Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


7 cyrsiau a gafwyd

Almaeneg - Blwyddyn 1

Nod y cwrs hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o strwythur yr iaith ac i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd mewn gwlad lle siaredir Almaeneg. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheiny â dim ond gwybodaeth brin neu ddim o gwbl o’r iaith

Angel Nadolig Helygen

Crëwch angel helyg hardd i oleuo'ch cartref neu'ch gardd y Nadolig hwn. Mae goleuadau tylwyth teg wedi'u cynnwys, a gall gwehyddion profiadol neu hyderus hefyd wneud addurniadau gwehyddu bach i bersonoli eu hangel.

Celf - Argraffiadaeth a'i thechnegau

Gellir cwblhau’r gweithdy hwn mewn olew neu acrylig a bydd yn archwilio’r defnydd o strociau lliw llachar, toredig i greu effeithiau heulwen a thywydd y mae argraffiadwyr yn eu cyfleu mor fedrus. Byddwn yn edrych ar baentiadau allweddol yn hanes y mudiad, ac yn addasu'r technegau a ddefnyddiwyd i greu ein paentiadau ein hunain wedi’u hysbrydoli gan yr Argraffiadwyr. Bydd golygfeydd lleol o Sir Benfro yn cael eu defnyddio, a bydd aelodau yn rhydd i ddefnyddio eu lluniau a'u brasluniau eu hunain i greu gwaith. Bydd angen i’r rheini fydd yn cymryd y dosbarth gyflenwi eu deunyddiau eu hunain ac er nad yw'n orfodol bydd ganddynt rywfaint o wybodaeth am baentio tirlun cynrychioliadol.

Cymorth Cyntaf Brys

Addas ar gyfer pobl sydd mewn gwaith neu yn paratoi gweithio. Nod y cwrs yw i sicrhau bod y dysgwyr yn deall rol a chyfrifoldebau y Swyddog Cymorth Cyntaf yn ogystal a gwinyddu a asesu mewn sefyllfa o argyfwng. Angen i'r dysgwyr fod dros 16 oed. Mae achrediad ar gael.

Dechreuwyr gitâr - parhad

I’r rhai sydd wedi cwblhau’r cwrs dechreuwyr, bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar y sgiliau a enillwyd eisoes.

Diogelwch bwyd mewn arlwyo

I'r bobl hynny sy'n gweini neu trafod bwyd. Hylendid personal - beyd diogel - glanhau mewn adeiladau bwyd - gwastraff a rheolaeth pla.

Sgiliau Microsoft Office - Lefel 2

Yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 1 neu sydd eisiau gwella sgiliau TG. Dysgwch rannu dogfennau, gweithio ar y cyd, taenlenni, a chyflwyniadau gan ddefnyddio Microsoft Office. Ennill achrediad cydnabyddedig i gefnogi chwilio am swydd, datblygu gyrfa, neu ddychwelyd i'r gwaith.




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022