Chwilio am Gwrs
Sir Benfro yn Dysgu
Cyrsiau
4 cyrsiau a gafwyd
Celf - Peintio ag olew a defnyddio tanbeintio monocrom
Cwrs byr yw hwn, a gynhelir dros dair wythnos yn olynol a bydd yn ymdrin â sawl agwedd ar y dechneg beintio hon. Bydd yn arddangos hen ddull peintio ag olew gan ddefnyddio llun is o'r enw grisaille sy'n cael ei ddefnyddio i adeiladu lliwiau ar ben tanbaentiad monocromatig solet. Dangosir i ddysgwyr sut i ddatblygu llun cychwynnol cryf, gan ddefnyddio du a gwyn yn unig, a thros y pythefnos dilynol adeiladu'r llun, gan ddefnyddio haenau o baent olew o'r enw gwydredd.Myfyrio
Myfyrio, y grefft o ryddhau emosiynau negyddol. Bydd y cwrs yn arwain cyfranogwyr ar daith drawsnewidiol tuag at heddwch mewnol a hunanddarganfyddiad. Mewn sesiynau lle cewch eich tywys, cewch ddysgu meithrin ymwybyddiaeth ofalgar, gan ganolbwyntio ar y foment bresennol a rhyddhau beichiau pryderon y gorffennol a’r dyfodol. Wrth fynd yn eich blaen, byddwch yn darganfod buddion dwys myfyrio, gan gynnwys canolbwyntio gwell, gwytnwch emosiynol, a mwy o ymdeimlad o lesiant.Sgiliau Microsoft Office
Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a thaflenni newyddion trwy Gyhoeddi Bwrdd Gwaith. Byddwch yn defnyddio rhaglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn cael achrediad am y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn meddwl am gael swydd neu os ydych eisiau adfywio eich sgiliau TG cyn dychwelyd i weithio.TGAU Mathemateg - CBAC
Beth am loywi eich gwybodaeth fathemategol ac ennill y sgiliau sydd eu hangen i sefyll eich arholiad TGAU Mathemateg yn y dosbarth hwn sy’n eich paratoi ar gyfer yr arholiad mewn cwrs 30 wythnos. Mae'r cwrs hwn yn gofyn am ymrwymiad a chymhelliant i lwyddo. Bydd pob dysgwr yn cael prawf sgiliau byr cyn cofrestru.instructional text |
Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael' |
ID: 1424, revised 22/09/2022