Cyrsiau
8 cyrsiau a gafwyd
I ddatblygu’r potensial sydd gan bawb i luniadu’n dda drwy arsylwi. I ddysgu dulliau lluniadu sy’n ddefnyddiol ar gyfer paentio â phaent olew a dulliau eraill sy’n berthnasol i baentio mewn dyfrlliw. I ddysgu technegau olew, acrylig, gouache a dyfrlliw a chynhyrchu paentiadau gorffenedig yn y cyfryngau hyn.
Bwriad y cwrs yw cyflwyno amrywiaeth o dechnegau paentio a lluniadu i ddatblygu sgiliau creadigol unigol. Bydd yn cwmpasu elfennau paentio a lluniadu, gan gynnwys cyfansoddiad a lliw. Bydd enghreifftiau o waith artistiaid eraill yn cynorthwyo’r dosbarthiadau er mwyn hyrwyddo eich gwaith celf eich hun.
Bydd y cwrs hwn yn trin a thrafod sut i gychwyn arni â’r llechen, sut i lawrlwytho a defnyddio apiau, llyfrau, gemau, pori’r we, gwirio ac ysgrifennu negeseuon e-bost. Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu sut i warchod preifatrwydd a nodweddion diogelu eraill.
Cynllunio a gwneud gwydr lliw. Mae costau’r deunydd yn ychwanegol.
Cynllunio a gwneud gwydr lliw. Mae costau’r deunydd yn ychwanegol.
Defnyddio Adobe Photoshop Elements - dysgwch sut mae dylunio, creu ac argraffu tudalen llyfr llofnod digidol, gan gynnwys creu portread bychan, cropio a rhwygo. ANGENRHEIDIOL CYN DECHRAU: Rhaid bod wedi mynychu Photoshop Elements - Cyflwyniad neu yn meddu ar wybodaeth sylfaenol o Photoshop Elements.
Galluogi dysgwyr i weithio a chyfathrebu ar-lein mewn modd diogel a chyfrifol gydag ymwybyddiaeth o’u hôl-troed digidol personol. Rhyngweithio’n ddiogel ar-lein, dysgu sut i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a defnyddio diogelwch cyffredinol i ddiogelu eich dyfeisiau digidol a’ch gwybodaeth.
Dyma gwrs ar gyfer y bobl hynny nad ydynt erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen, ond a hoffai roi cynnig arni. Nod y cwrs yw meithrin rhai o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau defnyddio cyfrifiadur a llechen. Mae’n gwrs i ddechreuwyr pur sydd am ddysgu wrth eu pwysau mewn awyrgylch cyfeillgar, ymlaciol. Achrediad ar gael.