Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


12 cyrsiau a gafwyd

Celf - cyfryngau cymysg

Mae'r cwrs hwn yn datblygu sgiliau lluniadu, peintio, cyfansoddi a phersbectif gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys siarcol, lluniau pastel, dyfrlliw, acrylig ac olew. Yn addas ar gyfer pob gallu, bydd dysgwyr yn archwilio gwahanol bynciau a thechnegau ac yn magu hyder wrth greu gwaith celf gwreiddiol.

Celf - Datablygu ac arsylwi creadigrwydd

Dewch o hyd i ddulliau o arlunio a phaentio, trwy arsylwi yn y lle cyntaf; sut i ddatblygu eich gwaith o'r mannau cychwyn hyn trwy arbrofi gyda defnyddiau a thechneg, gan gynnwys collage a phrintio syml. Mewn awyrgylch hamddenol byddwch yn gallu dysgu technegau defnyddiol a ffyrdd o ddatblygu eich llwybr creadigol eich hun.

Celf - Lluniadu a phaentio

I ddatblygu’r potensial sydd gan bawb i luniadu’n dda drwy arsylwi. I ddysgu dulliau lluniadu sy’n ddefnyddiol ar gyfer paentio â phaent olew a dulliau eraill sy’n berthnasol i baentio mewn dyfrlliw. I ddysgu technegau olew, acrylig, gouache a dyfrlliw a chynhyrchu paentiadau gorffenedig yn y cyfryngau hyn.

Celf - Meistroli portreadau

Bydd y gweithdy hwn yn ymdrin â hanfodion portreadau, pwysigrwydd lluniadu, a dod â'r sgiliau hyn i'w defnyddio mewn gwaith portreadu effeithiol.

Celf - Peintio olew

Dysgwch hanfodion peintio olew, gan gynnwys deunyddiau, lliw, cyfansoddiad, golau a chysgod, a phersbectif. Archwiliwch fywyd llonydd, portreadau a phaentio tirweddau trwy brosiectau ymarferol. Addas ar gyfer dechreuwyr a’r rheini sy'n gwella eu sgiliau, a cheir y budd mwyaf o fynychu yn ystod y tri thymor.

Elfennau Photoshop - cyflwyniad

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i ddefnyddio Elfennau Photoshop ac yn addas ar gyfer y rheiny sydd heb weithio cyn hyn â delweddau.

Pilates

Mae Pilates yn ffurf ysgafn ond effeithiol o ymarfer corff sy'n canolbwyntio ar gryfhau craidd y corff. Byddwch yn gwella ystum y corff, hyblygrwydd, cydbwysedd a thôn y cyhyrau wrth wella llesiant cyffredinol trwy symudiadau rheoledig sy'n addas ar gyfer ystod eang o alluoedd a lefelau ffitrwydd.

Pilates - Ymestyn ac ystwytho

Hoffech chi wella eich hyblygrwydd, ystum y corff, cydbwysedd a chryfder craidd? Mae ‘Ymestyn a phlygu’ yn ddosbarth Pilates ysgafn, nad yw’n rhoi straen ar eich cymalau sy'n addas ar gyfer pob oed. Gan ddefnyddio technegau anadlu wedi'u ffocysu, mae'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r corff, cefnogi gweithrediad yr ysgyfaint a hyrwyddo ymlacio wrth wella ffitrwydd cyffredinol.

Sgiliau Microsoft Office

Addas i'r rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Mae'r cwrs achrededig hwn yn datblygu sgiliau ymarferol Microsoft Office.

Sgiliau Microsoft Office - Lefel 2

Yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 1 neu sydd eisiau gwella sgiliau TG. Dysgwch rannu dogfennau, gweithio ar y cyd, taenlenni, a chyflwyniadau gan ddefnyddio Microsoft Office. Ennill achrediad cydnabyddedig i gefnogi chwilio am swydd, datblygu gyrfa, neu ddychwelyd i'r gwaith.

Trwyddedu Personol

Mae'r cwrs ardystiedig undydd hwn yn hanfodol i unrhyw un sy'n gweithio ym maes manwerthu alcohol, neu'n paratoi i weithio ynddo. Mae'n cwmpasu gofynion y Ddeddf Trwyddedu, ceisiadau am drwyddedau personol, cyfrifoldebau cyfreithiol a chyfraith drwyddedu, gan ddarparu'r cymhwyster y mae ei angen i wneud cais am drwydded bersonol.

Yogalates

Darganfyddwch gymysgedd cytbwys o Ioga a Pilates wedi'u cynllunio i feithrin cryfder, gwella hyblygrwydd, a gwella lles cyffredinol.




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022