Chwilio am Gwrs
Sir Benfro yn Dysgu
Cyrsiau
4 cyrsiau a gafwyd
Clustogwaith Traddodiadol
Clustogwaith traddodiadol yw crefft clustogi eitem o ddodrefn o’r cyfnod trwy ddefnyddio offer llaw, dulliau traddodiadol a deunyddiau organaidd. Byddwn yn defnyddio technegau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar agweddau crefftus gosod webin, stwffin, pwytho, padin a gorchudd. Y manylion sy’n cynrychioli’r grefft ac sy’n galluogi cadw’r grefft yn fyw. Mae’r cwrs yn agored i bawb o ddechreuwyr llwyr i’r rhai gyda phrofiad sydd eisiau hogi a datblygu eu sgiliau. Byddwch yn ymwybodol nad oes gennym weithdy gydag offer llawn, ond un o’r agweddau gwych ynghylch clustogwaith traddodiadol yw bod modd ei wneud gyda dim ond ychydig o offer llaw sylfaenol iawn. Nod y cwrs hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod â chadair i weithio arni, wrth ddysgu amrywiaeth o sgiliau traddodiadol. Fodd bynnag, byddwn mewn amgylchedd ystafell ddosbarth gyda lle i 10 o fyfyrwyr gan olygu bod meinciau’n brin. Felly mae, eitemau llai fel cadeiriau bwrdd, cadeiriau bach a stoliau i gyd yn brosiectau addas (enghreifftiau isod). Mae’n bwysig iawn eich bod yn gwneud un neu ddau o brosiectau llai sy’n cynnwys technegau sylfaenol cyn i chi fynd ymlaen i rai mwy cymhleth. Nid yw darnau mawr, fel cadeiriau breichiau, soffas a chaise longues yn brosiectau addas i ddod i’r dosbarth. Maent yn rhy fawr, trwm a lletchwith i’w symud ac nid ydynt yn ddiogel mewn ystafell ddosbarth pan fo lle’n brin ar gyfer meinciau a myfyrwyr. Bydd amgylchiadau gwaith cysurus yn cyfrannu at rwyddineb gweithio ac at ganlyniadau llwyddiannus yn y pen drawSgiliau Microsoft Office
Addas ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig neu sydd wedi cwblhau cwrs TG rhagarweiniol. Ar y cwrs hwn gallwch ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, creu a defnyddio taenlenni, defnyddio cronfa ddata, creu sioe sleidiau neu greu posteri a thaflenni newyddion trwy Gyhoeddi Bwrdd Gwaith. Byddwch yn defnyddio rhaglenni Microsoft Office 2016 gan gynnwys Word, Excel, Access, PowerPoint a Publisher. Byddwch yn cael achrediad am y cwrs hwn ac mae’n addas iawn os ydych yn meddwl am gael swydd neu os ydych eisiau adfywio eich sgiliau TG cyn dychwelyd i weithio.Tai Chi
Mae hon yn ffurf ar ymarfer Tsieineaidd sy'n hyrwyddo anadlu, ymlacio, cydgysylltu a chryfder mewnol.TGAU Iaith Saesneg - CBAC
Beth am loywi eich iaith a gwybodaeth ramadegol o’r Saesneg ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i sefyll eich arholiad TGAU Saesneg Iaith yn y dosbarth hwn sy’n eich paratoi ar gyfer yr arholiad mewn cwrs 30 wythnos. Mae'r cwrs hwn yn gofyn am ymrwymiad a chymhelliant i lwyddo. Bydd pob dysgwr yn cael prawf sgiliau byr cyn cofrestru.instructional text |
Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael' |
ID: 1424, revised 22/09/2022