo’n fwy hyblyg? Hoffech chi wella eich osgo, cydbwysedd a chydsymud a gwella nerth yn eich cefn a chyhyrau’r abdomen? Mae ‘Ymestyn ac Ystwytho’ yn ddosbarth addfwyn heb fod yn rhy ardrawol ar sail Pilates ar gyfer holl grwpiau oedran gan ddefnyddio technegau anadlu canolbwyntiedig i gynorthwyo’r ymarferion; mae hyn yn dod â mantais cynyddu cynhwysedd yr ysgyfaint, mwy o ymwybyddiaeth o’r corff a lleihau straen.

Rhifedd

Dosbarthiadau i unrhyw un dros 16 mlwydd oed sydd eisiau gwella eu Mathemateg. Efallai eich bod eisiau helpu eich plant â’u gwaith ysgol; paratoi tuag at gwrs coleg; magu hyder neu fanteisio ar gymhwyster i gael swydd neu ddyrchafiad yn eich gwaith. Mae achrediad ar gael: Agored Cymru neu City & Guilds SHC o lefel cyn-mynediad i lefel 1 neu lefel 2.

Sbaeneg - Blwyddyn 1

Nod y cwrs hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o strwythur yr iaith ac i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheiny â dim ond gwybodaeth brin neu ddim o gwbl o’r iaith.

Sbaeneg - Blwyddyn 2

Nod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r iaith Sbaeneg a’u galluogi i ymdopi’n hyderus ag ystod o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y gorffennol a’r dyfodol. Dylai myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs ar lefel rhagarweiniol neu fod â rhywfaint o brofiad o astudio/siarad yr iaith

Sbaeneg sgwrsiol

Ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio Sbaeneg i safon TGAU

Sgiliau Bywyd

I’r rheiny sydd eisiau gwella eu sgiliau cyfathrebu neu fathemateg ac eisiau manteisio ar gymhwyster Agored Cymru neu gymhwyster CBAC.

Sgiliau digidol - Camau cyntaf

Dyma gwrs ar gyfer y bobl hynny nad ydynt erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen, ond a hoffai roi cynnig arni. Nod y cwrs yw meithrin rhai o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau defnyddio cyfrifiadur a llechen. Mae’n gwrs i ddechreuwyr pur sydd am ddysgu wrth eu pwysau mewn awyrgylch cyfeillgar, ymlaciol. Achrediad ar gael.

Sgiliau Microsoft Office

Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a thaflenni newyddion trwy Gyhoeddi Bwrdd Gwaith. Byddwch yn defnyddio rhaglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn cael achrediad am y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn meddwl am gael swydd neu os ydych eisiau adfywio eich sgiliau TG cyn dychwelyd i weithio.

Tai Chi

Mae hon yn ffurf ar ymarfer Tsieineaidd sy'n hyrwyddo anadlu, ymlacio, cydgysylltu a chryfder mewnol.

Trwyddedu Personol

Mae’r cymhwyster achrededig hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd eisoes yn gweithio neu sy’n paratoi ar gyfer gweithio mewn unrhyw ddiwydiant sy’n ymwneud â manwerthu alcohol. Mae’n ofyniad i bawb sy’n dymuno dal trwydded bersonol. Mae’r cymhwyster hwn yn cwmpasu prif ofynion Deddf Trwyddedu 2003 a chyfrifoldebau cyfreithiol deiliad trwydded bersonol. Rhaid i bawb sydd eisiau gwerthu neu awdurdodi gwerthu alcohol trwy fanwerthu ar eiddo trwyddedig ddal trwydded bersonol. Mae’r pynciau dan sylw’n cynnwys diben a chyfnod dilysrwydd trwydded bersonol, y broses ymgeisio a dyletswyddau cyfreithiol trwydded bersonol a chyfraith trwyddedu.

Wcreineg - Blwyddyn 1

Nod y cwrs hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o strwythur yr iaith ac i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheiny â dim ond gwybodaeth brin neu ddim o gwbl o’r iaith.




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022