Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


3 cyrsiau a gafwyd

Celf - Paentiadau olew - Rembrandt a Velasquez

Mae’r gweithdy hwn yn archwilio’r cyferbyniad dramatig rhwng golau a thywyll a chyfansoddiadau ffigyrau deinamig yn seiliedig ar waith yr arlunwyr gwych. Bydd dysgwyr yn dewis o sawl enghraifft o waith yr artistiaid ac yn cael eu harwain trwy rai egwyddorion sylfaenol o amgylch y technegau a ddefnyddir.

Celf - Peintio olew

Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy'n dymuno dysgu am beintio ag olew. Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys: deunyddiau, paratoi'r papur, masau, gwerthoedd, golau a chysgod, persbectif atmosfferig, theori lliw, a chyfansoddiad. Yn ystod y tymor cyntaf y testun fydd bywyd llonydd, bydd yr ail dymor yn ymdrin â phortreadau a'r tymor olaf tirluniau. Fe'ch cynghorir i fynychu pob un o'r tri thymor i gael budd llawn y cwrs hwn, ond nid yw'n hanfodol os oes gennych brofiad blaenorol.

Sgiliau Microsoft Office

Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a thaflenni newyddion trwy Gyhoeddi Bwrdd Gwaith. Byddwch yn defnyddio rhaglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn cael achrediad am y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn meddwl am gael swydd neu os ydych eisiau adfywio eich sgiliau TG cyn dychwelyd i weithio.




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022