Chwilio am Gwrs
Sir Benfro yn Dysgu
Cyrsiau
4 cyrsiau a gafwyd
Ioga - Ymlacio, anadl, myfyrdod a sain
Gellir ei wneud mewn cadair neu ar fat ioga. Cewch eich arwain trwy dechnegau ymlacio sylfaenol, technegau anadlu a thechnegau myfyrio hawdd eu dilyn. Bydd y sesiwn yn gorffen gydag ymlacio corff llawn dan arweiniad o'r enw ioga nidra. Bydd y sesiwn o fudd i bawb, yn enwedig y rhai sydd angen rheoli marcwyr straen.Ioga ysgafn
Dosbarth ysgafn lle byddwch yn archwilio holl agweddau ioga traddodiadol, o symudiad ac osgo (asana) i anadlu ac ymlacio. Mae croeso i ddechreuwyr yn ogystal â phobl sydd wedi colli’r arfer. Y nod yw annog symudedd ac addysgu technegau lleddfu straen ac ymlacio meddwl i’ch helpu i fod yn fwy llonydd, yn fwy iach ac ymlacio fwy.Ysgrifennu creadigol
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a hyder mewn ysgrifennu creadigol. Gellir astudio barddoniaeth, ysgrifennu straeon byrion, y nofel, ysgrifennu sgriptiau a phob agwedd ar ysgrifennu ffuglen a ffeithiol.Ysgrifennu creadigol - cyflwyniad
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ysgrifennu a bydd yn cynnwys ymarferion ysgrifennu ymarferol i ddechrau a helpu i oresgyn ofn y "dudalen wag". Bydd hefyd yn ymdrin â phynciau fel chwarae gyda berfau, acrostig, posau, haiku, byrddau stori, cofiant, osgoi ystrydeb, deialog, awgrymiadau stori, cymeriad a dangos heb ddweud. Bydd gwaith yn cael ei rannu i helpu i ysbrydoli, cefnogi a chreu blodeugerdd o waith o'r cwrs.instructional text |
Cliciwch ar deitl y cwrs i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael' |
ID: 1424, revised 22/09/2022