Chwilio am Gwrs
Sir Benfro yn Dysgu
Cyrsiau
8 cyrsiau a gafwyd
Celf - bywluniad
Dechrau pob sesiwn gyda chyfres o sefyll mewn ystum am gyfnod byr, gyda sefyll am gyfnod hwy i ddilyn, sy'n caniatáu astudiaeth ddwys.Cymorth Cyntaf Brys i Blant
QA Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys i Blant yn rhad. Ymysg y testunau dan sylw mae CPR; tagu; trawidadau; mân anafiadau; gwaedu.Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith
Yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio neu'r rhai sy'n paratoi i weithio. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb i ddarparu cymorth cyntaf sylfaenol mewn gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol. Nod y cwrs hwn yw galluogi'r dysgwr i ddeall rôl a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf, a hefyd i asesu a gweinyddu cymorth cyntaf cychwynnol mewn sefyllfa o argyfwng. Mae dyfarniad Lefel 3 ar gael ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus Mae'n ofynnol i ddysgwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn.Diogelwch bwyd mewn arlwyo
I'r bobl hynny sy'n gweini neu trafod bwyd. Hylendid personal - beyd diogel - glanhau mewn adeiladau bwyd - gwastraff a rheolaeth pla.Gwaith basged helyg
Mae cyrsiau gwneud basged helyg yn rhoi cyflwyniad i dechnegau sylfaenol gwneud basgedi ac maent yn addas ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd am wella eu sgiliau. Fel arfer bydd dwy fasged yn cael eu gwneud yn ystod cwrs pedair neu bum wythnos. Mae tâl ychwanegol am yr helyg, yn dibynnu ar y maint a'r eitem a wnaed. Mae angen i fyfyrwyr ddod â pheth offer sylfaenol: siswrn tocio da, potel chwistrellu dŵr, cyllell dda (rhoddir cyngor yn y sesiwn gyntaf), nodwydd sachau neu debyg, a phwysau neu garreg (mae hen haearn yn addas iawn, neu garreg o’r traeth sy'n pwyso 1–2kg).Llythrennedd digidol - Sgiliau Digidol Bob Dydd
Mae'r cwrs hwn yn helpu dysgwyr i fagu hyder gan ddefnyddio technoleg ddigidol mewn bywyd bob dydd. Mae'r pynciau'n cynnwys diogelwch ar-lein, e-bost a negeseuon, calendrau a nodiadau atgoffa, ffurflenni ar-lein, archebu a storio tocynnau, AI a thechnoleg glyfar. Mae'n darparu sgiliau digidol ymarferol a llwybr at gyfleoedd dysgu pellach.Tŷ a bwydydd dar helyg.
Gwehyddwch loches gaeaf ar gyfer adar yr ardd a bwydydd peli braster yn y gweithdy hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o wehyddu a bydd yr holl gymorth ac offer ar gael. Gellir prynu pecynnau ychwanegol ar y diwrnod i'w cymryd adref a pharhau i wehyddu!Ysgrifennu creadigol
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a hyder mewn ysgrifennu creadigol. Gellir astudio barddoniaeth, ysgrifennu straeon byrion, y nofel, ysgrifennu sgriptiau a phob agwedd ar ysgrifennu ffuglen a ffeithiol.| instructional text |
|
Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael' |
ID: 1424, revised 22/09/2022