Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


6 cyrsiau a gafwyd

Gwaith basged helyg

Cyflwyniad i dechnegau gwehyddu helyg. Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i'r hyn y mae dysgwyr yn dymuno ei wneud. Fel arfer, mae pawb yn dechrau gyda basged fach cyn symud ymlaen at bethau eraill, e.e. dringwyr i blanhigion pys, neu'n parhau i ddatblygu eu sgiliau o wneud basgedi. Codir tâl ar gyfer deunyddiau helygen o ran maint/nifer yr eitemau sy'n cael eu creu. Fel arfer, mae'n £5 ar gyfer basged fach a hyd at £10 i fasged fawr. Mae croeso i ddysgwyr ddefnyddio eu helygen eu hunain a baratowyd yn barod. Dewch â'r canlynol i'r dosbarth: Sisyrnau tocio, pwysau e.e. carreg fawr a chwistrellydd dŵr. Mae cyllell grefft yn ddefnyddiol ond nid yw'n hanfodol

Gweithdy dewch i wneud printiau

Gweithdy undydd rhagarweiniol i wneud printiau. Dewch i archwilio'r technegau amrywiol gan gynnwys printio bloc, printio leino a mono printio. Rhowch gynnig ar greu eich dyluniadau eich hun trwy wneud marciau a chael hwyl! Croeso i ddechreuwyr ond yn agored i rai â sgiliau mwy datblygedig i rannu eu hysbrydoliaeth greadigol! 10am-4pm Dewch â’ch cinio gyda chi.

Gweithdy dyfrlliw Graham Hadlow

Gweithdy a gynhelir gan arlunydd lleol, Graham Hadlow. Mae gan bob gweithdy thema neu faes arbenigedd gwahanol h.y. Awyr las a chymylau; adlewyrchiadau; golygfeydd eira; coed yn y gaeaf; machludoedd; bythynnod a pherspectif; traethau a morynnau, ayb...

Gwers enghreifftiol dyfrlliw Graham Hadlow

Gan ddilyn thema a ddewiswyd, bydd arlunydd dyfrlliw lleol, Graham Hadlow, yn darparu gwers enghreifftiol cam wrth gam a sylwebaeth barhaus gan ddisgrifio'r technegau y mae'n eu defnyddio a chynnig arweiniad ar ddeunyddiau i'w defnyddio. Mae'r sesiwn hon yn wers enghreifftiol ac felly mae'n addas ar gyfer pawb o bob gallu. Er na fydd modd i fynychwyr baentio'n weithredol yn ystod y sesiynau hyn, mae croeso iddynt ddod â llyfr nodiadau a phen ysgrifennu er mwyn cymryd nodiadau.

Gwniadwaith

Anelir y cwrs hwn at wneud gwnïo yn bleser a dangosir sut i dorri patrymau, gwneud dillad ac ymgymryd â newidiadau.

Gwniadwaith a dodrefn meddal

Nod y cwrs hwn yw gwneud gwnïo'n bleser a gall gynnwys gwneud ac addasu dillad a gwneud llenni a chlustogau.




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022