Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


15 cyrsiau a gafwyd

Canu - Dewch o hyd i’ch llais i mwynhewch ganu

Annog unigolion i ddod o hyd i’w lleisiau o fewn grŵp canu hwyliog. Dysgu caneuon poblogaidd o bob math.

Canu - iefel ragarweiniol

Dewch o hyd i’ch llais i mwynhewch ganu Bwriad y dosbarth hwn yw annog unigolion i ‘ddarganfod’ eu llais o fewn grŵp canu hwyliog. Dysgwch ganeuon poblogaidd o bob arddull a genre gan ddefnyddio taflenni geiriau - nid oes angen y gallu i ddarllen cerddoriaeth.

Celf - Canolbwyntio ar gyfansoddiad

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion a thechnegau cyfansoddiad, sy’n hanfodol ar gyfer creu gwaith celf sy’n weledol gymhellol a chytbwys. Bob wythnos ymdrinnir ag agwedd wahanol ar gyfansoddiad, gan daflu goleuni damcaniaethol a chynnig ymarferion i wella’ch sgiliau artistig.

Celf - Lluniadu a phaentio

I ddatblygu’r potensial sydd gan bawb i luniadu’n dda drwy arsylwi. I ddysgu dulliau lluniadu sy’n ddefnyddiol ar gyfer paentio â phaent olew a dulliau eraill sy’n berthnasol i baentio mewn dyfrlliw. I ddysgu technegau olew, acrylig, gouache a dyfrlliw a chynhyrchu paentiadau gorffenedig yn y cyfryngau hyn.

Celf i bawb

Nod y cwrs hwn yw gwella eich sgiliau lluniadu, paentio ac arsylwi mewn amgylchedd hamddenol gyda chymaint o hyfforddiant un i un ag y bo modd. Wrth ddysgu elfennau, caiff myfyrwyr eu hannog i fynegi eu hunain fel unigolion.

Clustogwaith Traddodiadol

Clustogwaith traddodiadol yw crefft clustogi eitem o ddodrefn o’r cyfnod trwy ddefnyddio offer llaw, dulliau traddodiadol a deunyddiau organaidd. Byddwn yn defnyddio technegau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar agweddau crefftus gosod webin, stwffin, pwytho, padin a gorchudd. Y manylion sy’n cynrychioli’r grefft ac sy’n galluogi cadw’r grefft yn fyw. Mae’r cwrs yn agored i bawb o ddechreuwyr llwyr i’r rhai gyda phrofiad sydd eisiau hogi a datblygu eu sgiliau. Byddwch yn ymwybodol nad oes gennym weithdy gydag offer llawn, ond un o’r agweddau gwych ynghylch clustogwaith traddodiadol yw bod modd ei wneud gyda dim ond ychydig o offer llaw sylfaenol iawn. Nod y cwrs hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod â chadair i weithio arni, wrth ddysgu amrywiaeth o sgiliau traddodiadol. Fodd bynnag, byddwn mewn amgylchedd ystafell ddosbarth gyda lle i 10 o fyfyrwyr gan olygu bod meinciau’n brin. Felly mae, eitemau llai fel cadeiriau bwrdd, cadeiriau bach a stoliau i gyd yn brosiectau addas (enghreifftiau isod). Mae’n bwysig iawn eich bod yn gwneud un neu ddau o brosiectau llai sy’n cynnwys technegau sylfaenol cyn i chi fynd ymlaen i rai mwy cymhleth. Nid yw darnau mawr, fel cadeiriau breichiau, soffas a chaise longues yn brosiectau addas i ddod i’r dosbarth. Maent yn rhy fawr, trwm a lletchwith i’w symud ac nid ydynt yn ddiogel mewn ystafell ddosbarth pan fo lle’n brin ar gyfer meinciau a myfyrwyr. Bydd amgylchiadau gwaith cysurus yn cyfrannu at rwyddineb gweithio ac at ganlyniadau llwyddiannus yn y pen draw

Cymorth Cyntaf Brys i Blant

QA Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys i Blant yn rhad. Ymysg y testunau dan sylw mae CPR; tagu; trawidadau; mân anafiadau; gwaedu.

Datblygu sgiliau cyfrifiadurol

Mae’r cwrs hwn yn galluogi unigolion i feithrin eu sgiliau cyfrifiadurol. Mae’n addas i’r bobl hynny sydd wedi cwblhau cwrs y Camau Cyntaf gyda Chyfrifiaduron, neu i bobl sydd a pheth gwybodaeth am gyfrifiaduron, ac sy’n dymuno datblygu rhagor ar eu sgiliau. Dysgwch yn eich pwysau mewn awyrgylch gyfeillgar, ymlaciol.

Hanes Celfyddyd

Dysgwch am darddiad celfyddyd, ymddangosiad celfyddyd o ddiwylliannau eraill a gwahanol arddulliau ac artistiaid ar hyd y canrifoedd.

ICDL

Cafodd Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) ei llunio i ymdrin a chysyniadau allweddol cyfrifiadura, ei gymwysiadau ymarferol a’r defnydd a wneir ohonynt yn y gweithle a chymdeithas. Mae’n addas ar gyfer pawb sydd eisoes yn meddu ar sgiliau TG sylfaenol. Caiff ei rannu’n fodiwlau, y mae’n rhaid pasio pob un ohonynt cyn y caiff ICDL ei dyfarnu. Mae gwahanol gymwysterau ar gael - bydd hynny’n dibynnu ar y modiwlau a astudir.

Ioga - Symudiadau sy’n rhyddhau’r cymalau

Gellir ei wneud yn eistedd mewn cadair, neu ar fat ioga. Symudwch trwy bob cymal o'r corff gyda'r anadl i greu ymdeimlad o dawelwch, datblygu ystod o symudiadau ym mhob cymal, a chreu mwy o ymdeimlad o hunanymwybyddiaeth. Mae'r sesiwn yn cynnwys ymlacio dan arweiniad.

Llythrennedd digidol - Rhagor o sgiliau

Galluogi dysgwyr i weithio a chyfathrebu ar-lein mewn modd diogel a chyfrifol gydag ymwybyddiaeth o’u hôl-troed digidol personol. Rhyngweithio’n ddiogel ar-lein, dysgu sut i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a defnyddio diogelwch cyffredinol i ddiogelu eich dyfeisiau digidol a’ch gwybodaeth.

Sgiliau digidol - Camau cyntaf

Dyma gwrs ar gyfer y bobl hynny nad ydynt erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen, ond a hoffai roi cynnig arni. Nod y cwrs yw meithrin rhai o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau defnyddio cyfrifiadur a llechen. Mae’n gwrs i ddechreuwyr pur sydd am ddysgu wrth eu pwysau mewn awyrgylch cyfeillgar, ymlaciol. Achrediad ar gael.

Sgiliau Microsoft Office

Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a thaflenni newyddion trwy Gyhoeddi Bwrdd Gwaith. Byddwch yn defnyddio rhaglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn cael achrediad am y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn meddwl am gael swydd neu os ydych eisiau adfywio eich sgiliau TG cyn dychwelyd i weithio.

Ysgrifennu creadigol - cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ysgrifennu a bydd yn cynnwys ymarferion ysgrifennu ymarferol i ddechrau a helpu i oresgyn ofn y "dudalen wag". Bydd hefyd yn ymdrin â phynciau fel chwarae gyda berfau, acrostig, posau, haiku, byrddau stori, cofiant, osgoi ystrydeb, deialog, awgrymiadau stori, cymeriad a dangos heb ddweud. Bydd gwaith yn cael ei rannu i helpu i ysbrydoli, cefnogi a chreu blodeugerdd o waith o'r cwrs.




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022