Chwilio am Gwrs
Sir Benfro yn Dysgu
Cyrsiau
7 cyrsiau a gafwyd
Defnyddio eich llechen - cyflwyniad
Bydd y cwrs hwn yn trin a thrafod sut i gychwyn arni â’r llechen, sut i lawrlwytho a defnyddio apiau, llyfrau, gemau, pori’r we, gwirio ac ysgrifennu negeseuon e-bost. Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu sut i warchod preifatrwydd a nodweddion diogelu eraill.Defnyddio eich llechen yn greadigol
Bydd y cwrs yn cynnwys tynnu lluniau a ffilmiau gan ddefnyddio camera’r llechen. Byddwch yn dysgu sut i olygu eich lluniau gan ddefnyddio nodweddion fel tocio, cylchdroi a gwella a sut i ddileu lluniau a ffilmiau diangen. Byddwch hefyd yn gweld sut mae chwilio am a lawrlwytho gwahanol apiau creadigol a sut mae rhoi gwahanol effeithiau ar eich lluniau, yn ogystal â chreu collage o luniau gan ddefnyddio delweddau, cefndiroedd, borderi a thestun. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys sut i rannu eich lluniau, ffilmiau a’ch gwaith celf creadigol ac yn edrych ar opsiynau argraffu.ICDL
Cafodd Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) ei llunio i ymdrin a chysyniadau allweddol cyfrifiadura, ei gymwysiadau ymarferol a’r defnydd a wneir ohonynt yn y gweithle a chymdeithas. Mae’n addas ar gyfer pawb sydd eisoes yn meddu ar sgiliau TG sylfaenol. Caiff ei rannu’n fodiwlau, y mae’n rhaid pasio pob un ohonynt cyn y caiff ICDL ei dyfarnu. Mae gwahanol gymwysterau ar gael - bydd hynny’n dibynnu ar y modiwlau a astudir.Ioga
Daw ioga o'r gair Sansgrif sy'n golygu uno ac mae felly'n awgrymu cytgord perffaith y corff, y meddwl a'r ysbryd. Mae'n addas i bawb o bob safon o ioga ac mae'n bwriadu cael gwybodaeth o ioga a chymwyster a dod a llawer o fuddiannau.Ioga - Ioga cadair
Cyflwyniad wrth eich pwysau i Ioga, ar eich eistedd. Ffordd dda o ddadflino ond ystwytho a symud mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol. Mae’r cwrs hwn yn addas i bob ffitrwydd. Rhyddhau straen a buddiannau tebyg i Ioga mewn amgylchedd cymdeithasol - trwy eistedd ar gadair!Ioga ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddwyn i ystyriaeth y gwahanol wynegon sy’n datblygu fel yr awn yn hŷn. Dysgwch rai ymarferion sy’n delio’n benodol â rhai mannau trafferthus fel poen yn y cefn isaf, technegau ymlacio, sut mae ymestyn yn ddiogel er mwyn parhau’n ystwyth. Dysgwch sut mae anadlu mewn ffordd a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio’r meddwl a rhoi llonyddwch mewnol i chwi.Iwcwlili
Dysgu tonau iwcwlili syml.instructional text |
Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael' |
ID: 1424, revised 22/09/2022