Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


4 cyrsiau a gafwyd

Gwaith basged helyg

Mae cyrsiau basgedwaith helyg yn rhoi cyflwyniad i dechnegau sylfaenol creu basgedi. Ar ôl i fyfyrwyr wneud basged gron, gallant weithio eu ffordd hyd at greu basgedi â seiliau a gwehyddiadau mwy cymhleth. Fel arfer, bydd dwy fasged yn cael eu gwneud yn ystod cwrs pedair neu bum wythnos. Gall myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau pellach symud ymlaen i fasgedi siopa a basgedi coed cyn mentro i fasgedi hirgrwn a gwaith sgwâr. Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr a phobl sydd am wella eu sgiliau ac maent yn boblogaidd iawn, p'un a ydych chi eisiau mynychu un gyfres neu sawl un. Darperir yr holl bren helyg, gyda llawer ohono wedi'i dyfu yn lleol yn Sir Benfro. Mae angen i fyfyrwyr ddod â rhai offer sylfaenol: pâr da o sisyrnau tocio, potel chwistrellu dŵr, cyllell dda (rhoddir cyngor yn y sesiwn gyntaf), nodwydd sachau neu debyg, a phwysau neu garreg (mae hen haearn yn addas iawn, neu garreg o'r traeth sy'n pwyso 1-2kg). Codir tâl am y deunyddiau yn ôl faint o helyg a ddefnyddir – fel arfer, rhwng £6 a £10 y fasged.

Gweithdy dyfrlliw Graham Hadlow

Gweithdy a gynhelir gan arlunydd lleol, Graham Hadlow. Mae gan bob gweithdy thema neu faes arbenigedd gwahanol h.y. Awyr las a chymylau; adlewyrchiadau; golygfeydd eira; coed yn y gaeaf; machludoedd; bythynnod a pherspectif; traethau a morynnau, ayb...

Hanes - Gwrthryfel

Mae’r cwrs deg wythnos hwn yn archwilio rhai o’r gwrthryfeloedd mwyaf dramatig yn hanes Cymru a Phrydain, megis Gwrthryfel y Werin ym 1381, Pererindod Gras yr unfed ganrif ar bymtheg, terfysgoedd Merthyr a Chasnewydd ym 1831 a 1839, terfysgoedd Beca a mwy. Beth ysgogodd y digwyddiadau hyn, pwy oedd yn rhan o'r gwrthryfela ac a wnaethant lwyddo i gyrraedd eu nod?

Hanes - Yr Hapsbwrgiaid

Cwrs deg wythnos sy'n archwilio twf yr Hapsbwrgiaid, eu dylanwad cynyddol ar y byd canoloesol, eu goruchafiaeth yng nghanolbarth Ewrop a'r hyn a ysgogodd eu cwymp yn y pen draw. Yn ogystal â rhoi sylw i'w ymerodraeth nerthol, bydd y cwrs hefyd yn edrych ar hanesion personol rhai o'r unigolion fu'n gwisgo Coron Ymerodrol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022