Chwilio am Gwrs

Sir Benfro yn Dysgu


Cyrsiau


5 cyrsiau a gafwyd

Llythrennedd

Dosbarthiadau i unrhyw un dros 16 mlwydd oed sydd eisiau gwella eu Saesneg. Efallai eich bod eisiau helpu eich plant â’u gwaith ysgol; paratoi tuag at gwrs coleg; magu hyder neu fanteisio ar gymhwyster i gael swydd neu ddyrchafiad yn eich gwaith. Mae achrediad ar gael: Agored Cymru neu City and Guilds SHC (Sgiliau Hanfodol Cymru) o lefel cyn-mynediad i Lefel 1 neu Lefel 2.

Sbaeneg ar gyfer gwylaiu

Datblygwch ddealltwriaeth ymarferol o hanfodion yr iaith a dysgwch sut i gyfathrebu’n llwyddiannus mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Addas ar gyfer dysgwyr sydd â dim ond gwybodaeth brin neu ddim o gwbl o’r iaith.

Sgiliau Bywyd

I’r rheiny sydd eisiau gwella eu sgiliau cyfathrebu neu fathemateg ac eisiau manteisio ar gymhwyster Agored Cymru neu gymhwyster CBAC.

Sgiliau Microsoft Office

Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a thaflenni newyddion trwy Gyhoeddi Bwrdd Gwaith. Byddwch yn defnyddio rhaglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn cael achrediad am y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn meddwl am gael swydd neu os ydych eisiau adfywio eich sgiliau TG cyn dychwelyd i weithio.

TGAU Iaith Saesneg - CBAC

Bwriedir y cwrs hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny a hoffai gael cymhwyster.




instructional text

Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael'

ID: 1424, revised 22/09/2022