Cyrsiau
9 cyrsiau a gafwyd
Creu basged gyda dolenni cyrannol.
Wythnos 1 - Creu gwaelod y fasged
Wythnos 2 - Gosod ffyn yng ngwaelod y fasged a gwehyddu gyda thair ffon
Wythnos 3 - Plethu Ffrengig
Wythnos 4 - yr Ymyl a'r ddolen
Mae pecynnau helyg ar gyfer pob basged, £10 yr un, wedi'u paratoi, i'w dosbarthu dri diwrnod ymlaen llaw
Cwrs byr yw hwn a fydd yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i greu tudalennau ar gyfer llyfr lloffion digidol a sut i gadw ac argraffu’r gwaith. Bydd yn cynnwys defnyddio ffotograffau, testun ac addurniadau i ddod a'ch tudalennau'n fyw er mwyn creu atgofion arbennig.
Cwrs byr sy’n cynnwys awgrymiadau gwych ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein.
I'r bobl hynny sy'n gweini neu trafod bwyd. Hylendid personal - beyd diogel - glanhau mewn adeiladau bwyd - gwastraff a rheolaeth pla.
Mae cyfrifoldeb arbennig gan bawb sy'n gweithio gyda bwyd dros ddiogelu iechyd cwsmeriaid a sicrhau bod y bwyd maent yn ei weini neu'n ei werthu yn hollol ddiogel i’w fwyta. Mae'r cwrs hwn yn addas i bawb sy'n gweithio ym maes arlwyo. Hylendid personol - bwyd diogel - glanhau adeiladau bwyd - gwastraff a rheoli plâu
Mae'r cwrs hwn yn cael ei diwtora a’i gyflwyno ar-lein, trwy ein platfform Parth Dysgu.
Bydd angen i'r dysgwyr ddefnyddio’r rhyngrwyd, ffôn clyfar ac ystafell heb unrhyw ymyrraeth ar gyfer yr asesiad ar-lein a fydd yn digwydd ar ddiwrnod gwahanol i'r cwrs ac a drefnir yn unigol gyda'ch tiwtor.
Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein i ddechrau.
Cafodd Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewrop ei llunio i ymdrin a chysyniadau allweddol cyfrifiadura, ei gymwysiadau ymarferol a’r defnydd a wneir ohonynt yn y gweithle a chymdeithas. Mae’n addas ar gyfer pawb sydd eisoes yn meddu ar sgiliau TG sylfaenol. Caiff ei rannu’n fodiwlau, y mae’n rhaid pasio pob un ohonynt cyn y caiff ECDL ei dyfarnu. Mae gwahanol gymwysterau ar gael - bydd hynny’n dibynnu ar y modiwlau a astudir.
Yn ddelfrydol i bobl sydd wedi prynu camera digidol a hoffai ddysgu'r pethau sylfaenol. Mae'r cwrs i ddechreuwyr yn dysgu nifer o agweddau technegol sylfaenol ar ffotograffiaeth ddigidol, gan gynnwys moddau camera, hyd canolbwynt, rheolau cyfansoddiad, cydbwysedd gwyn a chanfod eich ffordd o amgylch y dewislenni. Bydd y cwrs weddyn yn cwmpasu lanlwytho eich delweddau i'r cyfrifiadur.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Mae'n rhaid bod gennych fynediad at gamera digidol ar gyfer y cwrs.
Gostwng teimladau o straen gydag Ioga a gwella cadarnoldeb a ffyniant meddyliol.
Dyma gwrs ar gyfer y bobl hynny nad ydynt erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen, ond a hoffai roi cynnig arni. Nod y cwrs yw meithrin rhai o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau defnyddio cyfrifiadur a llechen. Mae’n gwrs i ddechreuwyr pur sydd am ddysgu wrth eu pwysau mewn awyrgylch cyfeillgar, ymlaciol. Achrediad ar gael.